Pam dewis peirianneg deunyddiau yn Abertawe?
Mae arloesi llwyddiannus yn dibynnu ar ddetholiad a pherfformiad deunyddiau allweddol, a gall y deunyddiau iawn helpu i ddiffinio cynnydd technolegol. Mae Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg yn faes cyffrous sy'n cynnwys elfennau o ffiseg a chemeg, gan gysylltu'n agos â’r rhan fwyaf o feysydd peirianneg.
Ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch chi’n astudio yn un o ganolfannau blaenllaw y DU ar gyfer addysgu ac ymchwilio i ddeunyddiau. Mae ein cysylltiadau ymchwil ddiwydiannol yn cynnig cyfleoedd rhagorol i’n myfyrwyr gradd ymgymryd â lleoliadau blwyddyn mewn diwydiant, yn ogystal â chyfleoedd ymchwil a chyflogaeth gwych.
Rydym yn paratoi ein myfyrwyr gradd ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Rydym yn chweched yn y DU am ragolygon graddedigion yn ôl The Complete University Guide 2022 ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i gael gyrfaoedd diddorol mewn cwmnïoedd megis Tata Steel, Rolls-Royce, Jaguar Land Rover, Atkins, GE Aviation, Mott MacDonald a Babcock International Group.