Mae'r Ganolfan ar gyfer Newid Cymdeithasol , yn yr Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, yn hyrwyddo ysgolheictod pwysig ar draws Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Rydym yn cynnig platfform i gefnogi datblygiad ymchwil a'i lledaenu sy'n croesholi'n feirniadol greu a llywodraethu ffenomena cymdeithasol o safbwyntiau methodolegol a damcaniaethol amrywiol.
Rydym yn gweithio ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau a meysydd ymchwil gyda'r nod o hyrwyddo newid cymdeithasol. Mae ein hymchwil yn archwilio achosion, dulliau ac effaith amrywiol anghydraddoldebau cymdeithasol-ddiwylliannol, ymyleiddio, eithrio a newid ac yn ystyried ffyrdd i ysgogi a dysgu'n effeithiol gan gydweithrediadau, cyfranogiad a gweithredu cymunedol.
Yn ystod y flwyddyn academaidd, byddwn yn cynnal y canlynol:
- Seminarau ymchwil rheolaidd sy'n agored i gydweithwyr ar draws y brifysgol, gyda siaradwyr mewnol ac allanol
- Sesiynau ysgrifennu ddwywaith yr wythnos sy'n agored i'r holl staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig
- Sesiynau cymorth gan gymheiriaid er mwyn datblygu allbynnau ymchwil