Croeso i'r Gyflogres

Mae'r Adran Gyflogres yn gweinyddu’r cyflogresi misol, y cyflogresi achlysurol ac o ran pensiwn.

Mae Swyddfa'r Gyflogres ar agor rhwng 9:00am a 5:00pm; rydym wedi ein lleoli ar lawr cyntaf yr Adeilad Cyllid.

Mae'r diwrnod cyflog ar ddiwrnod gwaith olaf bob mis, gan ystyried gwyliau banc a phenwythnosau. Caiff y taliadau eu gwneud drwy BACS, cyhyd â'ch bod wedi cyflwyno ffurflen manylion banc wedi'i chwblhau a dogfen adnabod â llun i'r Adran Adnoddau Dynol neu'r Dderbynfa Gyllid.

Gwybodaeth gyswllt:

E-bost: payroll@abertawe.ac.uk