Mae Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn falch o gyhoeddi rhestr hir 2023.

Limberlost gan Robbie Arnott

Limberlost gan Robbie Arnott (Atlantic Books)
Mae Ned West yn breuddwydio am hwylio dros yr afon ar ei gwch ei hun. I Ned, mae cwch yn golygu rhyddid - y dŵr croyw agored, riffiau llawn môr-lewys, tanau ar draethau preifat - yn bell i fwrdd o Limberlost, fferm ei deulu lle mae ei dad yn pryderu ac yn galaru am frodyr hŷn Ned. Maen nhw oddi cartref, yn ymladd mewn rhyfel didostur a phell, yn tyfu'n ddynion ar faes y gad, tra mae Ned - sy'n rhy ifanc i ymrestru - yn crwydro'r tir yn chwilio am gwningod i'w saethu, gan werthu eu croen er mwyn ariannu ei uchelgeisiau cudd i feddu ar gwch.

Ond, wrth i'r tymhorau fynd heibio, mae Ned yn dod i oed ac mae bywyd go iawn yn tarfu ar ei freuddwydion. Mae Ned yn cwympo mewn cariad â Callie, chwaer wydn a galluog ei ffrind gorau a chyda'i gilydd, maen nhw'n dysgu gwersi cariad, colled a chaledi. Pan fydd storm yn dinistrio cnwd Limberlost ac yn rhoi dyfodol y berllan yn y fantol, mae'n rhaid i Ned benderfynu beth i'w warchod: breuddwydion ei blentyndod, ynteu'r bobl a'r tir o'i gwmpas.

Ar adegau'n deimladwy ac yn ddidrugaredd, mae Limberlost yn trafod yr agweddau ar wrywdod rydym yn eu hetifeddu a rhyfeddodau llachar, dirifedi, dod i oed. Wedi'i hadrodd mewn ysbryd hudolus â naws chwedl, mae'r stori hon yn llythyr cariad bythgofiadwy i gyfoeth byd natur gan ysgrifennwr â dawn brin.

Robbie Arnott llun credyd Mitch Osborne

Robbie Arnott, Limberlost (Atlantic Books)
Robbie Arnott yw awdur y nofel Flames, a enillodd Wobr Margaret Scott a chafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobrau Llenyddol Prif Weinidog Victoria yn y categori Ffuglen ac ar restr hir Gwobr Lenyddol Miles Franklin. Enillodd ei nofel arall, The Rain Heron, wobr Llyfr y Flwyddyn The Age yn 2021 a chafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobr Lenyddol Miles Franklin. Mae'r Sydney Morning Herald wedi ei enwi'n Nofelydd Ifanc Gorau Awstralia. Mae'n byw yn Tasmania.

Twitter: @RobbieArnott
[Credyd llun: Mitch Osborne]

Seven Steeples gan Sara Baume

Seven Steeples gan Sarah Baume (Tramp Press)
Dyma’r gaeaf sy’n dilyn yr haf pan wnaethon nhw gwrdd. Mae cwpwl, Bell a Sigh, yn symud i dŷ anghysbell yng nghefn gwlad Iwerddon gyda'u cŵn. Mae’r ddau yn hoffi byw ar wahân ac mae ganddynt dueddiadau anghymdeithasol, felly maent yn gadael y bywydau confensiynol sy'n ymestyn o'u blaenau i greu bywyd arall - un sydd â'i wreiddiau mewn defod, ymhell o'r ffrindiau a'r teuluoedd maent wedi ymbellhau oddi wrthynt.

Maent yn cyrraedd eu cartref newydd ar ddiwrnod braf ym mis Ionawr ac yn edrych i fyny i werthuso'r olygfa. Mae mynydd yn codi'n raddol ac yn ddinod o'r Iwerydd 'fel pe bai ei uchder wedi cronni dros ganrifoedd. Fel be bai, dros ganrifoedd, roedd wedi gwastatáu ei hun wrth ymestyn i fyny.' Maent yn addo dringo'r mynydd ond nid yw'n cael ei ddringo dros y saith mlynedd nesaf. Rydym yn symud drwy'r tymhorau gyda Bell a Sigh wrth iddynt ddechrau deall mwy am y byd bach o'u cwmpas, ac wrth i'w diddordeb yn y byd ehangach grebachu.

Mae Seven Steeples yn fyfyrdod hyfryd a dwfn ar natur cariad a gwydnwch natur. Drwy Bell a Sigh, a’r bywyd maent yn ei greu iddynt eu hunain, mae Sara Baume yn archwilio beth mae'n ei olygu i ddianc y llwybrau traddodiadol y disgwylir i ni eu dilyn - a beth mae'n ei olygu i esblygu wrth ymroi i berson arall ac i'r dirwedd.

Sara Baume llun credyd Kenneth O'Halloran

Sara Baume, Seven Steeples (Tramp Press)
Mae Sara Baume yn awdur pedwar llyfr. Mae ei nofelau wedi cael eu cyfieithu'n eang ac wedi ennill gwobrau megis Gwobr Goffa Geoffrey Faber, Gwobr Rooney ar gyfer Llenyddiaeth Wyddelig a Gwobr E. M. Forster. Yn 2020, cafodd ei llyfr cyntaf, handiwork, sy'n waith ffeithiol, ei gynnwys ar restr fer Gwobr Rathbones Folio ac yn 2022, cafodd ei thrydedd nofel, Seven Steeples, ei chynnwys ar restr fer Gwobr Goldsmiths. Mae hi'n byw yng ngorllewin Corc lle mae hi'n gweithio hefyd fel artist gweledol.

Instagram: @saraofthebaumes
[Credyd llun: Kenneth O'Halloran]

God's Children Are Broken Little Things gan Arinze Ifeakandu (Orion, Weidenfeld & Nicolson)

God's Children Are Little Broken Things gan Arinze Ifeakandu (Orion, Weidenfeld a Nicolson)
Mae dyn yn ail-ymweld â champws y brifysgol lle collodd ei gariad cyntaf, yn ymwybodol bellach o'r hyn nad oedd yn gallu ei ddeall ar y pryd. Mae merch yn dychwelyd adref i Lagos ar ôl marwolaeth ei thad, lle mae'n rhaid iddi wynebu ei pherthynas - yn y gorffennol ac yn y dyfodol - â'i phartner hirdymor. Mae cerddor ifanc yn dod yn enwog ond yn wynebu'r risg o golli ei hun a'r dyn sy'n ei garu.

Mae cenedlaethau'n gwrthdaro, mae teuluoedd yn chwalu ac yn dod yn ôl at ei gilydd, mae ieithoedd a diwylliannau yn cydblethu ac mae cariadon yn canfod eu ffyrdd i'r dyfodol; o blentyndod drwy oedolaeth; ar gampysau prifysgol, yng nghanol dinasoedd ac mewn cymdogaethau lle mae clychau eglwys yn cymysgu â'r alwad foreol i weddïo.

Arinze Ifeakandu llun credyd Bec Stupak Diop for Black Rock Senegal

Arinze Ifeakandu, God's Children Are Little Broken Things (Orion, Weidenfeld & Nicolson)
Ganwyd Arinze Ifeakandu yn Kano, Nigeria. Cafodd ei gynnwys ar restr fer Gwobr AKO Caine ar gyfer ysgrifennu o Affrica, mae'n gymrawd ysgrifennu A Public Space, graddiodd o Weithdy Ysgrifenwyr Iowa. Mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi yn A Public Space, One Story, GuernicaGod's Children Are Little Broken Things yw ei drydydd llyfr.

[Credyd llun: Bec Stupak Diop for Black Rock Senegal]

Maps of Our Spectacular Bodies gan Maddie Mortimer (Picador, Pan MacMillan)

Maps of Our Spectacular Bodies gan Maddie Mortimer (Picador, Pan Macmillan)
Mae rhywbeth direidus a maleisus yn symud yng nghorff Lia, gan ddysgu ei bywyd o'r tu mewn. Newidiwr ffurf. Twrist trychinebau. Mae'n teithio i lawr glannau ei chamlesi. Mae'n ymledu.

Pan fydd diagnosis sydyn yn troi byd Lia ben i waered, mae'r ffiniau rhwng ei gorffennol a'i phresennol yn dechrau chwalu. Mae cyfrinachau sydd wedi'u claddu'n ddwfn yn deffro. Wrth i'r llais sy'n stelcian y tu mewn i Lia ddal gafael yn ei stori, a phan ddaw'n amhosib gwahaniaethu rhwng y dirwedd o'i chwmpas a'r dirwedd tu mewn, mae Lia a'i theulu'n wynebu rhai o’r cwestiynau anoddaf oll: sut gallwn symud ymlaen o'r digwyddiadau sydd wedi ein llunio, pan fo ein cyrff yn cadw popeth. A beth mae'n ei olygu i farw'n llawn gras pan nad ydych yn barod i ollwng gafael ar fywyd?

Maddie Mortimer llun credyd Ben Mankin

Maddie Mortimer, Maps of Our Spectacular Bodies (Picador, Pan MacMillan)
Ganwyd Maddie Mortimer yn Llundain ym 1996. Derbyniodd ei BA mewn Llenyddiaeth Saesneg gan Brifysgol Bryste. Mae ei hysgrifennu wedi cael ei gyhoeddi yn The Times ac mae ei ffilmiau byr wedi cael eu dangos mewn gwyliau ledled y byd. Mae hi wrthi’n cyd-ysgrifennu cyfres deledu sy'n cael ei datblygu ar hyn o bryd gyda Various Artists Limited. Yn 2019 cwblhaodd gwrs ysgrifennu nofel y Faber Academy. Maps of Our Spectacular Bodies yw ei nofel gyntaf.

Twitter: @MaddieMortimer
[Credyd llun: Ben Mankin]

Phantom Gang gan Ciarán O’Rourke

Phantom Gang gan Ciaran O'Rourke (The Irish Pages Press)
Gyda gras telynegol ac eglurder myfyriol, mae Phantom Gang yn cynnig dadansoddiad beiddgar o drais gwareiddiadau mewn amrywiaeth o gyd-destunau - o atafiaethau clos ac anghydraddoldebau hanes Iwerddon i dwf llechwraidd economi Technoleg Fawr heddiw - ochr yn ochr ag archwiliadau cynnil a nwydus o gariad rhwygedig ac atgofion wedi'u hadfer.

Gan anrhydeddu gwaith amrywiaeth o ysgrifenwyr a ffotograffwyr, gan gynnwys John Clare (1793-1864), Martin Chambi (1891-1973), Bertolt Brecht (1898-1956) a Gerda Taro (1910-1937), mae'r cerddi hyn yn siglo’r ffiniau rhwng y gorffennol a'r presennol, galargan a theyrnged, coffáu gwerinol a chroniclo gwleidyddol. Maent i gyd yn cydblethu â'i gilydd i greu gweledigaeth gymhellol o fyd sy'n symud ac ymwybyddiaeth sy'n effro i newid - wrth i leisiau drychiolaethol a phresenoldebau sy'n fyw o hyd dreiddio “into the open echo-chamber / of poetry”, gan daflu goleueni ar dirweddau mewnol ac allanol bywyd y bardd mewn amser.

Yn dilyn ei gasgliad cyntaf a gyhoeddwyd i glod mawr, The Buried Breath, yma mae O'Rourke yn ehangu ac yn cyfoethogi themâu ei waith cynnar i gynnwys mathau newydd o bortreadu a chwestiynu moesol, gan fireinio ymhellach gerddoriaeth "esgyrn glân" ei arddull farddonol, oll wedi'u goleuo bob amser gan wefr emosiynol ddofn. Mae Phantom Gang yn cadarnhau O’Rourke fel llais blaenllaw newydd ym myd barddoniaeth Iwerddon.

Ciarán O’Rourke

Ciarán O’Rourke, Phantom Gang (The Irish Pages Press) 
Ganwyd Ciarán O'Rourke ym 1991 a chwblhaodd radd mewn Saesneg a Hanes yng Ngholeg y Drindod, Dulyn. Derbyniodd radd Meistr mewn Saesneg ac Astudiaethau Americanaidd gan Brifysgol Rhydychen yn 2014, yn ogystal â chwblhau doethuriaeth am William Carlos Williams yn ei alma mater yn Nulyn yn 2019. Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf, The Buried Breath, gan y cyhoeddwr Irish Pages Press yn 2018 a chafodd ei ganmol yn fawr gan y Forward Foundation for Poetry y flwyddyn ddilynol. Cyhoeddwyd ei ail gasgliad, Phantom Gang, yn 2022 gan y cyhoeddwr Irish Pages. Mae'n byw yn Nulyn ar hyn o bryd.

Twitter: @corourke91

Things They Lost gan Okwiri Oduor

Things They Lost gan Okwiri Oduor (Oneworld)
Mae Things They Lost, a leolir yn nhref ddychmygol Mapeli yn Kenya, yn adrodd stori pedair cenhedlaeth o fenywod, pob un yn byw yng nghysgod y felltith ryfedd sy’n bygwth y teulu Brown. Calon y nofel yw Ayosa Ataraxis Brown, 12 oed a merch fwyaf unig y byd.

Mae nofel gyntaf hynod wreiddiol Okwiri Oduor yn byrlymu â llên gwerin a mythau Kenya wrth iddi olrhain perthynas fregus, wenwynig Ayosa â Mabumbo Promise, ei mam annirnad a swynol sy'n cyrraedd ac yn gadael megis amaranth gwyn: ar goll, ond eto heb fynd yn llwyr.

Okwiri Oduor (c) Chelsea Bieker

Okwiri Oduor, Things They Lost (Oneworld)
Ganwyd Okwiri Oduor yn Nairobi, Kenya. Pan oedd yn 25 oed, enillodd hi Wobr Caine 2014 ar gyfer Ysgrifennu o Affrica am ei stori 'My Father's Head'. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, cafodd ei chynnwys ar restr Africa39 Gŵyl y Gelli, sef rhestr o 39 ysgrifennwr Affricanaidd dan 40 oed a fyddai'n diffinio tueddiadau mewn llenyddiaeth Affricanaidd. Mae hi wedi bod yn gymrawd MacDowell Colony a derbyniodd ei MFA gan Weithdy Ysgrifenwyr Iowa. Mae stori ganddi ar fin cael ei chyhoeddi yn Granta, a Things They Lost yw ei nofel gyntaf. Mae hi'n byw yn yr Almaen.

[Credyd llun: Chelsea Bieker]

Losing the Plot gan Derek Owusu

Losing the Plot gan Derek Owusu (Canongate Books)
Wedi'i sbarduno gan ddyhead dwfn i ddeall bywyd ei fam cyn iddo gael ei eni, mae Derek Owusu yn cynnig darlun dychmygol pwerus o'i thaith. Wrth iddi symud o Ghana i'r DU ac ymdopi â magu plentyn mewn amgylchedd diarth sydd yn aml yn unig, teimlir effeithiau dadleoli ar draws cenedlaethau.

Wedi'i adrodd drwy lygaid y fam a'i mab, mae Losing the Plot yn amrwd yn emosiynol ac yn chwareus ar yr un pryd, wrth i Owusu arbrofi â ffurf i greu clytwaith o brofiad y mewnfudwr ac archwilio sut mae'r straeon rydym yn eu rhannu ac yn eu hadrodd wrthyn ni ein hunain yr un mor bwysig â'r rhai nad ydym yn eu hadrodd.

Derek Owusu photo by Josima Senior

Derek Owusu, Losing the Plot (Canongate Books)
Mae Derek Owusu o ogledd Llundain yn ysgrifennwr, yn fardd ac yn gyfrannydd at bodlediadau. Yn 2016, ymunodd â'r podlediad llenyddiaeth sydd wedi ennill nifer o wobrau, Mostly Lit. Yn ogystal, cynhyrchodd y podeliad This is Spoke sydd wedi cael ei ganmol yn fawr ar gyfer Penguin Random House a Freemantle Media. Ei draethawd am ddynion du a'u pryderon oedd yr ail erthygl fwyaf poblogaidd ar Media Diversified yn 2018, a chafodd ei draethawd am iaith ei droi'n rhaglen ddogfen fer gan raglen Newsnight y BBC. Yn 2019, bu Derek yn coladu, yn golygu ac yn cyfrannu at Safe: On Black British Men Reclaiming Space. Enillodd ei nofel gyntaf, That Reminds Me, wobr Desmond Elliott.

Twitter: @DerekVOwusu 
[Credyd llun: Josima Senior]

I'm a Fan gan Sheena Patel (Rough Trade Books)

I'm a Fan gan Sheena Patel (Rough Trade Press)
Yn I'm a Fan, mae un siaradwr yn defnyddio stori ei phrofiad mewn perthynas sy’n ymddangos yn anghyfartal ac yn anffyddlon fel prism i archwilio'r gafael cymhleth sydd gennym yn ein gilydd. Â llygad clir ac anfaddeugar, mae'r adroddwr yn dadansoddi ymddygiad pawb, gan gynnwys ei hymddygiad ei hun, ac yn gwneud cysylltiadau syfrdanol rhwng y brwydrau am bŵer sydd wrth wraidd perthnasoedd dynol a rhai'r byd ehangach. Yn eu tro, mae'n cynnig beirniadaeth bwerus o fynediad, y cyfryngau cymdeithasol, perthnasoedd heteronormadol patriarchaidd, a'n hobsesiwn diwylliannol â statws a sut caiff y statws hwnnw ei gyfleu.

Yn y llyfr cyntaf anhygoel hwn, mae Sheena Patel yn ei chyflwyno ei hun fel llais newydd hanfodol mewn llenyddiaeth, sy'n gallu cyfleu amrywiaeth o emosiynau a phrofiadau ingol ar y dudalen. Rhyw, trais, gwleidyddiaeth, tynerwch - mae Patel yn ymdrin â nhw i gyd â llais gwreiddiol a medrus.

Sheena Patel (c) Salem Zaied

Sheena Patel, I'm a Fan (Rough Trade Press)
Mae Sheena Patel yn ysgrifennwr ac yn gyfarwyddwr cynorthwyol ffilmiau a rhaglenni teledu a gafodd ei geni a'i magu yng ngogledd-orllewin Llundain. Mae hi'n rhan o'r grŵp 4 BROWN GIRLS WHO WRITE, mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn 4 BROWN GIRLS WHO WRITE (Rough Trade Books) ac mewn casgliad o farddoniaeth o'r un enw (FEM Press). Yn 2022 cafodd ei henwi’n un o 10 nofelydd newydd gorau The Observer. Hon yw ei nofel gyntaf.

Twitter: @Sheena_Patel_
[Credyd llun: Salem Zaied]

Send Nudes gan Saba Sams (Bloomsbury Publishing)

Send Nudes gan Saba Sams (Bloomsbury Publishing)
Mewn 10 stori syfrdanol, mae Saba Sims yn plymio i fyd merch ifanc ac yn ein hymdrochi yn ei groesosodiadau a'i gymhlethdodau: dod i oed yn rhy gyflym, ond ddim yn ddigon cyflym, meddiannu ar yr hyn y gallwch, gan gael eich meddiannu; ildio i bwysau cymdeithasol gan fod yn gyfrifol am y pwysau hynny ar yr un pryd. Mae'r menywod ifanc hyn yn wyllt ond yn ofalus, yn ffyrnig ond yn fregus, yn cael eu hecsbloetio ac yn ecsbloetio eraill.

Gan ymlwybro rhwng clybiau ar amser cau, toiledau tafarnau, gwyliau cerddoriaeth lle mae’n arllwys y glaw a gwyliau traeth, mae'r straeon cofiadwy hyn yn archwilio tirwedd beryglus dod i oed mewn ffordd grefftus - cyfeillgarwch dwys, mamau amwys, teuluoedd cyfunol anesmwyth a dysgu sut i wirioneddol fyw yn eich corff eich hun.

Gyda ffraethineb, gwreiddioldeb a thynerwch  trawiadol, mae Send Nudes yn dathlu'r buddugoliaethau bach mewn byd sy'n ceisio hawlio pob menyw ifanc iddo ei hun.

Saba Sams llun credyd Sophie Davidson

Saba Sams, Send Nudes (Bloomsbury Publishing)
Mae gwaith Saba Sams wedi cael ei gyhoeddi yn The Stinging Fly, Granta a Five Dials, ymhlith eraill. Cafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobr Stori Fer The  White Review yn 2019. Enillodd Send Nudes Wobr Stori Fer Edge Hill 2022, ac enillodd 'Blue 4eva' Wobr Stori Fer Genedlaethol 2022 y BBC. Mae hi'n hanu o Brighton.

[Credyd llun: Sophie Davidson]

Bless the Daughter Raised by a Voice in Her Head gan Warsan Shire

Bless the Daughter Raised by a Voice in Her Head gan Warsan Shire (Chatto a Windus, Vintage)
Yn ei chasgliad hyd llawn cyntaf o gerddi, mae Warsan Shire yn cyflwyno i ni ferch sydd, yn absenoldeb rhywun i'w harwain a'i meithrin, yn gwneud ei ffordd betrusgar ei hun tuag at fod yn fenyw. Wedi'i hysbrydoli gan ei bywyd ei hun a bywydau ei hanwyliaid, yn ogystal â chan ddiwylliant pop a phenawdau'r newyddion, mae Shire yn canfod manylion llachar ac unigryw ym mhrofiadau ffoaduriaid a mewnfudwyr, mamau a merched, menywod du a merched yn eu harddegau. Bywydau swnllyd yw'r rhain, llawn cerddoriaeth, llefain a swrâu. Bywydau peraroglus ydynt, llawn gwaed a phersawr a jasmin. Bywydau amryliw yw'r rhain, llawn golau'r lloer, tyrmerig a chohl.

Mae'r casgliad hirddisgwyliedig hwn gan un o'n beirdd cyfoes mwyaf cyffrous yn fendith, yn ddathliad swyn-ganiadol o oroesi. Bydd pob darllenydd wedi'i newid ar ôl ei orffen.

Warsan Shire llun credyd Leyla Jeyte

Warsan Shire, Bless the Daughter Raised by a Voice in Her Head (Chatto & Windus, [Vintage])
Ysgrifennwr a bardd o dras Somali-Prydeinig yw Warsan Shire. Cafodd ei geni yn Nairobi a'i magu yn Llundain. Mae hi wedi ysgrifennu dau lyfr byr, Teaching My Mother How to Give Birth a Her Blue Body. Hi oedd enillydd cyntaf Gwobr Brunel International am Farddoniaeth Affricanaidd a deiliad cyntaf rôl Bardd Llawryfog Ifanc Llundain. Hi yw aelod ieuengaf y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol ac mae hi wedi'i chynnwys yng nghyfres Modern Poets Penguin. Shire ysgrifennodd y farddoniaeth ar gyfer yr albwm gweledol a enillodd Wobr Peabody, Lemonade a'r ffilm gan Disney, Black is King, gan gydweithredu â Beyoncé Knowles-Carter. Ysgrifennodd hi'r ffilm fer Brave Girl Rising hefyd, gan amlygu lleisiau ac wynebau merched Somali yng ngwersyll ffoaduriaid mwyaf Affrica. Mae Shire yn byw yn Los Angeles gyda'i gŵr a'i dau blentyn. Bless the Daughter Raised by a Voice in Her Head  yw ei chasgliad hyd llawn cyntaf o farddoniaeth a gafodd ei gynnwys ar restr fer Gwobr Felix Dennis y Forward Arts Foundation yn 2022.

Twitter: @warsan_shire | Instagram: @warsanshiree
[Credyd llun: Leyla Jeyte]

Briefly, A Delicious Life gan Nell Stevens (Picador, Pan MacMillan)

Briefly, A Delicious Life gan Nell Stevens (Picador, Pan Macmillan)
Ym 1838 mae Frédéric Chopin, George Sand a'i phlant yn teithio i fynachdy ym Mallorca.   Eu nod yw creu ac ymadfer, byw bywyd syml ar ôl gwylltineb eu bywydau ym Mharis.

Yn dyst i'r cyrhaeddiad cynhyrfus hwn y mae Blanca, ysbryd merch yn ei harddegau sydd wedi treulio dros dri chan mlynedd yn y mynachdy. Cafodd bywyd Blanca ei dorri'n fyr ac mae hi'n gandryll. Wedi byw mewn byd llawn 'dynion hardd', yn ôl ei mam, ar ôl iddi farw mae hi wedi sylweddoli mai'r menywod sy'n mynd â'i bryd, eu harddwch nhw sy'n mynnu ei sylw a'r menywod a'r merched, dros y canrifoedd yn y pentref a'r mynachdy, y mae hi wedi ceisio eu gwarchod rhag ystrywiau dynion gan ddefnyddio'r ychydig bŵer sydd ganddi. Ac yna, mae George Sand yn cyrraedd, y fenyw hardd hon sy'n gwisgo dillad dyn, ac mae Blanca mewn cariad.

Ond mae gweddill y pentref yn ddrwgdybus o'r newydd-ddyfodiaid ac, wrth i'r gaeaf ddod, wrth i George geisio atal ei theulu a hi ei hun rhag chwalu, tra mae Chopin yn ysgrifennu un preliwd ar ôl y llall mewn diobaith ar ei biano di-dôn, mae'n edrych yn debyg mai trychineb fydd diwedd eu harhosiad.

Nell Stevens llun credyd Juliana Johnston

Nell Stevens, Briefly, A Delicious Life (Picador, Pan MacMillan)
Mae Nell Stevens yn ysgrifennu cofiannau a ffuglen. Hi yw awdur Bleaker House a Mrs Gaskell and Me, a enillodd Wobr Somerset Maugham 2019. Cafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobr Stori Fer Genedlaethol 2018 y BBC. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn The New York TimesVogueThe Paris ReviewThe New York Review of BooksThe GuardianGranta, ymhlith eraill. Mae Nell yn Athro Cynorthwyol mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Warwig. Briefly, A Delicious Life yw ei nofel gyntaf.

Twitter: @nellstevens
[Credyd llun: Juliana Johnston]

No Land to Light On gan Yara Zgheib (Atlantic Books (Allewn & Unwin))

No Land to Light On gan Yara Zgheib (Atlantic Books [Allen & Unwin])
Boston, 2017: Pan fydd Hadi yn dychwelyd i'w bartner, Sama, sy'n feichiog ac yn agos at ei hamser esgor, ar ôl taith i'r Iorddonen i gladdu ei dad, caiff ei atal gan reolwyr y ffin - mae cyfraith fewnfudo newydd a llym newydd gael ei deddfu - wrth iddi hithau aros amdano ar yr ochr arall.

Wedi'u gwahanu a'u dal rhwng gobaith a dadrith, wrth i'r oriau droi'n ddiwrnodau ac yn wythnosau, mae Sama a Hadi yn dyheu am ffordd yn ôl i'w gilydd, ac i'r bywyd roeddent wedi breuddwydio amdano gyda'i gilydd. Ond ydy'r bywyd hwnnw'n bodoli o hyd, neu ai lledrith yn unig oedd?

Yn ingol ac yn bersonol ond eto'n drist o gyffredin, No Land to Light On yw stori teulu wedi'i ddal gan rymoedd y tu hwnt i'w rheolaeth, sy'n ymladd dros y rhyddid a'r cartref roeddent wedi'u canfod yn ei gilydd.

Yara Zgheib llun credyd Katerina Ivannikova

Yara Zgheib, No Land to Light On, (Atlantic Books [Allen & Unwin])
Yara Zgheib yw awdur y llyfr sydd wedi cael ei ganmol yn fawr gan y beirniaid, The Girls at 17 Swann Street, a gafodd ei gynnwys ar restr People o'r llyfrau newydd gorau ac a fu'n destun adolygiadau gwych gan The New York Times Book ReviewPublishers WeeklyKirkus ReviewsBooklist, a Bustle.

Mae hi’n Ysgolhaig Fulbright ac enillodd radd meistr mewn astudiaethau diogelwch gan Brifysgol Georgetown a PhD mewn materion rhyngwladol gyda diplomyddiaeth gan y Centre d' Études Diplomatiques et Stratégiques ym Mharis.

[Credyd llun: Katerina Ivannikova]