Croeso

Ni yw'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol, swyddogaeth annibynnol sy'n darparu gwasanaeth archwilio mewnol i arweinwyr a rheolwyr y Brifysgol. Gwneir hyn trwy adolygu effeithiolrwydd systemau rheoli ariannol a gweithredol. Rydym yn cynllunio ac yn cynnal archwiliadau mewnol o Gyfadrannau ac Unedau Gwasanaeth Proffesiynol.

Beth yw Archwilio Mewnol?
Yn ôl Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol, "mae archwilio mewnol yn weithgarwch sicrhau ansawdd ac ymgynghori annibynnol a gwrthrychol sydd â'r nod o ychwanegu gwerth at weithrediadau sefydliad a'u gwella. Mae'n helpu sefydliad i gyflawni ei amcanion trwy roi ymagwedd systematig a disgybledig ar waith i werthuso a gwella effeithiolrwydd prosesau rheoli risg, rheolaeth, a llywodraethu."