Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014
Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014, cafodd Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Abertawe eu rhoi yn y 5ed safle yn y DU am Effaith Ymchwil* ac yn y 15fed safle yn y DU am ansawdd cyffredinol yr ymchwil.
Mae'r REF yn asesu ansawdd ymchwil yn y sector Addysg Uwch yn y DU, gan roi sicrwydd i ni ynglŷn â'r safonau rydym yn anelu atynt.
Ymchwil o'r Radd Flaenaf
Mae'r Fframwaith yn dangos bod 72% o ymchwil ein staff academaidd o'r radd flaenaf (4*) neu'n rhyngwladol ardderchog (3*).
Mae gwaith ymchwil arloesol ein staff academaidd yn llywio ein haddysgu gwych ac mae llawer o'n staff yn arweinwyr yn eu meysydd.
Un o uchafbwyntiau eraill REF yw bod ein Hamgylchedd Ymchwil Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff** wedi cael ei roi yn y 7fed safle yn y DU
Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ymhlith y 10 gorau yn y DU am Effaith Ymchwil
Ffynhonnell: Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014
Sefydliad |
%4* Gweithgaredd Ymchwil |
GPA |
Safle yn y DU |
Bryste | 100 | 4.00 | 1 |
John Moores Lerpwl | 90 | 3.90 | 2 |
Loughborough | 75 | 3.75 | 3 |
Bath | 73 | 3.73 | 4 |
Abertawe | 70 | 3.70 | 5 |
Met Caerdydd (cyflwyniad ar y cyd â Bangor) | 67 | 3.67 | 6 |
Bangor (cyflwyniad ar y cyd â Met Caerdydd) | 67 | 3.67 | 6 |
Birmingham | 60 | 3.60 | 8 |
Brunel | 60 | 3.60 | 9 |
Surrey | 60 | 3.60 | 10 |
Diffiniadau'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
- * Mae 'effaith' yn golygu unrhyw effaith ar, newid neu fudd i'r economi, cymdeithas, diwylliant, polisi cyhoeddus neu wasanaethau cyhoeddus, iechyd, yr amgylchedd neu ansawdd bywyd, y tu hwnt i'r byd academaidd.
- ** Mae 'amgylchedd' yn cyfeirio at y strategaeth, yr adnoddau a'r seilwaith sy'n cefnogi gwaith ymchwil.