Diben yr Adran Incwm yw rheoli swyddogaeth rheoli credyd y Brifysgol yn effeithlon ac yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys rheoli'r ffordd y caiff ffioedd dysgu israddedig ac ôl-raddedig eu casglu ac incwm masnachol hefyd. 

Mae'r adran hefyd yn ymdrin â phrosesu a chysoni incwm nad yw'r Brifysgol yn derbyn bil ar ei gyfer, yn ogystal â phrosesu derbynebau o incwm sy'n cael ei dalu i gyfrif banc y Brifysgol, ei dalu drwy'r post neu wyneb yn wyneb yn swyddfa incwm yr Adran Gyllid, ac y derbynnir bil ar ei gyfer. Mae'r adran hefyd yn rheoli system arian parod y Brifysgol.

Cyfeiriwch eich ymholiadau at y cyfeiriadau e-bost canlynol:

Anfonebau Masnachol: commercial-enquiries@abertawe.ac.uk
Taliadau'r Swyddfa Arian Parod: Income@abertawe.ac.uk
Ad-daliadau ffioedd dysgu: refunds@abertawe.ac.uk
Ymholiadau am ffioedd dysgu: Income.tuition@abertawe.ac.uk

 

Trosglwyddiad Banc:

Gallwch dalu'n uniongyrchol i'n cyfrif banc, ond dylech gofio nodi "Ffioedd Dysgu" a'ch rhif cyfeirnod myfyriwr neu rif anfoneb wrth wneud taliad.

Os yw eich taliad yn ymwneud ag incwm masnachol, nodwch eich rhif anfoneb:

  • Enw’r Banc: Banc Lloyds
  • Cyfeiriad y Banc: 802 Stryd Rhydychen, Abertawe SA1 3AF
  • Enw'r Derbynnydd: Prifysgol Abertawe
  • Côd Didoli: 30-95-46
  • Rhif y cyfrif: 02783215
  • Côd Swift: LOYDGB21101
  • Rhif IBAN: GB64LOYD30954602783215

Cerdyn Credyd/Debyd:

Nid ydym yn derbyn taliadau â cherdyn credyd dros y ffôn gan fyfyrwyr rhyngwladol newydd. Nid ydym yn derbyn American Express, Diners Club a chardiau debyd Solo Banc Nat West. Bydd myfyrwyr sy'n cofrestru ar-lein yn gallu talu â cherdyn credyd/debyd.

Taliadau ar y Fewnrwyd i Fyfyrwyr:

Mae ein cyfleuster talu ar-lein diogel ar gael i'r holl fyfyrwyr (rhai newydd a rhai sy'n parhau) 24/7. Gellir mynd ato drwy ddilyn y ddolen:

https://intranet.swan.ac.uk/login/

Mae'r system hon yn caniatáu i chi dalu'n llawn â cherdyn credyd/debyd.

Sieciau neu Ddrafftiau Banc:

Rydym hefyd yn derbyn sieciau neu ddrafftiau banc wedi'u gwneud yn daladwy i 'Prifysgol Abertawe'.