DYDDIADAU TALU ISRADDEDIG 2023/24

Blwyddyn Academaidd 2023/24

CONVERA GLOBALPAY

Dylid gwneud POB taliad i Brifysgol Abertawe drwy ein partner taliadau, Convera, fel y nodir isod:

Gall pob myfyriwr dalu ei ffioedd gan ddefnyddio platfform taliadau Prifysgol Abertawe sy'n cael ei bweru gan ein partner Convera GlobalPay.

Mae hyn yn caniatáu i chi, eich rhieni a'ch noddwyr dalu ffioedd myfyrwyr GBP yn yr arian o'ch dewis mewn ffordd syml a diogel.

TAFLEN WYBODAETH MYFYRWYR (CLICIWCH I AGOR)

Sut i dalu gyda Convera GlobalPay:

  1. Yn syml, dewiswch o ba wlad rydych chi'n talu, yr hyn rydych chi'n ei dalu amdano, a'r dull talu o’ch dewis.
  2. Rhowch eich manylion myfyriwr, gan ddilyn y manylion talwr.
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau talu a gwnewch eich taliad.

Payment Logos

 

CONVERA- SUT I DALU

DYDDIADAU TALU ISRADDEDIG 2022/23

BLWYDDYN ACADEMAIDD 2022/23

MANTEISION I CHI

  • Gall myfyrwyr, rhieni a noddwyr ddefnyddio'r platfform hwn i dalu blaendaliadau, ffioedd dysgu a mwy.
  • Byddwch yn osgoi taliadau trafodion costus gan eich banc.
  • Gallwch dalu ar-lein drwy opsiynau poblogaidd gan gynnwys trosglwyddiad banc, cerdyn credyd neu ddebyd neu eWallet.
  • Gallwch gymharu opsiynau talu ar unwaith. Mae Convera yn cadw’r gyfradd gyfnewid am 72 awr.
  • Os ydych chi’n dod o hyd i ddyfynbris rhatach gan eich banc, bydd Convera yn cynnig yr un raddfa gyda'u Gwarant Addewid Pris.
  • Gwiriwch eich statws talu trwy SMS ac e-bost.
  • Platfform amlieithog ar gael mewn 10 iaith.
  • Mynediad at wasanaeth sgwrsio byw 24/7 ar y platfform neu cysylltwch â'n tîm cyfeillgar: students.convera.com/#!/contacts     
  • Platfform wedi'i adeiladu gyda diogelwch mewn golwg er mwyn diogelu eich arian.
  • Gallwch ddechrau ad-daliadau yn hawdd os bydd amgylchiadau'n newid.
  • Talwch eich ffioedd trwy bartner byd-eang sydd wedi bod yn helpu myfyrwyr i wireddu eu breuddwydion addysg ers dros ddegawd.
  • Tawelwch meddwl; rydych chi'n cael tipyn o fargen. Os ydych chi’n dod o hyd i bris is gan eich banc, bydd Convera yn cynnig yr un pris i chi. Dysgwch fwy am yr Addewid Pris. (Telerau ac Amodau yn berthnasol).

Sesiynau 'galw heibio' cyllid

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am ffioedd dysgu a’ch bod am siarad ag aelod o'n tîm, mae gennym Sesiynau Galw Heibio ar Gampws y Parc, ar y dyddiau a'r amseroedd isod.

Campws Singleton - Adran Gyllid, Llawr Gwaelod:

Dydd Mawrth 10.00yb - 12.00yp
Dydd Iau 2.00yp - 4.00yp

Gallwch fynd i’n sesiynau sgwrsio byw ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen isod:

 

Sgwrs Fyw

Dydd Llun 2.00yp - 4.00yp
Dydd Mercher 2.00yp - 4.00yp
Dydd Gwener 2.00yp - 4.00yp

Ebost: income.tuition@abertawe.ac.uk.









 

Gwybodaeth Bellach