FFIOEDD DYSGU ÔL-RADDEDIG - SUT I DALU
DYDDIADAU TALU ÔLGRADDEDIG A DDYSGIR AR GYFER 2026/27
BLWYDDYN ACADEMAIDD 2026/27
ÔL-RADDEDIG SY'N CAEL EI ADDYSGU
Pa delerau talu sy'n cael eu cynnig?
Mae ffioedd dysgu yn daladwy yn llawn wrth gofrestru, ond mae'r Brifysgol yn ymwybodol o'r baich ariannol a allai godi o dalu ffioedd dysgu felly bydd yn caniatáu i fyfyrwyr dalu mewn 3 rhandaliad (33%, 33% a 34%).
Byddwch yn ymwybodol nad yw unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau y gallech fod wedi'u dyfarnu yn cyfrif tuag at dalu eich rhandaliad cyntaf. Er enghraifft, os yw eich ffioedd yn £5,500 ac os ydych wedi derbyn ysgoloriaeth o £1,000, mae swm yr ysgoloriaeth yn cael ei ddidynnu, yna byddech yn cael 3 rhandaliad o 33%, 33% a 34%.
Os byddwch yn dewis manteisio ar yr opsiwn rhandaliad, gofynnir i chi gyflwyno mandad debyd uniongyrchol dilys ar neu cyn cofrestru. Yna byddwn yn gwneud trefniadau i gasglu'r ffioedd mewn 3 rhandaliad ar y dyddiadau canlynol, yn dibynnu ar eich math o gwrs a dyddiad dechrau'r cwrs.
YMCHWIL ÔLGRADDEDIG
Pa delerau talu sy'n cael eu cynnig?
Mae ffioedd dysgu yn daladwy yn llawn wrth gofrestru, ond mae'r Brifysgol yn ymwybodol o'r baich ariannol a allai godi yn sgil talu ffioedd dysgu, felly bydd yn caniatáu i fyfyrwyr dalu mewn 3 rhandaliad (33%, 33% a 34%).
Noder na fydd unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau a ddyfarnwyd i chi yn cyfrif tuag at daliad eich rhandaliad cyntaf. Er enghraifft, os yw’ch ffioedd yn £5,500 a’ch bod wedi derbyn ysgoloriaeth o £1,000, caiff swm yr ysgoloriaeth ei ddidynnu felly byddai gennych chi 3 rhandaliad o 33%, 33% a 34% i’w talu.
Os byddwch yn dewis manteisio ar yr opsiwn rhandaliadau, gofynnir i chi gyflwyno mandad debyd uniongyrchol dilys cyn neu wrth gofrestru. Yna, byddwn yn gwneud trefniadau i gasglu'r ffioedd mewn 3 rhandaliad ar y dyddiadau canlynol, yn dibynnu ar y math o gwrs a dyddiad cychwyn eich cwrs.
Mae’r trefniadau talu ar gyfer myfyrwyr Ôl-raddedig Ymchwil yn amrywio ychydig o’u cymharu â’r trefniadau ar gyfer myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir. Y prif reswm yw bod Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir yn fras yn dilyn strwythur y flwyddyn academaidd Israddedig, tra bod myfyrwyr Ymchwil yn cofrestru ar gylch treigl o 12 mis.
DYDDIAU TALU AR GYFER 2025/26 - 2026/27
| Math o gwrs | Dyddiad dechrau | Rhandaliad 1af 33% | 2il randaliad 33% | 3ydd rhandaliad 34% |
|---|---|---|---|---|
| Ymchwil Ôl-raddedig | Ion 2026 | 10/02/2026 | 12/05/2026 | 04/09/2026 |
| Ymchwil Ôl-raddedig | Ebr 2026 | 30/04/2026 | 07/08/2026 | 08/12/2026 |
| Ymchwil Ôl-raddedig | Gorff 2026 | 22/07/2026 | 06/11/2026 | 08/03/2027 |
| Ymchwil Ôl-raddedig | Hyd 2026 | 03/11/2026 | 10/02/2027 | 08/06/2027 |
| Ymchwil Ôl-raddedig | Ion 2027 | 10/02/2027 | 12/05/2027 | 03/09/2027 |
(Bydd Myfyrwyr Ymchwil Rhyngwladol yn talu 50% wrth gofrestru a 25% yr un ar gyfer yr 2il a’r 3ydd rhandaliad)
CONVERA GLOBALPAY
Dylid gwneud POB taliad i Brifysgol Abertawe drwy ein partner taliadau, Convera, fel y nodir isod:
Gall pob myfyriwr dalu ei ffioedd gan ddefnyddio platfform taliadau Prifysgol Abertawe sy'n cael ei bweru gan ein partner Convera GlobalPay.
Mae hyn yn caniatáu i chi, eich rhieni a'ch noddwyr dalu ffioedd myfyrwyr GBP yn yr arian o'ch dewis mewn ffordd syml a diogel.
TAFLEN WYBODAETH MYFYRWYR (CLICIWCH I AGOR)
Sut i dalu gyda Convera GlobalPay:
- Yn syml, dewiswch o ba wlad rydych chi'n talu, yr hyn rydych chi'n ei dalu amdano, a'r dull talu o’ch dewis.
- Rhowch eich manylion myfyriwr, gan ddilyn y manylion talwr.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau talu a gwnewch eich taliad.

MANTEISION I CHI
- Gall myfyrwyr, rhieni a noddwyr ddefnyddio'r platfform hwn i dalu blaendaliadau, ffioedd dysgu a mwy.
- Byddwch yn osgoi taliadau trafodion costus gan eich banc.
- Gallwch dalu ar-lein drwy opsiynau poblogaidd gan gynnwys trosglwyddiad banc, cerdyn credyd neu ddebyd neu eWallet.
- Gallwch gymharu opsiynau talu ar unwaith. Mae Convera yn cadw’r gyfradd gyfnewid am 72 awr.
- Os ydych chi’n dod o hyd i ddyfynbris rhatach gan eich banc, bydd Convera yn cynnig yr un raddfa gyda'u Gwarant Addewid Pris.
- Gwiriwch eich statws talu trwy SMS ac e-bost.
- Platfform amlieithog ar gael mewn 10 iaith.
- Mynediad at wasanaeth sgwrsio byw 24/7 ar y platfform neu cysylltwch â'n tîm cyfeillgar: students.convera.com/#!/contacts
- Platfform wedi'i adeiladu gyda diogelwch mewn golwg er mwyn diogelu eich arian.
- Gallwch ddechrau ad-daliadau yn hawdd os bydd amgylchiadau'n newid.
- Talwch eich ffioedd trwy bartner byd-eang sydd wedi bod yn helpu myfyrwyr i wireddu eu breuddwydion addysg ers dros ddegawd.
- Tawelwch meddwl; rydych chi'n cael tipyn o fargen. Os ydych chi’n dod o hyd i bris is gan eich banc, bydd Convera yn cynnig yr un pris i chi. Dysgwch fwy am yr Addewid Pris. (Telerau ac Amodau yn berthnasol).
SESIYNAU SGWRSIO BYW AR GYFER CYLLID
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch ffioedd dysgu ac yr hoffech siarad ag aelod o'n tîm, gallwch gael mynediad at ein sesiynau sgwrsio byw ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen isod:
| Dydd Iau | 2.00yp - 4.00yp |
Cysylltwch: Cysylltwch â'r Hwb