Myfyrwyr yn gweithio ar liniadur

Er ei bod hi'n ddefnyddiol i fyfyrwyr gael profiad o brifysgolion drwy ymweld â nhw, gall digwyddiadau ar-lein annog myfyrwyr blwyddyn 12 i wneud ymchwil yn gynnar a helpu myfyrwyr blwyddyn 13 i wneud eu penderfyniad terfynol - yn enwedig os yw eich myfyrwyr yn gobeithio symud i rywle rhai oriau i ffwrdd o'u cartref. Mae digwyddiadau rhithwir yn gost-effeithiol a gallant ddatrys y broblem o gynllunio trefniadau teithio i gyd-fynd ag amserlen academaidd brysur.

Ble i ddod o hyd iddyn nhw?

Bydd prifysgolion yn cynnal gweithgareddau ymgysylltu ar-lein drwy gydol y flwyddyn â'r nod o ateb cwestiynau ochr yn ochr â'r daith academaidd. Caiff y digwyddiadau hyn eu hysbysebu ar wefannau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol prifysgolion yn bennaf, er enghraifft Instagram, Facebook a TikTok. Mae UniTasterDays a NetSixthForm hefyd yn wefannau gwych sy'n hysbysebu digwyddiadau ar ddod i athrawon eu rhannu â myfyrwyr.

Gweminarau

Gall gweminarau fod yn rhai unigol neu'n rhan o gyfres, a gellir eu cynnal ar blatfformau megis Zoom, Teams neu Google Classroom. Ni fydd disgwyl i fyfyrwyr droi eu gwe-gamerâu ymlaen ond byddant yn gallu gofyn cwestiynau drwy nodwedd Holi ac Ateb. Bydd sgyrsiau am bynciau penodol yn aml yn cael eu cyflwyno gan academyddion, ond gallai sesiynau am fywyd myfyrwyr gael eu harwain gan fyfyrwyr llysgennad. Fel arfer, caiff y sesiynau hyn eu harchifo ar wefan y brifysgol a bydd modd eu gwylio ar gais ar ôl iddynt gael eu cyflwyno'n fyw.

Diwrnodau Agored Rhithwir

Mewn diwrnodau agored rhithwir, gall myfyrwyr gael teithiau o'r campws ar-lein, siarad â staff a myfyrwyr drwy sgyrsiau byw, gwrando ar ddarlithoedd a dod o hyd i adnoddau helaeth am gymorth gyda chyllid, anabledd a lles. Mae'r rhain yn ffordd wych i fyfyrwyr gysylltu â nifer o sefydliadau heb adael eu cartref neu'r ysgol a gallan nhw eu helpu i ddewis pa ddiwrnodau agored ar y campws i fynd iddynt.

Sesiynau Allgymorth

Bydd gan bob prifysgol ei thîm Recriwtio Myfyrwyr sydd ar gael i ddarparu sgyrsiau a gweithdai rhithwir i gefnogi teithiau addysg uwch eich myfyrwyr. Gall y pynciau gynnwys:

  • Bywyd Myfyrwyr
  • Pam Dewis Addysg Uwch?
  • Cyllid Myfyrwyr
  • Cyflwyno cais i UCAS

Mae rhestr lawn o'n sesiynau ar gael yma.

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cynnig cyfres o weminarau dosbarth meistr bob tymor ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a blwyddyn 13. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein cyfres nesaf sydd ar gael, cofrestrwch am ein Cylchlythyr i Athrawon ac Ymgynghorwyr.