GŴYL O SYNIADAU 2021
Ar ôl llwyddiant blynyddoedd blaenorol, mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Gŵyl o Syniadau yn dychwelyd. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal Gŵyl o Syniadau 2021 ar-lein, ar y dyddiadau canlynol:
- 14 Ebrill
- 21 Ebrill
- 28 Ebrill
- 5 Mai
Rydym ar binnau i ddathlu ein partneriaid academaidd, diwydiannol a chymunedol, rhyngwladol drwy fideos, sgyrsiau, a phaneli dadlau! Yn ogystal, i gael diweddariadau dilynwch ein cyfrif Twitter @CompFoundry #GŵylFfowndri
MAE COFRESTRU AR AGOR NAWR!
Cofrestrwch ar Eventbrite am 1 tocyn i allu mynychu POB un o'r 4 diwrnod! Cofrestrwch YMA
RYDYM WRTH EIN BODD O GYHOEDDI EIN BOD YN CROESAWU SIARADWYR GWADD ANHYGOEL I'R ŴYL, DILYNWCH Y DDOLEN ISOD I DDARLLEN MWY AM EU STORI.
Dros bedwar diwrnod yr Ŵyl byddwn yn arddangos yr ymchwil anhygoel a diddorol sydd wedi deillio o gysylltiadau a wnaed yn ystod oes y prosiect. Mae Cherish, dros y blynyddoedd, wedi ceisio deall anghenion pobl, rhoi pobl wrth wraidd arloesi a thaflu goleuni ar y gymuned, gan ddangos iddynt sut y gall technoleg newid y byd er gwell.
Yn ystod yr Ŵyl byddwn yn croesawu prosiectau megis; Sefydliad AWEN, Treftadaeth Ddigidol:Gwaith Copr yr Hafod a Bae Copr. Byddwn hefyd yn clywed gan academyddion Prifysgol Abertawe, Yr Athro Alan Dix, Dr Matt Wall, Yr Athro Yvonne McDermott-Rees, Yr Athro Nuria Lorenzo-Dus a'r Athro Stuart Macdonald, a fydd yn mynd â ni ar daith drwy eu hymchwil a datgelu eu canfyddiadau.
cysylltwch â ni
Os oes gennych gwestiynau neu eisiau cymryd rhan, cysylltwch â ni!
Ebost: computationalfoundry@swansea.ac.uk