Sefydlwyd Prifysgol Abertawe ym 1920 i gefnogi diwydiant. Ers hynny, mae wedi parhau ag ymagwedd gymhwysol gref at ymchwilio ac arloesi.
Mae'r adran ddeunyddiau wedi ennill nifer o grantiau, gwerth miliynau o bunnoedd gan ffynonellau nodedig, y mae llawer ohonynt yn gysylltiedig â diwydiant. Maent yn ein galluogi i gynnal ymchwil o ansawdd i dechnoleg ffotofoltäig ar raddfa fawr, creu dur heb ddefnyddio tanwyddau ffosil, dulliau cyfrifiadol o ddylunio aloeon, deunyddiau storio ynni, deunyddiau awyrofod uwch, delweddu uwch, bio-bolymerau a dirywiad deunyddiau.
Mae cymuned ffyniannus o ymchwilwyr ôl-raddedig a gyrfa gynnar a chyfleusterau rhagorol yn cefnogi’r broses o drosi ein hymchwil yn effaith gymdeithasol ac economaidd ac mae'n meithrin ymdeimlad cryf o berthyn yn yr adran lle mae israddedigion, ôl-raddedigion, ymchwilwyr a staff i gyd yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd.