Sut i dalu eich ffioedd a gwybodaeth arall

Mae'r adran hon yn esbonio'r hyn y mae angen i chi ei wybod am dalu eich ffioedd myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym eisiau i chi gael amser gwerth chweil wrth astudio gyda ni, ac rydym eisiau bod yn eglur o ran ein ffioedd fel rhan o'n hymrwymiad i chi. Cyn i chi ddechrau eich astudiaethau, mae'n bwysig iawn eich bod yn sicrhau bod gennych ddigon o arian i dalu am eich astudiaethau; o gofrestru am y tro cyntaf hyd at gwblhau'r radd. Mae'r tudalennau hyn yn esbonio’r hyn y bydd angen i chi ei wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid, a’r rheswm dros wneud hynny.