Yn yr Adran Peirianneg Gemegol, mae ein cyfleusterau'n cynnwys offer o'r radd flaenaf sy'n debyg iawn i'r tasgau a gyflawnir gan ddiwydiant. Drwy ddefnyddio ymagwedd ymarferol, rydym yn ceisio rhoi i’n myfyrwyr y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ragori yn eu gyrfaoedd ar ôl graddio o Abertawe.
CANOLFAN BEILOT JACK RICHARDSON
Mae gennym Ganolfan Beilot Jack Richardson sy'n cynnwys amrywiaeth o offer ar raddfa beilot gan gynnwys:
- Dwy Golofn Ddistyllu (wedi'u hadeiladu'n arbennig ar ein cyfer ni yn Abertawe)
- Dau Anweddydd Haen
- Nifer o fathau gwahanol o Gyfnewidwyr Gwres
- Gwelyau llifol
- Rig pilenni uwch-hidlad
- Rig pilenni osmosis gwrthdro
- Rig gwlybaniaeth a chlystyru
Rydym hefyd yn cynnal modiwl gweithrediadau uned yn y labordy (EG220) lle mae myfyrwyr yn dylunio ac yn adeiladu a phrofi eu rig graddfa beilot eu hunain o'r 'brîff' y rhoddwyd iddynt, gan ddangos iddynt y math o waith y byddant yn ei wneud mewn diwydiant unwaith byddant wedi graddio o Abertawe.
LABORDY PEIRIANNEG GEMEGOL
Yn y labordy, rydym yn cynnal 'cemeg fainc' draddodiadol ar gyfer hyd at 70 o fyfyrwyr, ac mae gennym hefyd nifer o ddarnau o gyfarpar peirianneg proses graddfa pen mainc megis gwelyau llifol, colofnau distyllu a chyfnewidwyr gwres. Caiff y rhain eu defnyddio gan fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf cyn iddynt 'raddio' i'r cyfarpar peilot yn B013 yn yr ail flwyddyn.
Yn C018, (yn CO18a) mae gennym labordy sy'n cynnwys cyfarpar dadansoddol ar gyfer dulliau megis:
- Sbectrometreg UV-Vis
- FT-IR (Sbectrometreg Is-goch)
- Sbectrometreg fflworoleuedd
- Cromatograffeg Nwy (GC)
- HPLC (cromatograffeg hylif perfformiad uchel)
- Sbectrometreg Allyriadau Atomig Plasma Microdon (MP-AES)
- Cromatograffeg Ïonau