Cynlluniau Ffioedd a Mynediad
Yn ôl Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, mae'n ofynnol i'r Brifysgol lunio Cynllun Ffioedd a Mynediad bob blwyddyn. Mae'r cynllun hwn yn amlinellu'r ffioedd arfaethedig mae'n bwriadu eu codi am ei chyrsiau a faint o incwm o'r ffioedd y bydd yn ei fuddsoddi i wella 'Cyfle Cyfartal' ac i 'Hyrwyddo Addysg Uwch'.
Mae Cynlluniau Ffioedd a Mynediad yn darparu ar gyfer mwy o bwyslais ar wella mynediad i addysg uwch ac, yn benodol, sut bydd prifysgolion yn denu, yn cadw ac yn cefnogi myfyrwyr o grwpiau a dangynrychiolir. Yn gryno, mae'r Cynllun Ffioedd a Mynediad yn cynnwys:
- Yr hysbysiad i godi'r ffi ddysgu uchaf bosib y flwyddyn ar gyfer cyrsiau israddedig amser llawn
- Cyfanswm yr incwm o ffioedd a ddisgwylir o recriwtio myfyrwyr
- Lefel yr incwm o ffioedd i'w fuddsoddi mewn gweithgareddau sy'n hyrwyddo Cyfle Cyfartal ac yn Hyrwyddo Addysg Uwch
- Sut caiff y buddsoddiad hwn ei ddyrannu yn ôl amcanion y Cynllun Ffioedd a Mynediad
- Sut byddwn yn hysbysu darpar fyfyrwyr am y ffioedd hyn ac unrhyw gostau eraill
- Sut cafodd y cynllun ei lunio ar y cyd â phartneriaid ac Undeb y Myfyrwyr
- Y rhesymeg dros fuddsoddi incwm o ffioedd a sut mae hyn yn gyson â'n hamcanion strategol
- Sut y nodwyd y grwpiau a dangynrychiolir i'w cynnwys yn y cynllun
- Gweithgareddau a mentrau wedi'u halinio ag amcanion sydd â'r nod o gefnogi grwpiau a dangynrychiolir
- Targedau er mwyn monitro cynnydd wrth gynyddu lefelau cyfranogiad a chadw myfyrwyr o grwpiau a dangynrychiolir
Mae Cynlluniau Ffioedd a Mynediad y Brifysgol a gyhoeddwyd yma wedi'u cymeradwyo gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a gellir eu gweld isod.
Y Ffi Ddysgu Uchaf ar gyfer myfyrwyr o'r DU
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau na fydd y ffi ddysgu uchaf yn newid o £9,250 (nes y cyhoeddir yn wahanol). Mae'r Brifysgol yn pennu ei ffi ddysgu uchaf fel y'i nodir ar ein gwefan ac mae'r Cynllun Ffioedd a Mynediad yn gyson â pholisi Llywodraeth Cymru. Felly, bydd unrhyw newidiadau yn y dyfodol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru (megis unrhyw gynnydd mewn ffioedd ar sail chwyddiant yn y dyfodol) yn cael eu hadlewyrchu yn y ffioedd y bydd y Brifysgol yn eu codi ar ei myfyrwyr. Hysbysebir myfyrwyr am unrhyw newidiadau yn y dyfodol cyn gynted ag sy'n ymarferol bosib.
Bydd y dolenni isod yn mynd â chi i Gynllun Ffioedd a Mynediad cyfredol ac arfaethedig y Brifysgol.