Mae Lauren Morris, sydd wedi graddio o TAR Addysg a Chynradd, wedi cael ei chydnabod am ei gweithgareddau academaidd ac allgyrsiol gan ei chyfoedion a thiwtoriaid academaidd.
Trwy gydol ei gyrfa academaidd, daeth Lauren hefyd yn hyfforddwr ffitrwydd a chwblhaodd gyrsiau sydd wedi ei harwain i ddysgu ffitrwydd gan ganolbwyntio'n arbennig ar y menopos a hyfforddiant cryfder.
Gyda hyfforddiant dan ei gwregys, mae Lauren wedi mynd i weithio ochr yn ochr â’i chydweithwyr ffitrwydd a’r AS Llafur lleol, Carolyn Harris, i chwarae rhan annatod mewn rhedeg rhaglen 6 wythnos lwyddiannus a luniwyd i gefnogi menywod sy’n mynd trwy berimenopaws.
Gan gynnwys cyfres o ddigwyddiadau ar-lein ac all-lein, roedd natur unigryw'r rhaglen yn hynod lwyddiannus ac roedd yn atseinio gan bawb a gymerodd ran.
Yn ogystal â chefnogi ei chymuned leol, mae Lauren hefyd yn llysgennad ar gyfer sianel ffitrwydd ar-lein Davina McCall – ‘Own Your Goals Davina’. Rhoddodd y platfform hwn y profiad i Lauren o gefnogi menywod o bob rhan o’r DU a oedd hefyd yn cynnwys siarad â menywod sy’n gweithio yn ITV Cymru am rôl ffitrwydd yn eu bywydau.
Pan ofynnwyd iddi am ei phrofiad, dyma oedd gan Lauren i’w ddweud:
“Mae’r sgiliau rydw i wedi’u hennill trwy addysgu dosbarthiadau ffitrwydd a siarad yn gyhoeddus yn ystod y digwyddiadau hyn wedi rhoi hyder i mi dyfu fel athrawes yn yr ystafell ddosbarth trwy gydol fy ngradd a TAR.
Mae fy ngwaith ym maes iechyd a ffitrwydd wedi fy helpu i ddeall sut y gall bod yn egnïol, gefnogi fy lles corfforol a meddyliol, pwnc sydd ar flaen y gad ym myd addysg yng Nghymru."
Llongyfarchiadau ar eich holl gyflawniadau ym Mhrifysgol Abertawe a thu hwnt, Lauren!