Mae Adran Ddeunyddiau Abertawe yn gartref i rai o'r offer nodweddu a phrofi deunyddiau mwyaf datblygedig yn Ewrop. O ficrosgopau trawsyrru electronau sy'n gallu delweddu pethau mor fach â thwf ewin bys bob milieiliad i becyn profi mecanyddol sy'n cael ei ddefnyddio i ragweld hyd oes injan jet, mae'r adran yn barod ar gyfer yr heriau byd-eang.
Mae ein cyfleusterau’n cynnwys
- Cyfres lawn o ficrosgopau electron uwch, pelydr-X a delweddu optegol
- Cyfleusterau lludded, ymgripiad a dirywio ar dymheredd uchel ar gyfer asesu deunyddiau awyrofod newydd
- Cymhwysiad caenu – o raddfa labordy i weithgynhyrchu rôl i rôl peilot
- Triniaethau toddi, castio a gwres
- Profion ffisegol, cemegol, trydanol a mecanyddol
- Cynhyrchu a phrofi polymerau a chyfansoddion
- Asesiad electrocemegol deunyddiau - cyrydu batris