Mae Prifysgol Abertawe Gwobr Dylan Thomas yn falch o gyhoeddi rhestr fer 2023.

Limberlost gan Robbie Arnott

Limberlost gan Robbie Arnott (Atlantic Books)
Mae Ned West yn breuddwydio am hwylio dros yr afon ar ei gwch ei hun. I Ned, mae cwch yn golygu rhyddid - y dŵr croyw agored, riffiau llawn môr-lewys, tanau ar draethau preifat - yn bell i fwrdd o Limberlost, fferm ei deulu lle mae ei dad yn pryderu ac yn galaru am frodyr hŷn Ned. Maen nhw oddi cartref, yn ymladd mewn rhyfel didostur a phell, yn tyfu'n ddynion ar faes y gad, tra mae Ned - sy'n rhy ifanc i ymrestru - yn crwydro'r tir yn chwilio am gwningod i'w saethu, gan werthu eu croen er mwyn ariannu ei uchelgeisiau cudd i feddu ar gwch.

Ond, wrth i'r tymhorau fynd heibio, mae Ned yn dod i oed ac mae bywyd go iawn yn tarfu ar ei freuddwydion. Mae Ned yn cwympo mewn cariad â Callie, chwaer wydn a galluog ei ffrind gorau a chyda'i gilydd, maen nhw'n dysgu gwersi cariad, colled a chaledi. Pan fydd storm yn dinistrio cnwd Limberlost ac yn rhoi dyfodol y berllan yn y fantol, mae'n rhaid i Ned benderfynu beth i'w warchod: breuddwydion ei blentyndod, ynteu'r bobl a'r tir o'i gwmpas.

Ar adegau'n deimladwy ac yn ddidrugaredd, mae Limberlost yn trafod yr agweddau ar wrywdod rydym yn eu hetifeddu a rhyfeddodau llachar, dirifedi, dod i oed. Wedi'i hadrodd mewn ysbryd hudolus â naws chwedl, mae'r stori hon yn llythyr cariad bythgofiadwy i gyfoeth byd natur gan ysgrifennwr â dawn brin.

Robbie Arnott llun credyd Mitch Osborne

Robbie Arnott, Limberlost (Atlantic Books)
Robbie Arnott yw awdur y nofel Flames, a enillodd Wobr Margaret Scott a chafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobrau Llenyddol Prif Weinidog Victoria yn y categori Ffuglen ac ar restr hir Gwobr Lenyddol Miles Franklin. Enillodd ei nofel arall, The Rain Heron, wobr Llyfr y Flwyddyn The Age yn 2021 a chafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobr Lenyddol Miles Franklin. Mae'r Sydney Morning Herald wedi ei enwi'n Nofelydd Ifanc Gorau Awstralia. Mae'n byw yn Tasmania.

Twitter: @RobbieArnott
[Credyd llun: Mitch Osborne]

Seven Steeples gan Sara Baume

Seven Steeples gan Sara Baume (Tramp Press)
Dyma’r gaeaf sy’n dilyn yr haf pan wnaethon nhw gwrdd. Mae cwpwl, Bell a Sigh, yn symud i dŷ anghysbell yng nghefn gwlad Iwerddon gyda'u cŵn. Mae’r ddau yn hoffi byw ar wahân ac mae ganddynt dueddiadau anghymdeithasol, felly maent yn gadael y bywydau confensiynol sy'n ymestyn o'u blaenau i greu bywyd arall - un sydd â'i wreiddiau mewn defod, ymhell o'r ffrindiau a'r teuluoedd maent wedi ymbellhau oddi wrthynt.

Maent yn cyrraedd eu cartref newydd ar ddiwrnod braf ym mis Ionawr ac yn edrych i fyny i werthuso'r olygfa. Mae mynydd yn codi'n raddol ac yn ddinod o'r Iwerydd 'fel pe bai ei uchder wedi cronni dros ganrifoedd. Fel be bai, dros ganrifoedd, roedd wedi gwastatáu ei hun wrth ymestyn i fyny.' Maent yn addo dringo'r mynydd ond nid yw'n cael ei ddringo dros y saith mlynedd nesaf. Rydym yn symud drwy'r tymhorau gyda Bell a Sigh wrth iddynt ddechrau deall mwy am y byd bach o'u cwmpas, ac wrth i'w diddordeb yn y byd ehangach grebachu.

Mae Seven Steeples yn fyfyrdod hyfryd a dwfn ar natur cariad a gwydnwch natur. Drwy Bell a Sigh, a’r bywyd maent yn ei greu iddynt eu hunain, mae Sara Baume yn archwilio beth mae'n ei olygu i ddianc y llwybrau traddodiadol y disgwylir i ni eu dilyn - a beth mae'n ei olygu i esblygu wrth ymroi i berson arall ac i'r dirwedd.

Sara Baume llun credyd Kenneth O'Halloran

Sara Baume, Seven Steeples (Tramp Press)
Mae Sara Baume yn awdur pedwar llyfr. Mae ei nofelau wedi cael eu cyfieithu'n eang ac wedi ennill gwobrau megis Gwobr Goffa Geoffrey Faber, Gwobr Rooney ar gyfer Llenyddiaeth Wyddelig a Gwobr E. M. Forster. Yn 2020, cafodd ei llyfr cyntaf, handiwork, sy'n waith ffeithiol, ei gynnwys ar restr fer Gwobr Rathbones Folio ac yn 2022, cafodd ei thrydedd nofel, Seven Steeples, ei chynnwys ar restr fer Gwobr Goldsmiths. Mae hi'n byw yng ngorllewin Corc lle mae hi'n gweithio hefyd fel artist gweledol.

Instagram: @saraofthebaumes
[Credyd llun: Kenneth O'Halloran]

God's Children Are Broken Little Things gan Arinze Ifeakandu (Orion, Weidenfeld & Nicolson)

God's Children Are Little Broken Things gan Arinze Ifeakandu (Orion, Weidenfeld a Nicolson)
Mae dyn yn ail-ymweld â champws y brifysgol lle collodd ei gariad cyntaf, yn ymwybodol bellach o'r hyn nad oedd yn gallu ei ddeall ar y pryd. Mae merch yn dychwelyd adref i Lagos ar ôl marwolaeth ei thad, lle mae'n rhaid iddi wynebu ei pherthynas - yn y gorffennol ac yn y dyfodol - â'i phartner hirdymor. Mae cerddor ifanc yn dod yn enwog ond yn wynebu'r risg o golli ei hun a'r dyn sy'n ei garu.

Mae cenedlaethau'n gwrthdaro, mae teuluoedd yn chwalu ac yn dod yn ôl at ei gilydd, mae ieithoedd a diwylliannau yn cydblethu ac mae cariadon yn canfod eu ffyrdd i'r dyfodol; o blentyndod drwy oedolaeth; ar gampysau prifysgol, yng nghanol dinasoedd ac mewn cymdogaethau lle mae clychau eglwys yn cymysgu â'r alwad foreol i weddïo.

Arinze Ifeakandu llun credyd Bec Stupak Diop for Black Rock Senegal

Arinze Ifeakandu, God's Children Are Little Broken Things (Orion, Weidenfeld & Nicolson)
Ganwyd Arinze Ifeakandu yn Kano, Nigeria. Cafodd ei gynnwys ar restr fer Gwobr AKO Caine ar gyfer ysgrifennu o Affrica, mae'n gymrawd ysgrifennu A Public Space, graddiodd o Weithdy Ysgrifenwyr Iowa. Mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi yn A Public Space, One Story, GuernicaGod's Children Are Little Broken Things yw ei drydydd llyfr.

[Credyd llun: Bec Stupak Diop for Black Rock Senegal]

I'm a Fan gan Sheena Patel (Rough Trade Books)

I'm a Fan gan Sheena Patel (Rough Trade Press)
Yn I'm a Fan, mae un siaradwr yn defnyddio stori ei phrofiad mewn perthynas sy’n ymddangos yn anghyfartal ac yn anffyddlon fel prism i archwilio'r gafael cymhleth sydd gennym yn ein gilydd. Â llygad clir ac anfaddeugar, mae'r adroddwr yn dadansoddi ymddygiad pawb, gan gynnwys ei hymddygiad ei hun, ac yn gwneud cysylltiadau syfrdanol rhwng y brwydrau am bŵer sydd wrth wraidd perthnasoedd dynol a rhai'r byd ehangach. Yn eu tro, mae'n cynnig beirniadaeth bwerus o fynediad, y cyfryngau cymdeithasol, perthnasoedd heteronormadol patriarchaidd, a'n hobsesiwn diwylliannol â statws a sut caiff y statws hwnnw ei gyfleu.

Yn y llyfr cyntaf anhygoel hwn, mae Sheena Patel yn ei chyflwyno ei hun fel llais newydd hanfodol mewn llenyddiaeth, sy'n gallu cyfleu amrywiaeth o emosiynau a phrofiadau ingol ar y dudalen. Rhyw, trais, gwleidyddiaeth, tynerwch - mae Patel yn ymdrin â nhw i gyd â llais gwreiddiol a medrus.

Sheena Patel (c) Salem Zaied

Sheena Patel, I'm a Fan (Rough Trade Press / Granta)
Mae Sheena Patel yn ysgrifennwr ac yn gyfarwyddwr cynorthwyol ffilmiau a rhaglenni teledu a gafodd ei geni a'i magu yng ngogledd-orllewin Llundain. Mae hi'n rhan o'r grŵp 4 BROWN GIRLS WHO WRITE, mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn 4 BROWN GIRLS WHO WRITE (Rough Trade Books) ac mewn casgliad o farddoniaeth o'r un enw (FEM Press). Yn 2022 cafodd ei henwi’n un o 10 nofelydd newydd gorau The Observer. Hon yw ei nofel gyntaf.

Twitter: @Sheena_Patel_
[Credyd llun: Salem Zaied]

Send Nudes gan Saba Sams (Bloomsbury Publishing)

Send Nudes gan Saba Sams (Bloomsbury Publishing)
Mewn 10 stori syfrdanol, mae Saba Sims yn plymio i fyd merch ifanc ac yn ein hymdrochi yn ei groesosodiadau a'i gymhlethdodau: dod i oed yn rhy gyflym, ond ddim yn ddigon cyflym, meddiannu ar yr hyn y gallwch, gan gael eich meddiannu; ildio i bwysau cymdeithasol gan fod yn gyfrifol am y pwysau hynny ar yr un pryd. Mae'r menywod ifanc hyn yn wyllt ond yn ofalus, yn ffyrnig ond yn fregus, yn cael eu hecsbloetio ac yn ecsbloetio eraill.

Gan ymlwybro rhwng clybiau ar amser cau, toiledau tafarnau, gwyliau cerddoriaeth lle mae’n arllwys y glaw a gwyliau traeth, mae'r straeon cofiadwy hyn yn archwilio tirwedd beryglus dod i oed mewn ffordd grefftus - cyfeillgarwch dwys, mamau amwys, teuluoedd cyfunol anesmwyth a dysgu sut i wirioneddol fyw yn eich corff eich hun.

Gyda ffraethineb, gwreiddioldeb a thynerwch  trawiadol, mae Send Nudes yn dathlu'r buddugoliaethau bach mewn byd sy'n ceisio hawlio pob menyw ifanc iddo ei hun.

Saba Sams llun credyd Sophie Davidson

Saba Sams, Send Nudes (Bloomsbury Publishing)
Mae gwaith Saba Sams wedi cael ei gyhoeddi yn The Stinging Fly, Granta a Five Dials, ymhlith eraill. Cafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobr Stori Fer the White Review yn 2019. Enillodd Send Nudes Wobr Stori Fer Edge Hill 2022, ac enillodd 'Blue 4eva' Wobr Stori Fer Genedlaethol 2022 y BBC. Mae hi'n hanu o Brighton.

[Credyd llun: Sophie Davidson]

Bless the Daughter Raised by a Voice in Her Head gan Warsan Shire

Bless the Daughter Raised by a Voice in Her Head gan Warsan Shire (Chatto a Windus, Vintage)
Yn ei chasgliad hyd llawn cyntaf o gerddi, mae Warsan Shire yn cyflwyno i ni ferch sydd, yn absenoldeb rhywun i'w harwain a'i meithrin, yn gwneud ei ffordd betrusgar ei hun tuag at fod yn fenyw. Wedi'i hysbrydoli gan ei bywyd ei hun a bywydau ei hanwyliaid, yn ogystal â chan ddiwylliant pop a phenawdau'r newyddion, mae Shire yn canfod manylion llachar ac unigryw ym mhrofiadau ffoaduriaid a mewnfudwyr, mamau a merched, menywod du a merched yn eu harddegau. Bywydau swnllyd yw'r rhain, llawn cerddoriaeth, llefain a swrâu. Bywydau peraroglus ydynt, llawn gwaed a phersawr a jasmin. Bywydau amryliw yw'r rhain, llawn golau'r lloer, tyrmerig a chohl.

Mae'r casgliad hirddisgwyliedig hwn gan un o'n beirdd cyfoes mwyaf cyffrous yn fendith, yn ddathliad swyn-ganiadol o oroesi. Bydd pob darllenydd wedi'i newid ar ôl ei orffen.

Warsan Shire llun credyd Leyla Jeyte

Warsan Shire, Bless the Daughter Raised by a Voice in Her Head (Chatto & Windus, [Vintage])
Ysgrifennwr a bardd o dras Somali-Prydeinig yw Warsan Shire. Cafodd ei geni yn Nairobi a'i magu yn Llundain. Mae hi wedi ysgrifennu dau lyfr byr, Teaching My Mother How to Give Birth a Her Blue Body. Hi oedd enillydd cyntaf Gwobr Brunel International am Farddoniaeth Affricanaidd a deiliad cyntaf rôl Bardd Llawryfog Ifanc Llundain. Hi yw aelod ieuengaf y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol ac mae hi wedi'i chynnwys yng nghyfres Modern Poets Penguin. Shire ysgrifennodd y farddoniaeth ar gyfer yr albwm gweledol a enillodd Wobr Peabody, Lemonade a'r ffilm gan Disney, Black is King, gan gydweithredu â Beyoncé Knowles-Carter. Ysgrifennodd hi'r ffilm fer Brave Girl Rising hefyd, gan amlygu lleisiau ac wynebau merched Somali yng ngwersyll ffoaduriaid mwyaf Affrica. Mae Shire yn byw yn Los Angeles gyda'i gŵr a'i dau blentyn. Bless the Daughter Raised by a Voice in Her Head  yw ei chasgliad hyd llawn cyntaf o farddoniaeth a gafodd ei gynnwys ar restr fer Gwobr Felix Dennis y Forward Arts Foundation yn 2022.

Twitter: @warsan_shire | Instagram: @warsanshiree
[Credyd llun: Leyla Jeyte]

yr hyn a ddywed y beirniaid

Prajwal Parajuly am Limberlost gan Robbie Arnott (Atlantic Books)
"Roeddem wrth ein bodd â'r llyfr hwn am ei frawddegau syfrdanol, ei fyfyrdod tawel ar wrywdod, a'i allu i ddychmygu (yn ogystal â'n cludo i) Tasmania yn y 1940au. Mae tynerwch hardd i Limberlost gan Robbie Arnott a wnaeth argraff arnom. Rydym wrth ein boddau bod hwn ar restr fer 2023."

Jon Gower am Seven Steeples gan Sara Baume (Gwasg Tramp)
"Mae’r nofel hyfryd o dawel a thawel hyfryd hon yn mapio bywydau dau gariad gyda gofal gwarchodol, a hynny mewn rhyddiaith sensitif, fanwl. Yn Bell a Sigh, mae Sarah Baume wedi creu pâr o gymeriadau rhyfeddol o siambolaidd a chofiadwy, gan eu gosod mewn tŷ sy’n crecian mewn tirwedd Wyddelig wyntog, lle maent yn mynd â’u cŵn am dro ac yn dod yn agosach fyth. Yn dyner ac yn wir, dyma lyfr sy'n aros gyda chi fel arogl cnau coco eithinen yn ei blodau."

Maggie Shipstead am God's Children Are Little Broken Things gan Arinze Ifeakandu (Orion, Weidenfeld a Nicolson)
"Mae casgliad straeon Arinze Ifeakandu, God’s Children Are Little Broken Things, yn rhoi mewnwelediad yr awdur a dynoliaeth dosturiol, nerthol i  fywydau ei chymeriadau. Mae’n cyfleu mewn modd hyfryd ddyfalbarhad cariad ac angerdd cwiar wrth wynebu gormes."

Di Speirs am I'm a Fan gan Sheena Patel (Rough Trade Books)
"Roedden ni'n hoff iawn o lyfr Patel am ei uniongyrchedd, ei fywiogrwydd a’i llafnau o hiwmor miniog. Tra ni fyddai neb eisiau bod yn y berthynas sydd i’w gweld yn y tudalennau, ni allem beidio â pharhau i ddarllen, gan gefnogi’r traethwr a gobeithio y byddai'n llwyddo i ddianc rhag y cyfan - y dyn, y fenyw a'r effemera dibwys mae hi'n ei grynhoi mor dda. Dyma lais newydd cofiadwy a chyffrous yn y byd llenyddol, ac rydym yn siŵr y cawn glywed rhagor wrth Sheena Patel."

Rachel Long am Send Nudes gan Saba Sams (Bloomsbury Publishing)
"Casgliad cyffrous, grymusol o straeon byrion, sy’n llawn gwybodaeth, yn feiddgar, yn ffraeth ac yn amrywiol. Allwn i ddim rhoi'r llyfr yma i lawr! Mae pob un stori yn fydysawd unigryw ynddo’i hun o'r hyn ydyw/y gall fod i lywio a phrofi bod yn ferch/benywdod. Fy unig gŵyn yw nad oedd y llyfr yma’n bodoli pan oeddwn yn fy arddegau neu yn fy ugeiniau!"

Maggie Shipstead am Bless the Daughter Raised by a Voice in Her Head gan Warsan Shire
“Bless the Daughter Raised By a Voice in Her Head” gan Warsan Shire yw'r math o gasgliad o farddoniaeth sy'n ymwreiddio yn eich meddwl ac yn dod yn rhan ohonoch, gan adleisio pan fyddwch chi'n ei ddisgwyl leiaf. Mae geiriau Shire yn hynod benodol ond hefyd yn gynhwysol iawn — os nad yn gyffredin i bawb — o safbwynt cymhlethdodau’r teulu, yr hunan, a’r cartref."

 

Darllenwch y cyhoeddiad rhestr fer yn llawn yma.