Mae mynd i brifysgol yn gallu bod yn brofiad brawychus, yn enwedig pan mae myfyrwyr yn mynd i le newydd, yn cael eu disgwyl i astudio mewn ffordd newydd ym mhlith grŵp newydd o bobl. Tra bod eich myfyrwyr yn paratoi am eu siwrne prifysgol, mae hi’n hanfodol eu bod yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael trwy gydol eu gradd.
Un o’r gwahaniaethau mwyaf rhwng bywyd adref a bywyd prifysgol yw’r annibyniaeth byddent yn profi. Efallai bydd myfyrwyr yn rheoli arian ar radd fwyaf am y tro cyntaf, ac mae sawl ffordd gall prifysgolion helpu nhw gyda hwn. Bydd sawl lle yn cynnig ysgoloriaethau, sef swm arian does dim angen ad-dalu. Mae ysgoloriaethau yn gallu helpu cefnogi astudiaethau, hobi cerddorol neu gamp myfyrwyr yn ariannol. Yn Abertawe rydym yn cynnig ysgoloriaethau academig o £3000 i fyfyrwyr sy’n ennill AAA yn lefel-A (neu’r cyfwerth), a £2000 i raddau AAB. Bydd Cyllid Myfyrwyr hefyd yn selio swm eu benthyciad ar incwm yr aelwyd i sicrhau eu bod wedi’u cefnogi yn addas, ac efallai bydd prifysgolion yn cynnig bwrsariaethau a chyllid ymhellach ar gyfer amgylchiadau penodol. Ein prif adborth yw cyfrifo cyllideb wythnosol a sticio ati. Bydd cyfrifo eu hincwm a’i chymharu i’w gwariant yn help iddynt ddeall faint o incwm gwario sydd ganddynt.
Rhan arall hollbwysig o’u bywyd Prifysgol bydd rheoli eu hiechyd meddwl. Nid yn unig bydd eich myfyrwyr yn trefnu eu hunain am y tro cyntaf, byddent hefyd yn edrych ar ôl eu hunain. Mae yna amryw o wasanaethau cefnogaeth ym mhrifysgolion i gynorthwyo a hwn, o wasanaethau iechyd ar neu ar bwys campws, i dimoedd lles a chefnogaeth benodol i fyfyrwyr rhyngwladol. Mae cymryd rhan mewn cymdeithasau neu waith gwirfoddol hefyd yn gallu bod yn ffordd wych i gwrdd â phobl tra bod nhw i ffwrdd o adref. Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig rhaglennu lles ar gyfer myfyrwyr trwy gydol y flwyddyn yn cynnwys ioga, cwtsho cwn a thylino yn ystod cyfnod arholiadau. Rydym yn bartneriaid gyda’r ap TogetherAll, sy’n cynnig cefnogaeth 24/7 o glinigwyr Professional ar gyfer pob myfyriwr. Mae cyrsiau rheoli straen CBT hefyd ar gael, yn ogystal o’r Gwasanaeth Gwrando a rhedwyd gan ein Caplaniaeth.
Os yw eich myfyrwyr yn ceisio i brifysgol ac angen cefnogaeth ar gyfer anabledd, mae hi’n hanfodol eu bod yn ymchwilio i’r gwasanaethau ar gael o flaen llaw. Bydd gan ran helaeth o brifysgolion timoedd arbennig sy’n medru trafod y cymorth penodol ar gael o ran y cwrs, ffurf asesu ac opsiynau llety. Yn Abertawe, mae gennym dimoedd sy’n arbenigo mewn cefnogaeth iechyd meddwl ac Amodau'r Sbectrwm Awtistig, yn ogystal â gwasanaethau arbennig arall ar gyfer amryw o anghenion myfyrwyr. Mae ymgeisio i’r Lwfans Myfyrwyr Anabl hefyd yn gallu helpu gyda chost ychwanegol astudiaethau achos eu hanableddau, a does dim angen lle wedi’u cadarnhau yn y brifysgol i ymgeisio am hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i'r canllawiau hyn gan Gyllid Myfyrwyr Cymru a Chyllid Myfyrwyr Lloegr.
Beth bynnag eu hamgylchiadau, mae astudio yn y brifysgol yn ffordd wych i’ch myfyrwyr gweld eu potensial mewn awyrgylch cefnogol. Os oes unrhyw ansicrwydd ar sut caiff myfyrwyr eu cefnogi, rydym yn awgrymu eu cynghori i gysylltu â’u prifysgol ddewisol cyn ymgeisio.