O fis Ebrill 2020, hyd nes y gallwn gwrdd fel cymuned yn y Ffowndri Gyfrifiadol ar 12 a 13 Ionawr 2021, byddwn yn cynnal llu o ddigwyddiadau ar-lein i ddathlu Gŵyl o Syniadau 2020. Gellir dod o hyd i fanylion am y digwyddiadau a sut i gael mynediad iddynt isod a byddwn yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd. Edrychwn ymlaen at gysylltu â chi'n fuan.
Amserlen digwyddiadau
Cyfres podlediad Batsapp
Mae'r Prosiect Batsapp yn bodlediad dogfennol sy'n croniclo profiad dynol o wybodaeth anghywir ar-lein yn ystod argyfwng Nipah 2018. Tra bod gwybodaeth anghywir ar-lein wedi treiddio ein bywydau bellach, mae'r ymateb Nipah yn stori o sut ddaeth yr unigolion, cymunedau a sefydliadau a gafodd eu heffeithio fwyaf gan wybodaeth anghywir at ei gilydd i'w goresgyn. Mae'r gyfres hon wedi'i gosod yn nhalaith odidog Kerala yn India, lle cafodd y sefydliad iechyd y cyhoedd yno ganmoliaeth fyd-eang am ei waith yn rheoli'r argyfwng Nipah angheuol. Rydym hefyd yn sgwrsio ag arbenigwyr rhyngwladol ynglŷn â'r ffyrdd y mae ein meddwl yn prosesu gwybodaeth anghywir a beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer cyfathrebu risgiau yn ystod argyfyngau iechyd.
Caiff y gyfres podlediad dogfennol hon, sydd newydd ei chyhoeddi, ei chefnogi gan Gronfa Cherish-DE Seedcorn.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r prosiect, ewch i https://www.misinfodemic.org/ neu cysylltwch â'r Prif Ymchwilydd, Dr. Santosh Vijaykumar santosh.vijaykumar@northumbria.ac.uk Proffil Twitter: @percer
Gallwch wrando ar y podlediad yma
iTunes: https://tinyurl.com/ycufrtye
Spotify: https://tinyurl.com/ycd2427o
Soundcloud: https://tinyurl.com/ya9en4pb
16 Ebrill a 23 Ebrill: Gweithdy ar Fideo ar gyfer Addysg HCI
Cymhelliant
O ystyried y newidiadau i arddull addysgu sy'n ofynnol yn ystod cyfnodau o ymbellhau cymdeithasol, hoffem drafod y problemau yr ydym yn eu profi yn y gymuned HCI a pha ddatrysiadau sydd ar gael. Mae rhai ohonom wedi bod yn ceisio trawsnewid o amgylchedd wyneb yn wyneb i amgylchedd ar-lein, tra mae eraill eisoes wedi bod yn cynnal darlithoedd ar-lein ers sbel, ond angen adolygu eu dulliau asesu.
Hoffem feddwl am oblygiadau hirdymor y newid hwn y mae'r cyfyngiadau symud wedi'i orfodi ar sefydliadau AU a'n dysgu yn ogystal ag addasu i ofynion ar draws y sefydliad ac achredwyr.
30 Ebrill Fy Ymchwil - Pam mae'n Bwysig
Ymunwch â ni am y diweddaraf yn ein cyfres seminar wythnosol, Fy Ymchwil: Pam mae'n Bwysig, lle bydd academyddion sy'n gysylltiedig â'r Ffowndri Gyfrifiadol yn sgwrsio'n anffurfiol am eu diddordebau ymchwil. Cynhelir y sesiwn hwn rhwng 11:00-11:30am, fel rheol gyda 10 munud o siarad gan y siaradwr gwadd a 20 munud o holi ac ateb gan y gynulleidfa.
Ar 30 Ebrill, bydd Professor Alan Dix, Cyfarwyddwr y Ffowndri Gyfrifiadol, yn traddodi sgwrs am y canlynol
Pam mae pandemigau a newid yn yr hinsawdd yn anodd eu deall, ac a allwn ni helpu?
Crynodeb: Mae'r materion cymhleth sy'n diffinio neu'n heneiddio, pandemig Covid-19, newid yn yr hinsawdd a Brexit yn achosi dryswch ymhlith gwleidyddion ac is-gangellorion yn ogystal â'r cyhoedd. Byddaf yn archwilio rhai o'r rhwystrau gwybyddol i ddeall y materion hyn gan gynnwys cyfrifoldeb gwasgaredig, twf esbonyddol, meddwl hanfodol, ac effeithiau adborth rhwydwaith. Yn bwysicach, gofynnaf a allwn ni, fel ymchwilwyr HCI a dylunwyr rhyngweithio, gyfrannu at offer a thechnegau i helpu.
Mae croeso i bawb ymuno â ni ar gyfer y sgwrs hon, a gynhelir drwy Zoom:
https://swanseauniversity.zoom.us/j/94179326980
Rhif y Cyfarfod: 941 7932 6980
7 Mai, Dr Tracy Evans, Swyddog Ymchwil Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe:
"Virtually All Here: Reflecting on our current heritage praxis at Hafod-Morfa Copperworks"
14 Mai, Dr Yan Wu, Athro Cyswllt y Cyfryngau a Chyfathrebiadau ym Mhrifysgol Abertawe:
"Why Computer Science needs the Humanities: Sharing experience of my CHERISH-DE funded projects"
21 Mai, Dr Angharad Closs Stephens, Uwch Ddarlithydd Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe:
"The Digital and Spatial Effects of the 2017 Manchester bombings"
28 Mai, Dr Noemi Picco, Darlithydd Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe:
"Using maths to manage cancer"
4 Mehefin, Tashi Gyaltsen, Swyddog Ymgysylltu Busnes i'r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol yn y Ffowndri Gyfrifiadol:
"Business Research Collaborations at the CDT in the Computational Foundry"
11 Mehefin, Dr Randy Wright, Athro Cyswllt a Chyfarwyddwr Rhaglen Gwyddor Actiwaraidd, yr Adran Fathemateg ym Mhrifysgol Abertawe
"What are Actuaries Doing About COVID-19?"
Dyddiad i'w Gadarnhau, Thomas Reitmaier, Ymchwilydd ym mhrosiect ymchwil CHERISH-DE
"An Honest Conversation: Transparently Combining Machine and Human Speech Assistance in Public Spaces"
5-29 Mai: Self Sustainable CHI
Bydd academyddion o'r Ffowndri Gyfrifiadol yn cynnal gweithdy rhithwir Self Sustainable CHI 2020 ynglŷn â rhyngwynebau a rhyngweithiadau hunanysgogol, cynaliadwy, ac yn cyfrannu at elfennau allweddol y rhaglen.
Trosolwg o'r Gweithdy
Mae ymlediad parhaus dyfeisiau cyfrifiadura yn dod law yn llaw â gofyniad ynni sy'n cynyddu'n fythol, yn ystod y broses gynhyrchu a'i ddefnyddio. Wrth i ymwybyddiaeth o'r argyfwng hinsawdd godi, mae dyfeisiau rhyngweithiol hunanysgogol a chynaliadwy (Hunangynhaliol) yn dueddol o chwarae rôl werthfawr. Yn y gweithdy hwn, rydym yn dwyn ynghyd ymchwilwyr ac ymarferwyr o'r diwydiannau dylunio, cyfrifiadureg, gwyddor deunyddiau, peirianneg a gweithgynhyrchu sy'n gweithio ar y maes ymdrech newydd hwn. Bydd y gweithdy yn darparu llwyfan i gyfranogwyr adolygu a thrafod heriau a chyfleoedd sydd ynghlwm â rhyngwynebau a rhyngweithiadau hunanysgogol a chynaliadwy, datblygu gofod dylunio a dynodi cyfleoedd am waith ymchwil yn y dyfodol.
Bydd y gweithdy yn dechrau gyda chyflwyniad a throsolwg o'r heriau a'r cyfleoedd mawr mewn ymchwil rhyngwynebau a rhyngweithiadau hunanysgogol, cynaliadwy. Yna, bydd tri cham i hyrwyddo agenda ar gyfer ymchwil ac arloesedd y dyfodol. Bydd papurau a phrototeipiau'r cyfranogwyr yn bwydo i'r tri cham hyn.
Cam 1: Posibiliadau technolegol: Bydd y cam hwn yn canolbwyntio ar atgyfnerthu dealltwriaeth o'r deunyddiau, dulliau, technolegau sydd ar gael ar gyfer rhyngwynebau a rhyngweithiadau hunanysgogol.
Cam 2: Newid Sylweddol yn Rhyngwynebau a Rhyngweithiadau: O ystyried y deunyddiau, dulliau, a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg, bydd y cam hwn yn archwilio nodweddion y modelau rhyngweithio newydd y gallant eu cyflwyno. Er enghraifft, byddwn yn ystyried gronynnedd y mewnbwn/allbwn a dynameg y rhyngwyneb (e.e. cyflymder yr ymateb). Yn ogystal, byddwn yn ystyried cymwysiadau posibl a gyflwynir gan y newid sylweddol hwn, a phwysleisio'r amserlenni mabwysiadu posibl.
Cam 3: Gosod agenda trawsffurfiad: Bydd canlyniad y cam hwn yn gyfuniad cydlynol o gyfarwyddyd ymchwil a fydd yn galluogi ymchwilwyr eraill i olrhain y nod o greu dyfodol technolegol a fydd yn galluogi rhyngweithiadau digidol cyfoethog drwy arloesedd cyfrifol ac ar sail cynaliadwyedd.
Diwrnod y Gweithdy: Mai, 5-29, 2020 (Rhithwir)
Mae rhagor o wybodaeth i'w chael yn http://cs.swansea.ac.uk/~SelfSustainableCHI/
11 Mai: Technical Creativity is for Everyone
Trosolwg o'r seminar
Mae angen i ni gyd fod yn greadigol yn ein gwaith: saernïo cwrs newydd, ysgrifennu papur ymchwil, dylunio cynnyrch neu algorithm newydd; ond mae nifer o bobl yn meddu ar y ffordd o feddwl "nid wyf i'r math hwnnw o berson". Celwydd noeth! Yn union fel mae cyfrifiannell yn eich helpu chi i adio rhifau, gall yr offer cywir eich galluogi chi i fod yn llawer mwy creadigol nag y dychmygwch.
Pwyswch ar y ddolen isod i weld y seminar hon a gyflwynir gan yr Athro Alan Dix, gan gynnwys fideo a sleidiau
10 Mehefin: Cyfres seminarau ymchwil diogelwch
Siaradwr: Yr Athro Markus Roggenbach
Teitl y seminar: Formal verification of security protocols in CSP
Crynodeb: Mae protocolau diogelwch yn ymwneud â'r cwestiwn sut gall unigolyn gyfathrebu'n 'ddiogel' er ei fod yn cyfnewid negeseuon mewn amgylchedd 'gelyniaethus', na ellir ymddiried ynddo. Mae'r sgyrsiau yn cyflwyno cysyniadau cyffredinol cryptograffeg, protocol cyfathrebiadau, nodau diogelwch, a phrotocolau diogelwch. O ystyried y protocol drwg enwog Needham-Schroeder i'w ddilysu, mae'n dangos ei bod hi'n anodd cael dyluniad y protocolau diogelwch yn 'gywir'. Mae hyn yn cynyddu'r angen am ddull gweithredu manwl gywir i ddadansoddi protocolau diogelwch ar lefel dylunio. I'r perwyl hwn, byddwn yn dangos sut i fodelu protocolau diogelwch a nodau diogelwch yn y broses algebra CSP.
11 Mehefin: Cyfres o sgyrsiau COSMOS
Ymunwch â ni ar gyfer y sgwrs COSMOS nesaf ddydd Iau 11 Mehefin am 14:30
Siaradwr: Sofya Lyakhova, Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach
Teitl: Ten years of successful online teaching: engaging students and developing their resilience in learning mathematics.
Crynodeb: Ers 2011, mae Adran Fathemateg Prifysgol Abertawe wedi bod yn cynnal Rhaglen Gymorth Mathemateg Bur Cymru ac wedi ymgysylltu â datblygu dysgu mathemateg ar-lein ac o bell ar ôl 16. Yn y sgwrs hon, byddwn yn myfyrio ar yr heriau y deuthum ar eu traws wrth addysgu mathemateg o bell, canfyddiadau ein hymchwil gyda myfyrwyr ac athrawon ynglŷn ag addysgu ar-lein a thros fideo, a myfyrio ar drafodaethau diweddar gyda myfyrwyr israddedig, darlithwyr ac athrawon yn ystod y cyfnod clo. Byddwn yn trafod sut i ymgysylltu â myfyrwyr yn llwyddiannus wrth addysgu mathemateg o bell.
24 Mehefin: Digitally Included?
Mae'r Tîm Treftadaeth ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn gweithio gyda chymunedau yn Hafod dros y chwe mis diwethaf fel rhan o brosiect wedi'i ariannu gan UKRI a Cherish DE, sef 'Copperopolis: Exploring Place-Making in the Lower Swansea Valley.' Wrth i'r cyfyngiadau clo ddod i rym, daeth cysylltu â'r cyfranogwyr yn gynyddol anodd yn sgil y lefelau isel o ymgysylltiad digidol. Wrth sgwrsio gyda Swansea Music Art Digital (MAD), daeth yn amlwg bod ystod o rwystrau i'r gymuned leol o ran mynd ar-lein, gan gynnwys diffyg sgiliau digido, dim mynediad at ddyfais neu dim pecyn data i gefnogi gweithgarwch rheolaidd ar-lein. Mae'r gwahaniaeth rhwng y rheiny sy'n gallu mynd ar-lein tra eu bod yn ynysu'n gymdeithasol a'r rheiny nad ydynt yn gallu mynd ar-lein yn drawiadol ac yn destun pryder.
Yn eu cyhoeddiad diwethaf ‘UK Consumer Digital Index 2020’, mae Lloyds Bank yn nodi:
"Gyda dinasyddion y DU yn aros gartref i gadw'n ddiogel, mae technoleg wedi dod yn allweddol er mwyn cadw mewn cysylltiad â phobl, gweithio o bell a chael mynediad at wybodaeth allweddol. Fel mae'r adroddiad hwn yn ei ddangos, er bod llawer o'r genedl wedi rhoi eu gwaith a'u bywydau ar-lein, i gyfran helaeth o boblogaeth y DU, nid yw hyn yn bosibl."
Mae'n annichonadwy oherwydd:
Nid yw poblogaeth amcangyfrifedig o 9 miliwn o bobl (16%) yn gallu defnyddio'r Rhyngrwyd ar eu dyfeisiau heb gymorth;
nid yw oddeutu 6.5 miliwn (12%) o bobl yn gallu agor apiau;
Nid yw dau draean (66%) o'r rheiny sydd ar-lein wedi defnyddio'r Rhyngrwyd neu apiau digidol ac offer i reoli eu hiechyd;
nid oes gan 52% o weithlu'r DU allu digidol cyflawn.
Hoffem ddwyn grŵp o bobl ynghyd: academyddion o Brifysgol Abertawe, athrawon lleol a sefydliadau'r trydydd sector i ddechrau'r sgwrs ynglŷn â sut gallwn ni fynd i'r afael â'r materion hyn gyda'n gilydd. Beth yw'r problemau sylfaenol? Pa adnoddau sydd eu hangen? A oes enghreifftiau o lefydd yn y DU sydd â chyfraddau llawer uwch o gynhwysiad digidol? Sut gallwn ni gynyddu cynhwysiad digidol i'n cymunedau yn Abertawe? Sut mae'r brifysgol yn mynd i'r afael â'r mater mynediad digidol i fyfyrwyr?
Bydd y sesiwn yn dechrau gyda thair sgwrs fer/ysgogiadau gan Dr Tracy Evans (Swyddog Ymchwil Creadigol), Swansea MAD a'r Athro Alan Dix (Cyfarwyddwr y Ffowndri Gyfrifiadol). Yna bydd sesiwn ystafell ymneilltuol ac adborth i'r grŵp mwy wedi hynny.
Bydd y digwyddiad yn gyfle i rannu profiadau ac arbenigedd, ac yn agwedd gydweithredol at ymdrin â mater hollbwysig ein hoes.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.eventbrite.co.uk/e/digitally-included-tickets-108843361424
7 Gorffennaf: Hanes Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron
Gweithdy ar-lein Dydd Mawrth 7 Gorffennaf 2020
Galwad Lawn am Gyfranogiad i ddod yn fuan...
Y bwriad yn wreiddiol oedd cynnal y gweithdy hwn yn y Gynhadledd HCI Brydeinig ym Mhrifysgol Keele ym mis Gorffennaf. O ganlyniad i Covid-19, mae'r gynhadledd wedi cael ei gohirio am eleni, ond bydd y gweithdy hwn yn cael ei gynnal o hyd ar
Bydd y gweithdy hwn yn dwyn ynghyd y rhai hynny sydd â diddordeb mewn gwarchod hanes bregus rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron. Mae hyn yn cynnwys y rhai hynny sydd â diddordeb yn y strategaethau i gefnogi ymdrechion ym maes HCI a meysydd eraill sydd â phroblemau tebyg (y tu mewn a'r tu allan i'r byd academaidd), yn ogystal â'r rheiny sy'n awyddus i ddeall y gwersi o orffennol HCI ar gyfer datblygu'r maes i'r dyfodol.
Pwyllgor sy'n Trefnu
- Alan Dix, Ffowndri Gyfrifiadol, Prifysgol Abertawe
- Michael Harrison, Prifysgol Newcastle a Phrifysgol Abertawe
- John Knight, Prifysgol Aalto, y Ffindir
- Stephen Lindsay, Ffowndri Gyfrifiadol, Prifysgol Abertawe
- Tom McEwan, independent
- Dianne Murray, independent
- Harold Thimbleby, Ffowndri Gyfrifiadol, Prifysgol Abertawe
- John Tucker, Casgliad Hanes Cyfrifiadura a Ffowndri Gyfrifiadol, Prifysgol Abertawe
22-24 Gorffennaf: CUI 2020
Dr Leigh Clark, Darlithydd Cyfrifiadureg yn y Ffowndri Gyfrifiadol, yw Cadeirydd y Rhaglen ar gyfer CUI 2020.
Nod CUI 2020 yw datblygu cymuned gydweithredol ymhellach ar sail materion rhyngweithio rhwng bodau dynol a chyfrifiaduron o ran technoleg lafar ac iaith, gyda diddordeb arbennig mewn materion yn seiliedig ar ddamcaniaeth a materion gwyddoniaeth gymhwysol ym maes llafar a rhyngweithiadau defnyddwyr sgyrsiol ar sail negeseuon testun.
Mae diddordeb cynyddol wedi bod yn rhyngweithiadau ar sail iaith gyda thechnoleg. Wedi'i hyrwyddo gan lwyddiant masnachol dyfeisiau cynorthwywyr personol deallusol, megis Alexa a Google Home, i'r twf yn nefnydd sgwrsfotiau mewn lleoliadau masnachol, mae'r nifer o ryngweithiadau ar sail iaith a sgyrsiau naturiol yn codi. Yn seiliedig ar gynhadledd ACM In-Cooperation agoriadol, lwyddiannus yn 2019, nod CUI 2020 yw datblygu cymuned gydweithredol ymhellach ar sail materion rhyngweithio rhwng bodau dynol a chyfrifiaduron o ran technoleg lafar ac iaith, gyda diddordeb arbennig mewn materion yn seiliedig ar ddamcaniaeth a materion gwyddoniaeth gymhwysol ym maes llafar a rhyngweithiadau defnyddwyr sgyrsiol ar sail negeseuon testun. Mae CUI 2020 yn awyddus i ddwyn ynghyd cymunedau perthnasol (e.e. ISCA, ACM SIGCHI, CogSci) i gyhoeddi, lledaenu ac arddangos ymchwil o'r radd flaenaf ac o ansawdd uchel sy'n ymwneud â'r maes, hyrwyddo mewnwelediad a dadl yn y ddisgyblaeth ddifyr a phwysig hon o fewn rhyngwynebau iaith.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad, ewch i https://cui2020.com/