Ffioedd Dysgu

Mae'r holl ffïoedd dysgu'n ddyledus ar ddechrau'r sesiwn academaidd.  Er mwyn cynorthwyo myfyrwyr i ymestyn y gost dros y flwyddyn, mae'r Brifysgol wedi cyflwyno system dalu trwy randaliadau.

Gweler y ddolen isod i gael gwybodaeth am daliadau ar gyfer myfyrwyr Israddedig, Ôl-raddedig a Rhyngwladol.

Sut i Dalu eich Ffïoedd - Myfyrwyr Israddedig y DU a'r UE

Sut i Dalu eich Ffïoedd - Myfyrwyr Ôl-raddedig y DU a'r UE

Sut i Dalu eich Ffïoedd - Myfyrwyr Rhyngwladol

Gofynnir i fyfyrwyr cartref gyflwyno mandadau debyd uniongyrchol sy'n daladwy o fanc yn y DU i dalu eu rhwymedigaeth ffïoedd bersonol, fel rhan o'r broses gofrestru.

Myfyrwyr sy'n Cael eu Noddi

Ni chaniateir i fyfyrwyr sy’n datgan eu bod yn cael eu noddi gofrestru heb y ddogfennaeth briodol.  Disgwylir i noddwyr dalu anfonebau o fewn 30 niwrnod.  Ni fydd y Brifysgol yn parhau i gydnabod sefydliad fel noddwr cyfreithlon os na fydd taliadau’n cael eu derbyn yn brydlon.  Nid ydym yn ystyried rhieni/teulu fel noddwyr at ddibenion y diffiniad hwn ac rydym yn cadw’r hawl i wrthod tystiolaeth o nawdd dan rai amgylchiadau.

Lle nad yw ffïoedd yn cael eu talu gan noddwr myfyriwr, bydd y myfyriwr yn bersonol gyfrifol am yr holl ffïoedd sy'n ddyledus.

Nodiadau atgoffa

Bydd yr Adran Gyllid yn anfon nodiadau atgoffa at fyfyrwyr ynghylch ffïoedd sydd heb eu talu.  Ar ben hynny, dangosir manylion am y symiau sy'n ddyledus yng nghyfrif mewnrwyd y myfyriwr ar wefan y Brifysgol.

Cosbau am Fethu â Thalu Ffïoedd

Ffïoedd Dysgu

Fel rheol, bydd y cosbau canlynol yn cael eu gweithredu yn dilyn methu â thalu ffi neu randaliad dyledus:

  • Gofynnir fel arfer i'r myfyriwr ohirio ei astudiaethau a rhoddir gwybod i noddwr y myfyriwr yn unol â hynny.
  • Fel arfer, ni chaniateir i'r myfyriwr gofrestru am y flwyddyn academaidd ganlynol.
  • Fel arfer ni fydd y myfyriwr yn gallu cael ei ystyried gan y Byrddau Dyfarnu ac ni chaniateir i’r myfyriwr fynychu seremonïau graddio na derbyn dyfarniadau.
  • Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i godi tâl gweinyddu os na fydd ffïoedd wedi'u talu erbyn y dyddiad dyledus.

 

Apêl

Caiff myfyrwyr sy'n dymuno i  benderfyniadau yn ymwneud â chosbau a osodwyd yn sgil peidio â thalu ffïoedd dysgu gael eu hadolygu, ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Cyllid yn y lle cyntaf, gan roi manylion llawn am y rhesymau dros yr adolygiad.  Gall myfyrwyr sy'n anfodlon o hyd ar ganlyniad adolygiad mewn perthynas â methu â thalu ffïoedd dysgu ofyn i'r penderfyniad gael ei ystyried am y tro olaf, yn unol â Gweithdrefnau Adolygiad Terfynol y Brifysgol.

Gall myfyrwyr sy'n dymuno adolygu penderfyniadau yn ymwneud â chosbau a osodwyd yn sgil peidio â thalu ffïoedd llety, ysgrifennu at Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Myfyrwyr, gan roi manylion llawn am y rhesymau dros yr adolygiad.

Ni fydd angen i fyfyrwyr adael y Brifysgol os yw'r swm sy'n ddyledus yn llai na £100.00.

Mae'r weithdrefn hon yn berthnasol i bob myfyriwr - gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, amser llawn, israddedig, ôl-raddedig, cartref, yr UE a thramor, sy'n astudio ar unrhyw gampws.

Diffinnir myfyrwyr fel unigolion sydd wedi'u cofrestru yn y Brifysgol i ddilyn rhaglen astudio, waeth a yw'n arwain at ddyfarniad ai peidio. Os bydd dyledion heb eu talu ar fyfyriwr adeg gadael y Brifysgol, bydd y Brifysgol yn cymryd camau i adennill y ddyled.

Mae myfyrwyr yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl ffioedd maent yn gyfrifol amdanynt yn ystod eu cyfnod astudio yn y Brifysgol yn cael eu talu'n brydlon. Hyd yn oed os yw noddwr wedi cytuno i dalu ar ran myfyriwr, y myfyriwr sy'n gyfrifol am y ddyled nes iddi gael ei thalu.

Os na chaiff ffioedd dysgu eu talu, cymerir camau i adennill y ddyled. Gall y rhain gynnwys datgofrestru'r myfyriwr, ei atal rhag cofrestru mewn blynyddoedd dilynol, gwrthod mynediad at ei radd a'i atal rhag mynd i'r seremoni raddio, gan dderbyn ei ddyfarniad yn ei absenoldeb.