A ydych chi'n barod am eich ffioedd dysgu?

Mae pecynnau cymorth ariannu gwahanol ar gael i ddysgwyr sydd am astudio’n llawn-amser neu'n rhan-amser. Dewch o hyd i ba gymorth ariannol yr ydych yn gymwys i'w dderbyn cyn i chi ymrestru a gwnewch gais o fewn y dyddiadau cau a osodir i sicrhau bod eich cymorth ariannol yn ei le erbyn i chi gyrraedd.

Mae'r hyn yr ydych yn gymwys i'w dderbyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, ble yr ydych yn byw, beth yr ydych yn ei astudio, ac ar ba lefel.

Costau Ffioedd Dysgu 2025/26

Gwaith Cymdeithasol, Meddygaeth i Raddedigion, Nyrsio a Diplomâu i Raddedigion

  • Gwaith Cymdeithasol a Meddygaeth i Raddedigion: Bydd y Ffioedd Dysgu yn £9250
  • Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwyddor Barafeddygol a chyrsiau Gofal Iechyd: Os ydych yn derbyn cyllid gan y GIG byddant yn eu talu eich ffioedd yn llawn. Os nad ydych yn derbyn cyllid gan y GIG bydd y Ffioedd Dysgu yn £9250

Eich ffioedd Dysgu yn 2025/26 fydd £9250 y flwyddyn (neu amrywio) ond gellir ei gynyddu yn y blynyddoedd dilynol o astudio yn ôl swm chwyddiant a bennir gan Lywodraeth Cymru.

I gael gwybodaeth ariannu ychwanegol am y rhaglenni arbenigol uchod ewch i’n tudalennau Benthyciadau a Grantiau i Fyfyrwyr ar y we.

Gwybodaeth Bellach