Golwg o Gampws Singleton gan gynnwys Parc Singleton a’r traeth, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Llun proffil o Pier Luc Dupont

Dr Pier-Luc Dupont Picard

Lecturer in Identity Politics
Politics Philosophy and International Relations

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513494

Cyfeiriad ebost

028
Llawr Gwaelod
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Pier-Luc Dupont yn Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth Hunaniaeth ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymharol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n ysgolhaig rhyngddisgyblaethol ym meysydd hiliaeth, amrywiaeth a hawliau dynol, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn cyflogaeth ac addysg fel meysydd cymdeithasol a gwleidyddol. Mae ei waith yn cael ei ysgogi'n bennaf gan awydd i ddadorchuddio ffynonellau sefydliadol o anghydraddoldebau hiliol ac anghydraddoldebau eraill, yn ogystal â damcaniaethu camau cyfreithiol a gwleidyddol tuag at gyfiawnder cymdeithasol. Mae ei waith ymchwil wedi cael ei gyhoeddi mewn amryw o gyfrolau ar y cyd a chyfnodolion blaenllaw megis Ethnic and Racial Studies, EthnicitiesIdentitiesThe Sociological Review, British Journal of Social PsychologyPeace and ConflictJournal of Muslims in Europe, Secular Studies, a Nordic Journal of Human Rights. Mae ei fonograff Anti-Racism, Multiculturalism and Human Rights (Palgrave, 2025) yn archwilio sut gall gweithredu cadarnhaol mewn cyflogaeth a chwricwla amlddiwylliannol mewn ysgolion drechu hiliaeth, ac a yw cyfraith hawliau dynol ryngwladol yn gofyn am ddatblygu'r polisïau hyn ymhellach ym Mhrydain.

Cyn dod i Abertawe, roedd gan Pier-Luc sawl rôl ymchwil ym Mhrifysgol Bryste, ar brosiectau ar raddfa fawr a oedd yn archwilio cyfiawnder o safbwynt mudwyr a lleiafrifoedd (prosiect ETHOS Horizon 2020, 2017-2019), ymagweddau polisi at amrywiaeth ddiwylliannol (prosiect PLURISPACE HERA, 2020-22), ac ysgogwyr arwahanu a chymysgu ethnig (prosiect Shared Spaces yr ESRC, 2022-23). Archwiliodd ei draethawd ymchwil doethurol, a gwblhawyd yn Sefydliad Hawliau Dynol Prifysgol Valencia ac a gefnogwyd gan ysgoloriaeth FPU pedair blynedd gan Weinyddiaeth Addysg Sbaen, y rhyngweithio rhwng hawliau cydraddoldeb a gydnabyddir yn rhyngwladol, polisïau cyhoeddus a hiliaeth yn y cyd-destun Ewropeaidd. Mae gan Pier-Luc MA mewn Astudiaethau Mudo o Brifysgol Valencia a BA mewn Astudiaethau Rhyngwladol ac Ieithoedd Modern o Brifysgol Laval (Quebec, Canada).

Meysydd Arbenigedd

  • Gwleidyddiaeth hil, ethnigrwydd, crefydd, rhyw, rhywioldeb, dosbarth, anabledd ac oedran
  • Polisi gwrth-wahaniaethu
  • Anghydraddoldebau cyflogaeth ac addysg
  • Actifiaeth ar lawr gwlad
  • Cyfraith a sefydliadau hawliau dynol
  • Amlddiwylliannaeth
  • Dulliau Ansoddol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Cydweithrediadau

Mae Pier-Luc yn cydweithio'n aml â'r Ganolfan Astudiaethau Ethnigrwydd a Dinasyddiaeth, a sefydlwyd gan yr Athro Tariq Modood ac a arweinir gan yr Athro Jon Fox ym Mhrifysgol Bryste a'r Labordy Dynameg Rhwng-grŵp dan arweiniad yr Athro Shelley McKeown Jones ym Mhrifysgol Rhydychen.

Ynghyd â Dr Thomas Sealy a Dr Erdem Dikici, mae wedi bod yn olygydd gwadd rhifyn arbennig ar berthnasedd parhaus a’r bylchau a geir o hyd yn Ysgol Amlddiwylliannaeth Bryste ar gyfer y cyfnodolyn Ethnicities. Mae'r rhifyn arbennig yn dod â chyfraniadau ynghyd gan ddamcaniaethwyr amlddiwylliannaeth sy’n dod i’r amlwg yn Awstralia, Singapore, Algeria, Sbaen, Canada a'r DU.

Rhwng 2025 a 2026, gwnaeth gyd-gynhyrchu a lansio gyda Rhwydwaith Du De-orllewin Lloegr a rhanddeiliaid cydraddoldeb hil eraill bapur briffio polisi ar amrywiaeth a newid gwrth-hiliol yn y gweithle, gan lunio argymhellion ar sail tystiolaeth ar gyfer Bil Cydraddoldeb (Hil ac Anabledd) y DU a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.