Hapus - Canllaw i Rieni, Partneriaid a Gwarcheidwaid

Rydyn ni'n deall y gall pontio i fywyd yn y brifysgol a thrwy gydol y cyfnod hwn fod yn heriol i fyfyrwyr a'u rhieni a’u hanwyliaid. Nod y canllaw hwn yw cynnig yr wybodaeth a'r adnoddau i chi gefnogi eich myfyriwr drwy'r heriau hyn, gan gynnig cyngor hefyd ar ofalu amdanoch chi eich hun.

Mae Hapus yn gwrs ar-lein a fydd yn cynnig trosolwg i chi o’r heriau meddyliol, emosiynol ac ymarferol y gallai eich myfyriwr eu hwynebu yn y brifysgol, a phroblemau y gallech chi eu hwynebu eich hunan yn ystod y cyfnod hwn.

Mae'r canllaw yn ymdrin â phynciau fel:

  • Sgiliau byw
  • Iechyd meddwl a chorfforol
  • Iechyd rhywiol a chydsyniad
  • Cymorth penodol i grwpiau o fyfyrwyr fel myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr aeddfed 
  • Ysgytwad diwylliannol
  • Syndrom nyth gwag
  • Gwybodaeth am yr holl wasanaethau cymorth sydd ar gael i'ch myfyriwr yn ystod ei amser ym Mhrifysgol Abertawe.

Rydym yn argymell eich bod chi’n gweithio drwy’r pecyn cymorth cyn i’ch myfyriwr gyrraedd Prifysgol Abertawe ond bydd yn ddefnyddiol unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Bydd yn cymryd tua hanner awr. Gallwch gyrchu'r cwrs yma, ac mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Rydyn ni hefyd wedi creu cwrs i fyfyrwyr felly anogwch eich myfyrwyr i gwblhau hwn cyn cyrraedd y Brifysgol.

Os byddi di'n cael problemau technegol wrth ddefnyddio'r canllaw hwn, e-bostia welcome.campuslife@swansea.ac.uk/.

Rydyn ni'n croesawu dy adborth. Os hoffet ti wneud awgrymiadau ynghylch sut gallwn ni wella'r canllaw, clicia yma.