Mae'r Ganolfan Ymchwil Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymharol (CPP) yn ymroddedig i astudiaeth empirig a seiliedig ar ddamcaniaeth o sefydliadau, prosesau, cyfryngwyr ac ideolegau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau meintiol ac ansoddol, mae ei haelodau'n mynd ar drywydd ymchwil wreiddiol ar heriau cyfoes ym meysydd cyfranogiad democrataidd ac ymddiriedaeth, llywodraethu aml-lefel, technolegau digidol, amlddiwylliannaeth, ymfudo, poblyddiaeth a gwleidyddiaeth bleidiol, hawliau dynol a diogelu'r amgylchedd. Yn ogystal â galluogi cydweithredu mewnol, mae'r Ganolfan yn gwahodd siaradwyr allanol yn rheolaidd ac yn ymgysylltu ag ymarferwyr mewn llywodraeth, cymdeithas sifil a phroffesiynau amrywiol. Mae'r aelodau'n cynnwys ymchwilwyr ar bob cam o'u gyrfaoedd yn Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Abertawe, yn ogystal â phartneriaid mewn sefydliadau eraill.

Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau a gynhelir gan y Ganolfan mewn fformat hybrid. Os hoffech chi gael gwahoddiadau e-bost neu gynnig digwyddiad, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion ar waelod y dudalen hon.

Yn gysylltiedig â:

Pobl

Cyfarwyddwr

Mae Pier-Luc Dupont yn ysgolhaig rhyngddisgyblaethol ym meysydd hiliaeth, amrywiaeth a hawliau dynol, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn cyflogaeth ac addysg fel meysydd cymdeithasol a gwleidyddol. Mae ei ymchwil wedi'i chyhoeddi mewn amrywiaeth o gyfrolau cyfunol a chyfnodolion blaenllaw fel Ethnic and Racial Studies,  Identities, Peace and Conflict, Journal of Muslims in Europe and Secular Studies.  Mae ei lyfr Anti-Racism, Multiculturalism and Human Rights (Palgrave, 2025) yn archwilio sut y gall gweithredu cadarnhaol mewn cwricwla ysgolion amlddiwylliannol a chyflogaeth wrthweithio hiliaeth, ac a yw cyfraith hawliau dynol rhyngwladol yn gofyn am ddatblygiad pellach o'r polisïau hyn ym Mhrydain.

Cyhoeddiadau Academaidd Dethol

student

Newyddion

Digwyddiadau Cyhoeddus

Cynhadledd ar wydnwch democrataidd ac arloesi democrataidd, 31 Mawrth 2023

Mae democratiaethau ledled y byd dan bwysau, felly gwnaeth y gynhadledd ddwyn ysgolheigion o bob rhan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ynghyd i drafod y camau a'r arloesi sydd wedi dechrau dod i'r amlwg mewn ymateb i gynnwrf cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Gweler y rhaglen yma

Trafodaeth banel ynglŷn â 50 diwrnod cyntaf ail arlywyddiaeth Trump, 19 Mawrth 2025

Wedi'i chynnal ar y cyd gan y canolfannau ymchwil Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymharol a Diogelwch Byd-eang, Hawliau a Datblygu, gwnaeth y drafodaeth banel ddwyn arbenigwyr ym meysydd gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau a gwleidyddiaeth etholiadol o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Birmingham a Choleg Prifysgol Cork ynghyd. Gallwch weld y poster yma

Symposiwm a darlith gyhoeddus ar Ysgol Amlddiwylliannaeth Bryste: Perthnasedd parhaol, bylchau a ffyrdd ymlaen, 17 Tachwedd 2025

Roedd y digwyddiad hybrid hwn yn gyfle i ysgolheigion ledled y byd drafod cyfraniadau Ysgol Amlddiwylliannaeth Bryste, agwedd ddylanwadol ar syniadaeth gymdeithasol a gwleidyddol a oedd yn ymwneud â dadleuon normadol ynghylch diwylliant, hunaniaeth ac amrywiaeth. Gweler y rhaglen yma Mae'r papurau wedi cael eu cyhoeddi ers hynny mewn rhifyn arbennig o'r cyfnodolyn Ethnicity. Darllenwch y rhifyn arbennig.

 

Adborth ar ymchwil gynnar Sesiynau tasgu syniadau Clwb llyfrau Siaradwyr mewnol Siaradwyr allanol Ymgysylltu â Pholisi Podlediad Gwleidyddiaeth Ras Ceffylau