About the lecture
Gall dyluniadau arloesol ac effeithlon strwythurau gael eu cyflawni gan ddefnyddio technegau optimeiddio i leihau'r defnydd o ddeunyddiau a mwyafu perfformiad strwythurol. Mae'r dull optimeiddio strwythurol esblygiadol dwyffordd (BESO), a gynigwyd gan yr Athro Yi Min ‘Mike’ Xie yn wreiddiol a'i gyd-weithwyr, wedi cael ei ddatblygu'n dda at y diben hwn. Mae BESO yn seiliedig ar y cysyniad syml o ddileu deunydd aneffeithlon yn raddol o strwythur ac, ar yr un pryd, ychwanegu deunydd at y mannau lle mae ei angen fwyaf. Gall techneg mor syml, ond un sy’n addas at ddibenion helaeth, gael ei defnyddio i leihau pwysau awyrennau a cherbydau modur a swm yr ynni a ddefnyddir ganddynt ond hefyd gall greu dyluniadau strwythurol urddasol ar gyfer adeiladau a phontydd. Bydd y seminar hwn yn cyflwyno datblygiadau diweddaraf dull BESO a dangos ystod eang o gymwysiadau ymarferol gan gynnwys adeiladau godidog, pontydd hirfaith, awyrennau di-griw, celfi cywrain etc. Bydd y sgwrs hefyd yn dangos sut mae dyluniadau mor hardd ac organig yn cael eu gwireddu gan ddefnyddio technolegau gweithgynhyrchu uwch gan gynnwys argraffu 3D.