Croeso i Gydymffurfiad Ariannol

Mae'r tîm Cydymffurfiaeth Ariannol yn gyfrifol am sicrhau bod gan yr Adran Gyllid y gallu i weithredu o fewn set o reolau er mwyn lleihau'r risg ar gyfer yr adran a'r Brifysgol yn y pendraw. Mae'r tîm Cydymffurfiaeth Ariannol yn gyfrifol am sicrhau bod yr Adran Gyllid yn cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau a rheolau mewnol, yn ogystal â deddfwriaethau allanol a orfodir ar y Brifysgol. Mae'r tîm cydymffurfiaeth yn yr Adran Gyllid yn gyfrifol am nodi a rheoli risgiau cydymffurfio ar ran yr adran.