Cyn ac yn ystod blwyddyn y lleoliad
Drwy ddewis treulio Blwyddyn mewn Diwydiant fel rhan o'u gradd yn y Gwyddoniaeth a Pheirianneg, gallwch ddisgwyl cael y canlynol:
- Cefnogaeth lawn i sicrhau lleoliadau diwydiannol
- Cyfres o sesiynau paratoi
- Deunyddiau cymorth lleoliad
- Gwybodaeth am gyflogwyr addas sy'n cynnig lleoliadau drwy gydberthnasau hirsefydlog â nifer fawr o gyflogwyr peirianneg
- Ymweliadau gan diwtoriaid lleoliad yn y gweithle
Mae gennym dîm o fentoriaid yn y Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Byddant yn trefnu darlithoedd cyn lleoliad ar eich cyfer, fel myfyriwr Blwyddyn mewn Diwydiant, er mwyn eich paratoi ar gyfer gwaith, byddant yn darllen CVs a ffurflenni cais ac yn eu cymeradwyo, a byddant yn rhoi cymorth i chi yn ystod y cyfnod gwneud cais.
Yn ystod blwyddyn y lleoliad, bydd y mentor yn ymweld â chi fel myfyriwr lleoliad yn eich gweithle, er mwyn sicrhau eich bod wedi mynd drwy broses sefydlu a'ch bod wedi setlo yn y cwmni. Bydd hefyd yn sicrhau bod y rhaglen waith yn briodol i flwyddyn y lleoliad, gan eich galluogi i gael y budd mwyaf posibl o'ch cyfnod yn y cwmni.
Strwythur Blwyddyn mewn Diwydiant - y flwyddyn baratoi
Semester 1
- Darlithoedd paratoi ar gyfer swydd
- Paratoi CVs a llythyrau eglurhaol
- Paratoi ffurflenni cais
- Paratoi ar gyfer asesiadau sgiliau a phrofion seicometrig
- Technegau cyfweld a chyfweliadau ffug
- Sgiliau gweithio mewn tîm
- Cyflwyniadau gan gwmnïau sy'n chwilio am fyfyrwyr lleoliad
- Cyflwyniadau gan fyfyrwyr sydd newydd ddychwelyd i'r brifysgol ar ôl blwyddyn eu lleoliad diwydiannol
- Trafod cyfleoedd gwaith a chwestiynau
- Cyngor a chymorth parhaus un-i-un
- Rhestr o gyfleoedd ar gyfer lleoliadau
- Sesiynau allsefydlu / rhwydweithio
Semester 2
- Sesiynau galw heibio i drafod cyfleoedd a chwestiynau
- Cyflwyniadau gan gwmnïau
- Parhau â cheisiadau/cyfweliadau
- Darlith ar Iechyd a Diogelwch cyn gadael i ymgymryd â'r lleoliad
- Cyfweliadau ffug
Strwythur Blwyddyn mewn Diwydiant - blwyddyn y lleoliad
Bydd gan bob myfyriwr Diwtor Blwyddyn mewn Diwydiant drwy gydol ei leoliad a fydd yn gwneud y canlynol:
- Ymweld â myfyrwyr yn y gweithle neu eu ffonio gan ddefnyddio Skype er mwyn sicrhau:
- Amgylchedd gwaith addas
- Rhaglen waith addas
- Bod y myfyriwr wedi mynd drwy broses sefydlu briodol
- Bod cynnydd yn cael ei wneud o ran bodloni gofynion portffolio'r Brifysgol
- Bod llawlyfr bugeiliol ar gael
- Cysylltu â rheolwr llinell neu oruchwyliwr lleoliad y myfyriwr er mwyn drafod cynnydd y myfyriwr
- Trafod unrhyw gwestiynau o'r gweithle neu gan y myfyriwr
- Derbyn adroddiadau safonol gan fyfyrwyr a'u goruchwylwyr a chyflwyno adroddiad i'r brifysgol ar gyfer pob myfyriwr, ar ôl yr ymweliad
Yn rhan olaf blwyddyn y lleoliad byddwch yn cyflwyno ffolder prosiect i'r Gwyddoniaeth a Pheirianneg ac yn rhoi cyflwyniad am brofiad y lleoliad.
Hefyd, er mwyn dathlu eich blwyddyn mewn diwydiant:
- Cynhelir noson wobrwyo i gydnabod eich cyflawniadau
- Darperir cinio