Rhaglen Adnoddau a Gweithredu ar Wastraff
Cefndir
Comisiynodd y Rhaglen Adnoddau a Gweithredu ar Wastraff (WRAP) dîm Gwasanaethau Masnachol Prifysgol Abertawe i’w cynorthwyo wrth ddatblygu eu model partneriaeth i ailddosbarthu bwyd dros ben. Mae WRAP yn rhaglen genedlaethol sydd â’r nod o leihau a, lle bynnag y bo modd, ailddefnyddio gwastraff bwyd a gynhyrchir mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys gweithgynhyrchu, lletygarwch a manwerthu.
Yr Her
Gofynnwyd i’r tîm Gwasanaethau Masnachol:
- sefydlu cynllun peilot i ailddosbarthu bwyd ar y cyd ag archfarchnadoedd Morrisons yn Abertawe a Chaerdydd
- creu model gweithredol a llawlyfr i sefydliadau eu defnyddio wrth roi eu cynlluniau ailddosbarthu bwyd eu hunain ar waith
- darparu cyngor ynghylch sut gall myfyrwyr gwirfoddoli gynorthwyo mewn cynlluniau tebyg
Mynd i’r Afael â’r Her
Aeth y tîm ati i recriwtio gwirfoddolwyr o blith ein myfyrwyr, a manteisiodd ar gefnogaeth ar draws Prifysgol Abertawe, gan ddefnyddio arbenigedd mewn meysydd megis rheoli gwastraff, gwyddorau bwyd, cynaladwyedd, cyfathrebu ac ymgysylltu.
O ganlyniad i’r ffordd hon o weithio, llwyddodd y tîm i:
- nodi rhanddeiliaid a phartneriaid posib ar gyfer y cynlluniau yng Nghaerdydd ac Abertawe a dod â nhw ynghyd.
- gweithio gyda’r gymuned leol a’r timau Cydlynu Ardal Leol i helpu i wneud dosbarthu bwyd dros ben yn sylfaen ar gyfer ymgysylltu ag aelodau’r gymuned sy’n profi arwahanrwydd cymdeithasol.
- cynnal cynllun peilot ailddosbarthu gwastraff bwyd yn Abertawe, gan weithio gyda WRAP, cynllun gwirfoddoli Prifysgol Abertawe, Darganfod, Morrisons a nifer o’r elusennau a fyddai’n elwa o’r cynllun
- creu fframwaith manwl o weithrediadau a chanllawiau ‘sut i’w wneud’ ar gyfer cynlluniau ailddosbarthu bwyd yn y dyfodol
Canlyniadau Llwyddiannus
Cynhaliodd y tîm o Brifysgol Abertawe gynllun peilot llwyddiannus, gan helpu WRAP i sefydlu model cynaliadwy i roi cynlluniau partneriaeth tebyg ar waith ar gyfer ailddosbarthu bwyd
dros ben.
Ar ôl i’r prosiect peilot ddod i ben, cychwynnwyd digwyddiad ymgysylltu cymunedol wythnosol sydd, hyd yn hyn, wedi gwasanaethu miloedd o bobl leol ar sail ‘talu fel y mynnwch’.
"Mae potensial go iawn i ddefnyddio myfyrwyr fel gwirfoddolwyr i gefnogi cynlluniau yng Nghymru a ledled y DU, ac mae’n werth ei wneud, ond mae cefnogaeth eu prifysgolion yn bwysig – i ddarparu cyfleusterau, gwybodaeth ac adnoddau. Credwn fod llawer o brifysgolion ledled y DU yn awyddus i gefnogi eu cymunedau lleol a, thrwy gymryd rhai camau cymharol fach, gallant wneud gwahaniaeth sylweddol."
Christine Watson MBE, Cyfarwyddwr Cynllun Gwirfoddoli Darganfod
Os oes gennych brosiect a allai elwa o gydweithio â Phrifysgol Abertawe, cysylltwch â ni