Mae Prifysgol Abertawe Gwobr Dylan Thomas yn falch o gyhoeddi rhestr fer 2021.
Namita Gokhale, Cadeirydd y Beirniaid: "Mae’n wefr gennym gyflwyno'r rhestr fer eithriadol eleni – mae wir yn ddetholiad o ysgrifennu o'r radd flaenaf, sy’n haeddu cydnabyddiaeth fyd-eang, gan chwe ysgrifennwr ifanc neilltuol. Hoffwn annog darllenwyr i gydio mewn copi o bob un o'r llyfrau beiddgar, dyfeisgar ac arbennig hyn, a dathlu sut maen nhw'n herio rhagdybiaethau, yn gofyn cwestiynau newydd am sut rydym yn diffinio hunaniaeth a'n perthnasoedd, a sut rydym yn cyd-fyw yn y byd hwn. Llongyfarchiadau i'r ysgrifenwyr hynod ddawnus hyn - maen nhw'n feistri ar grefft adrodd straeon ym mhob ystyr y gair."
Alligator and Other Stories gan Dima Alzayat (Picador)
Yn y casgliad Alligator and Other Stories, mae Dima Alzayat yn taflu goleuni, mewn modd llachar, ar yr ymdeimlad o fod yn ‘rhywun amgen’: fel Syriad, fel Arabes, fel mewnfudwr ac fel menyw. Mae pob un o'r naw stori'n rhoi cipolwg ar yr achlysuron hynny pan geir amgylchiadau anghyffredin sy'n dangos, a hynny'n sydyn, y gwahaniaeth rhyngom a'n cymdogion, pan fydd ein gwahaniaeth yn amlwg iawn. Yma, gwelwn fenywod peryglus yn tramgwyddo, plant coll yn Efrog Newydd y 1970au, teulu o Syriaid gynt sydd wedi colli eu henw bellach, a menyw ifanc sydd ar fin darganfod gwacter y breuddwyd Americanaidd. Y canolbwynt yw ‘Alligator’: dyma gasgliad anhygoel o ffynonellau gwirioneddol a dychmygol, sy'n twrio yn y llyfrau hanes i ddadorchuddio stori pâr Syriaidd-Americanaidd a lofruddiwyd gan y wladwriaeth. Mae Alzayat yn archwilio profiadau sy'n syfrdanol ac yn wirioneddol, gan gael effaith emosiynol sy'n para'n hir wedyn.
Francesca Rhydderch yn siarad am Alligator and Other Stories gan Dima Alzayat: "Mae gwaith angerddol ac arloesol Dima Alzayat, Alligator and Other Stories, yn nodi dyfodiad dawn newydd bwysig. Er bod amrywiaeth yr arddulliau a'r straeon yn arbennig o eang, ceir undod llais a thôn y mae'n rhaid y bu'n anodd iawn ei gyflawni, ac ymdeimlad clir bod yr holl elfennau gwahanol hyn yn rhan o archwiliad hollbwysig a phwerus o hunaniaeth."
Dima Alzayat, Alligator and Other Stories (Picador)
Cafodd Dima Alzayat ei geni yn Namascus yn Syria a'i magu yn San Jose, Califfornia. Mae hi bellach yn byw ym Manceinion. Enillodd Wobr Ymddiriedolaeth ALCS Tom-Gallon yn 2019, Gwobr Llenorion Gogledd Lloegr yn 2018, Gwobr Straeon Byrion Bryste yn 2017 a Gwobr Bernice Slote yn 2015. Daeth yn ail yng Ngwobr Deborah Rogers ac yng Nghystadleuaeth Zoetrope: All-Story yn 2018, a chafodd gymeradwyaeth uchel yng Ngwobr Bridport yn 2013
Twitter @dimaalzayat
Kingdomtide gan Rye Curtis (HarperCollins, 4th Estate)
Mae bywydau dwy fenyw – unig oroeswr cwymp awyren a'r ceidwad parc aflonydd sy'n arwain yr ymgyrch i ddod i'r adwy – yn torri ar draws ei gilydd mewn nofel gyntaf afaelgar llawn gobaith a gwydnwch, ailfeddwl ac ail gyfleoedd. “I no longer pass judgment on any man nor woman. People are people, and I do not believe there is much more to be said on the matter. Twenty years ago I might have been of a different mind about that, but I was a different Cloris Waldrip back then. I might have gone on being that same Cloris Waldrip, the one I had been for seventy-two years, had I not fallen out of the sky in that little airplane on Sunday, August 31, 1986. It does amaze that a woman can reach the tail end of her life and find that she hardly knows herself at all. When seventy-two-year-old Cloris Waldrip finds herself lost and alone in the unforgiving wilderness of the Montana mountains, with only a bible, a sturdy pair of boots, and a couple of candies to keep her alive, it seems her chances of ever getting home to Texas are slim.” Dim ond Debra Lewis, ceidwad parc sydd wedi troi at y ddiod gadarn yn sgil ysgariad blêr, sy'n credu y gall yr hen fenyw fod yn fyw. Wedi ei hysgogi gan ei chenhadaeth newydd sbon i ddod o hyd iddi, mae Lewis yn arwain criw achub brith i ddilyn ôl troed Cloris. Ond, wrth i'r diwrnodau droi'n wythnosau, mae sefyllfa Cloris yn mynd yn fwy simsan byth, ac mae help yn cyrraedd o'r ffynhonnell fwyaf annisgwyl, gan achosi iddi amau'r holl bethau sicr y mae hi wedi adeiladu ei bywyd arnynt. Kingdomtide, sy'n gynhyrfus ac yn goeglyd ac sydd wedi'i hysgrifennu'n hyfryd, yw stori ysbrydoledig dau gymeriad bythgofiadwy, y mae eu dewrder yn ein hatgoffa mai dim ond man cychwyn yw goroesi.
Joshua Ferris yn sôn am Kingdomtime gan Rye Curtis: "Mae Kingdomtime yn llyfr na allwch ei roi i lawr, sydd yn aml yn ddigrif iawn, am yr adnoddau personol a naturiol angenrheidiol i oroesi byd sy'n amlwg yn wirion. Mae llais hudolus Cloris Waldrip, brodor Tecsas, yn ein tywys yn fedrus drwy ei phrofedigaeth 88 o ddiwrnodau yng ngwylltir Montana, wrth i'r meddwyn dihafal o geidwad parc, Debra Lewis, chwilio amdani. Mae'r nofel wych hon yn cyfuno'r stori fodern berffaith â rhywbeth aruchel, telynegol a doeth."
Rye Curtis, Kingdomtide (HarperCollins, 4th Estate)
Mae Rye Curtis yn 30 oed ac mae'n dod o Amarillo, Tecsas yn wreiddiol. Mae bellach yn byw yn Brooklyn.
Twitter: @ryecurtis0 | Instagram: @rye.curtis
The Death of Vivek Oji gan Akwaeke Emezi (Faber)
Gwnaethant losgi'r farchnad ar y diwrnod pan fu farw Vivek Oji. Ryw brynhawn, mae mam yn agor ei drws blaen i weld hyd corff ei mab yn gorwedd ar y feranda, wedi'i lapio mewn clwtyn akwete, a'i ben ar ei mat sychu traed. Mae The Death of Vivek Oji yn mynd â ni i ddiwrnod geni Vivek, y diwrnod pan fu farw Ahunna, ei fam-gu. Dyma stori mam sy'n gwarchod ei phlentyn yn ormodol a thad sy'n ei gadw ar hyd braich, a hanes torcalonnus ymdrech aelodau un teulu i ddeall eu plentyn, ar yr un pryd ag y mae Vivek yn dechrau deall ei hun. Mae'r nofel hon yn llawn cymeriadau bythgofiadwy sydd wedi dod dan ddylanwad enaid addfwyn ac annirnad Vivek, ac mae'n rhannu â ni blentyndod Nigeraidd sy'n herio disgwyliadau. Bydd y ffordd y mae'r nofel yn dathlu diniweidrwydd ac optimistiaeth rhywun ifanc yn cyffwrdd â phawb sy'n ei darllen.
Namita Gokhale yn siarad am The Death of Vivek Oji gan Akwaeke Emezi: “Mae The Death of Vivek Oji’ gan Akwaeke Emezi yn nofel bwerus sy'n meddu ar ddiffuantrwydd cyd-destun diwylliannol ac emosiynol. Mae'r stori'n dechrau mewn ffordd wych, gan ddatgan yr argoel ragwybodus o farwolaeth Vivek Oji yn y llinell fer sy'n cynrychioli'r bennod agoriadol. Serch hyn, cedwir y darllenydd ar bigau'r drain nes y datgelir y gwirionedd o'r diwedd yn y bennod olaf. Campwaith o grefft adrodd stori."
Akwaeke Emezi, The Death of Vivek Oji (Faber)
Mae Akwaeke Emezi yn llenor ac yn artist fideo sy'n byw ar y trothwy. Ar ôl bod yn un o enillwyr anrhydedd 5 under 35 y National Book Foundation yn 2018, cyrhaeddodd nofel gyntaf Emezi, Freshwater, y rhestr hir yng nghystadleuaeth ffuglen Ymddiriedolaeth Women's Prize a Gwobr Llyfrau Wellcome. Cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr PEN/Hemingway, Gwobr Nofel Gyntaf Orau The Center for Fiction, Gwobr Lenyddol Lambda a Gwobr Young Lions Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd, ymysg pethau eraill. Cyrhaeddodd nofel gyntaf Emezi i oedolion ifanc, Pet, rownd derfynol cystadleuaeth Llenyddiaeth Pobl Ifanc y Gwobrau Llyfrau Cenedlaethol. Gwerthodd nofel ddiweddaraf Emezi, The Death of Vivek Oji, ddigon o gopïau i gael ei rhestru gan The New York Times pan y'i cyhoeddwyd yn 2020. Mae gwaith Emezi wedi ymddangos yn T: The New York Times Style Magazine, BuzzFeed a The Cut, ymysg cyhoeddiadau eraill.
[credyd y llun i: Kathleen Bomani]
Pew gan Catherine Lacey (Granta)
Ar ôl ffoi rhag gorffennol sydd bellach yn angof, mae Pew yn deffro ar fainc eglwys, yn wynebu dieithriaid chwilfrydig ym mhob man. Mae enw Pew yn angof. Nid yw Pew yn gwybod a yw'n fachgen neu'n ferch, yn blentyn neu'n oedolyn ifanc. A yw Pew yn amddifad, neu'n rhywbeth gwaeth? A pha helynt sydd wedi achosi i Pew ffoi? Ni fydd Pew yn siarad, ond mae dynion a menywod y dref fach grefyddol yn gofyn llawer o gwestiynau. Wrth i'r diwrnodau fynd rhagddynt, bydd eu clebran taer yn cynyddu o fod yn furmur i fod yn floedd, wrth i ddistawrwydd Pew andwyo'r euog a'r dieuog fel ei gilydd.
Francesca Rhydderch yn siarad am Pew gan Catherine Lacey: "Yn y nofel benigamp hon, mae Catherine Lacey yn dangos ei bod yn hollol ddiofn fel ysgrifennwr, yn fodlon mynd i'r afael ag agweddau mwy hyll ar dref fach ddychmygol yn America, lle mae anfodlonrwydd dieithryn i siarad yn lledu paranoia ac anesmwythder. Stori wedi'i hysgrifennu'n gain, llawn arsylwadau treiddiol a soffistigedig yn ei symlrwydd, mae Pew yn llyfr sydd eisoes yn glasur modern yn fy marn i."
Catherine Lacey, Pew (Granta)
Catherine Lacey yw awdur y nofelau The Answers a Nobody Is Ever Missing, a'r casgliad o straeon Certain American States. Yn ogystal ag ennill Gwobr Whiting, cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Ffuglen Young Lions Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd a chafodd ei henwi'n un o nofelwyr ifanc gorau America gan Granta. Mae ei llyfrau wedi cael eu cyfieithu i Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg, Iseldireg ac Almaeneg. Cafodd ei geni yn nhalaith Mississippi ac mae hi'n byw yn Chicago.
Twitter: @_catherinelacey
[credyd y llun i: Willy Somma]
Luster gan Raven Leilani (Picador; Farrar, Straus and Giroux)
Dim ond ceisio goroesi y mae Edie. Mae hi'n gwneud llanastr yn ei swydd weinyddol heb ddyfodol yn ei swyddfa wen i gyd, mae hi'n cysgu gyda'r dynion anghywir i gyd, ac mae hi wedi methu gwneud yr unig beth a oedd yn golygu unrhyw beth iddi, sef paentio. Nid oes ots gan neb am y ffaith nad oes syniad ganddi beth mae hi'n ei wneud yn ei bywyd y tu hwnt i'w hantur rywiol nesaf. Yna mae hi'n cwrdd ag Eric, archifydd gwyn, canol oed â theulu maestrefol, gan gynnwys gwraig sydd wedi cytuno, ar ryw ffurf, i gael priodas agored a merch ddu fabwysiedig nad yw'n gallu dibynnu ar neb yn ei bywyd i ddangos iddi sut i dacluso ei gwallt. Ar ben ymdopi ag amgylchiadau newidiol gwleidyddiaeth rhyw a hil fel menyw ddu ifanc, sy'n ddigon anodd, mae Edie yn ymuno, a hynny'n fyrbwyll, â theulu Eric yn ei gartref pan nad oes ganddi un man arall i fynd iddo. Yn ogystal â bod yn finiog iawn, yn bryfoclyd o afaelgar ac yn annisgwyl o deimladwy, mae Luster yn nofel gyntaf hynod ddoniol gan Raven Leilani sy'n ymdrin ag ystyr bod yn ifanc yn y byd sydd ohoni.
Syima Aslam yn siarad am Luster gan Raven Leilani: "Llyfr craff a threiddiol, mae Luster yn dweud gwirionedd diofn a didosturi. Mae Leilani yn arsylwi'n ddiwyro ar realiti profiad menyw ddu ifanc yn America heddiw. Mae ei archwiliad o fywyd teuluol anghonfensiynol ac anffyddlondeb yn yr 21ain ganrif yn agoriad llygad, yn y nofel gyntaf ddigrif-dywyll hon sy'n rhyfeddol o deimladwy."
Raven Leilani, Luster (Picador; Farrar, Straus and Giroux)
Mae gwaith Raven Leilani wedi cael ei gyhoeddi yn Granta, The Yale Review, McSweeney’s Quarterly Concern, Conjunctions, The Cut, a New England Review, ymysg cyhoeddiadau eraill. Enillodd MFA o Brifysgol Efrog Newydd a bu'n llenor preswyl Ymddiriedolaeth Axinn. Luster yw ei nofel gyntaf.
Twitter @RavenLeilani
[credyd y llun i: Nina Subin]
My Dark Vanessa gan Kate Elizabeth Russell (HarperCollins, 4th Estate)
Roedd Vanessa Wye yn 15 oed pan gafodd hi ryw â'i hathro Saesneg am y tro cyntaf. Mae hi bellach yn 32 oed ac, yng nghanol y llu o honiadau yn erbyn dynion pwerus yn 2017, mae cyn-fyfyrwraig arall wedi cyhuddo ei hathro, Jacob Strane, o'i cham-drin yn rhywiol. Mae'r newyddion hyn yn rhoi braw i Vanessa gan ei bod yn hollol sicr nad oedd Strane wedi ei cham-drin. Cariad oedd eu perthynas. Mae hi'n siŵr am hynny. Mae Vanessa yn gorfod ailfeddwl ei gorffennol, ailystyried popeth a ddigwyddodd ac ailddiffinio stori cariad mawr ei bywyd – ei deffroad rhywiol mawr – fel trais. Nawr, mae'n rhaid iddi ymdopi â'r posibilrwydd ei bod hi'n un o lawer o ddioddefwyr. Mae My Dark Vanessa yn graff, yn anghyfforddus, yn ddewr ac yn bwerus, gan dreiddio i ddyfnderoedd rhai o faterion mwyaf cymhleth ein hoes.
Stephen Sexton yn siarad am My Dark Vanessa gan Kate Elizabeth Russell: "Mae My Dark Vanessa yn nofel huawdl, ddigyfaddawd a grymus am gamdriniaeth, ei hôl hir o niwed a'i hailadroddiadau dinistriol . Yn Vanessa, mae Russell yn cyflwyno i ni gymeriad hynod gymhleth sydd, drwy wrthod rôl dioddefwr - gan ddewis rhywbeth sy'n fwy tebyg i gariad - yn drasig ac yn fythgofiadwy. Yn amserol, yn ingol ac yn meddu ar y lefel uchaf o ddeallusrwydd emosiynol, mae My Dark Vanessa yn adrodd stori un ferch; llawer o ferched a thywyllwch llenyddiaeth orllewinol."
Kate Elizabeth Russell, My Dark Vanessa (HarperCollins, 4th Estate)
Mae Kate Elizabeth Russell yn dod o ddwyrain Maine yn wreiddiol. Mae hi wedi ennill PhD mewn ysgrifennu creadigol o Brifysgol Kansas ac MFA o Brifysgol Indiana. My Dark Vanessa yw ei nofel gyntaf.
Instagram: @kateelizabethrussell