1. Datganiad Cenhadaeth
2. Cyflwyniad
3. Pwrpas ac Amcanion yr Archifau
4. Cyd-destun a Chydweithrediad
5. Defnyddwyr yr Archifau
6. Cwmpas y Polisi Datblygu Casgliadau
7. Gweithdrefnau Dewis a Chyfrifoldeb
8. Dulliau Caffael
9. Dadrestru, Gwaredu a Throsglwyddo
10. Blaenoriaethau Datblygu Casgliadau
11. Cyllid
12. Cyd-destun Polisi a Chysylltiadau
1. Datganiad Cenhadaeth
Archifau Richard Burton yw cof corfforaethol a stordy archifau Prifysgol Abertawe ac maent yn cadw deunydd o arwyddocâd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’r Archifau’n dewis ac yn cadw’r holl gofnodion o werth hanesyddol a grëwyd neu a brynwyd gan y Brifysgol ac yn sicrhau eu bod ar gael i bawb eu gweld. Drwy gyfrwng ei ddaliadau ac arbenigedd ei staff, mae’r Archifau’n cefnogi cenhadaeth y Brifysgol i ddarparu amgylchedd o ragoriaeth ymchwil, darparu profiad eithriadol i fyfyrwyr gyda’r addysgu o’r ansawdd uchaf, a chyfoethogi’r gymuned a bywyd diwylliannol Cymru a thu hwnt.
2. Cyflwyniad
Pwrpas y polisi datblygu casgliadau hwn yw darparu fframwaith ar gyfer cynnal a datblygu casgliadau Archifau Richard Burton, cytuno ar flaenoriaethau a hybu cysondeb mewn penderfyniadau yn y dyfodol. Nodir bod yr holl faterion casgliadau’n dod o dan gyfyngiadau allanol ar gyllid a llety.
Adolygir y polisi’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod unrhyw newidiadau sy’n effeithio ar yr Archifau’n cael eu hystyried.
3. Pwrpas ac Amcanion yr Archifau
Mae’r Archifau’n cael eu cydnabod, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, fel adnodd a ffynhonnell o arbenigedd cysylltiedig ac maent yn ceisio gwarchod casgliadau archif Prifysgol Abertawe a sicrhau eu bod ar gael i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Mae gan yr Archifau gryfderau yn y meysydd canlynol:
• Cofnodion Maes Glo De Cymru ac undebau llafur
• Archifau lleol, yn bennaf, cofnodion busnes, enwadau crefyddol a rhai teuluoedd nodedig
• Archifau perthnasol i’r diwydiant dur
• Richard Burton
• Casgliadau llenyddol, yn enwedig ysgrifennu o Gymru yn Saesneg
• Prifysgol Abertawe
Polisi’r Archifau yw casglu deunydd sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r casgliadau presennol a hefyd cofnodion y Brifysgol, ffigyrau amlwg cysylltiedig â hi, neu ddeunydd perthnasol i ymchwil yn y Brifysgol. Bydd yr archifau’n ategu daliadau’r llyfrgell.
Dyma amcanion yr Archifau:
• darparu adnoddau sy’n cefnogi gweithgareddau addysgu, dysgu ac ymchwil y Brifysgol
• darparu adnoddau ar gyfer ymchwil, gan y gymuned addysg uwch a’r gymuned ehangach
• cynghori’r Brifysgol ar faterion cadw cofnodion a materion polisi gwybodaeth cysylltiedig
Bydd yr Archifau’n cyflawni’r amcanion hyn drwy wneud y canlynol:
• casglu deunydd sy’n berthnasol i’r casgliadau presennol a hefyd cofnodion y Brifysgol, ffigyrau amlwg cysylltiedig â hi, neu ddeunydd perthnasol i ymchwil yn y Brifysgol
• sicrhau bod y casgliadau’n cael eu gwarchod yn briodol a’u cynnal mewn lle addas
• darparu cymhorthion canfod dibynadwy i alluogi i’r holl ddefnyddwyr gael mynediad at gasgliadau’r Archifau
• cynorthwyo’r defnyddwyr gyda dewis y deunydd sydd ei angen a dehongli adnoddau
• ateb ymholiadau gan ymchwilwyr sy’n methu cael mynediad corfforol at gasgliadau’r Archifau
• creu safonau gwasanaeth a chadw atynt drwy fonitro a gwerthuso
Mae’r Archifau’n ceisio darparu’r safonau uchaf posib o ran stiwardiaeth broffesiynol ac felly byddant yn gofyn am gyfarwyddyd fel sy’n briodol gan gyrff proffesiynol fel yr Archifau Cenedlaethol ac Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru.
Felly bydd yr Archifau’n gwneud y canlynol:
• darparu amgylchedd diogel i’r holl gasgliadau archif
• cynnal yr amodau amgylcheddol gorau posib
• diwallu gwahanol anghenion cadwraeth pob adran o’r casgliad a datgan blaenoriaethau ar gyfer gwarchod
Byddwn yn edrych ar ganllawiau a gynhyrchir gan gyrff allanol. Cydnabyddir y bydd yr holl waith o’r fath yn cael ei effeithio gan ffactorau allanol, sef llety a chyllid.
4. Cyd-destun a Chydweithredu
4.1 Cefndir Hanesyddol
Mae’r Archifau’n rhan o’r Llyfrgell, a sefydlwyd fel rhan o’r Brifysgol wrth ei sylfaenu yn 1920. Gan yr Archifau mae Siarteri’r Brifysgol a chofnodion y Llys, y Cyngor, y Senedd a’r holl bwyllgorau sydd wedi’u sefydlu. Mae trefniadau yn eu lle hefyd ar gyfer dewis a throsglwyddo cofnodion busnes presennol y Brifysgol.
Roedd Archifau’n cael eu cadw gan y Brifysgol am y tro cyntaf yn y 1950au ac roedd y deunydd yn ymwneud ag Abertawe a’r ardal leol. Mae’r Casgliad Archifau Lleol yn cynnwys cofnodion busnesau lleol, yn enwedig y diwydiannau metelegol, cofnodion teuluoedd ac unigolion, yn ogystal â chasgliadau perthnasol i eglwys Gatholig Rufeinig Priordy Dewi Sant yn Abertawe a’r gylched Fethodistaidd yn Abertawe a’r Gŵyr.
Sefydlwyd Casgliad Maes Glo De Cymru yn 1969 fel ymgais i warchod treftadaeth ddogfennol cymuned lofaol de Cymru. Roedd swyddogion Undeb Cenedlaethol y Glöwyr (Ardal De Cymru) yn ymwybodol o’r risg i dreftadaeth y gymuned lofaol ac aethant ati i ddechrau trosglwyddo eu cofnodion anghyfredol i’r Llyfrgell yng Ngholeg y Brifysgol Abertawe, gan annog eu cyfrinfeydd i wneud yr un peth.
Yn 1971, sefydlwyd Prosiect Hanes Maes Glo De Cymru gyda chyllid gan y Cyngor Ymchwil Gwyddor Gymdeithasol, i ganfod a chasglu llawysgrifau a deunydd wedi’i argraffu o arwyddocâd archifol. Parhaodd hyn tan 1974. Arweiniodd llwyddiant Prosiect Hanes Maes Glo De Cymru at ail brosiect rhwng 1979 a 1982.
Llwyddodd y Brifysgol i arwain y gwaith o gaffael casgliadau mawr o ddeunydd pwysig o ansawdd uchel, gan gynnwys daliadau archif mawr, gan arwain at y casgliadau helaethaf a mwyaf cynhwysfawr o’u math yn y wlad.
Mae’r Archifau’n cynnal perthnasoedd da â’r prif gyfranwyr – Undeb Cenedlaethol y Glöwyr (Ardal De Cymru) a Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo. Mae deunydd yn parhau i gael ei gyfrannu gan y cyfranwyr hyn a chan unigolion.
Mae casgliadau eraill wedi’u sicrhau a’u datblygu gan y Brifysgol mewn perthynas ag ymchwil sy’n cael ei wneud, fel ysgrifennu o Gymru yn Saesneg. Yn 2005, cyfrannwyd papurau Richard Burton at yr Archifau gan Sally Burton. Ymhlith yr eitemau nodedig diweddar sydd wedi’u sicrhau mae prynu llyfr nodiadau Dylan Thomas a drafftiau o weithiau barddonol eraill.
Nawr mae’r Archifau’n cynnwys mwy na 1600 o fetrau llinellol o archifau, sy’n cynnwys cofnodion undebau llafur, cofnodion busnes, archifau sefydliadau lleol, cofnodion personol, a chasgliad arwyddocaol o ffotograffau.
4.2 Pwrpas
Bydd yr Archifau’n cyfrannu tuag at genhadaeth Prifysgol Abertawe, sef:
• Darparu amgylchedd o ragoriaeth ymchwil, gydag ymchwil sy’n flaenllaw yn y byd, yn gydweithredol yn fyd-eang ac yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol;
• Sicrhau profiad eithriadol i fyfyrwyr, gydag addysgu o’r ansawdd uchaf a arweinir gan ymchwil ac a sbardunir gan ymarfer, gan greu graddedigion byd-eang sydd wedi’u haddysgu a’u paratoi ar gyfer cyflawniadau personol a phroffesiynol anrhydeddus;
• Defnyddio ei chryfder ymchwil, gan gydweithredu â diwydiant ac yn fyd-eang, i sbarduno twf economaidd, meithrin ffyniant, cyfoethogi’r gymuned a bywyd diwylliannol Cymru a chyfrannu at iechyd, hamdden a lles ei dinasyddion.
Bydd hefyd yn cyfrannu at strategaeth y Gwasanaethau a’r Systemau Gwybodaeth:
• Galluogi ein myfyrwyr i gyflawni llwyddiant academaidd, proffesiynol a phersonol
• Darparu adnoddau a gwasanaethau gwybodaeth effeithiol i fyfyrwyr, ymchwilwyr, academyddion, gweinyddwyr a’n defnyddwyr i gyd
• Adolygu, gwella ac ail-lunio ein gwasanaethau a’n systemau
• Gweithio’n effeithiol gyda’n defnyddwyr a’n rhanddeiliaid i gyd
• Datblygu gwaith tîm cydweithredol, cydweithredu traws-swyddogaeth, datblygiad staff a gweithgareddau cysylltiedig
Bydd yr Archifau’n chwarae rhan lawn mewn rhwydweithiau proffesiynol, fel Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru, yn ogystal â mentrau a phartneriaethau eraill i wella’r cydweithredu rhwng y rhai sy’n gyfrifol am warchod treftadaeth de Cymru. Hefyd bydd yr Archifau’n ceisio cynnal cysylltiadau agos â grwpiau defnyddwyr yn y gymuned ymchwil ac addysg uwch, fel y Gymdeithas ar gyfer Astudio Hanes Llafur, a’r gymuned ymchwil ehangach, a gynrychiolir gan grwpiau fel cymdeithasau hanes lleol a sefydliadau i bobl â diddordeb.
5. Defnyddwyr yr Archifau
Mae’r Archifau’n cyfrannu tuag at gyflawni cenhadaeth addysgu, ymchwil ac allgymorth Prifysgol Abertawe yn llwyddiannus, drwy ddarparu gwasanaethau i’r amrywiaeth ehangaf bosib o ddefnyddwyr. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
• Ymchwilwyr academaidd
• Myfyrwyr israddedig ac ôl-radd
• Aelodau’r cyhoedd sy’n cymryd rhan mewn ymchwil preifat neu sydd â diddordeb cyffredinol
• Ymchwilwyr masnachol a chwmnïau cyfryngau
Daw ymchwilwyr academaidd a myfyrwyr ymchwil o Brifysgol Abertawe ac o sefydliadau eraill.
Mae ‘defnydd’ o’r Archifau’n cynnwys astudio eu casgliadau yn yr ystafell ddarllen, mynediad at y catalogau ar-lein, cymhorthion canfod ac adnoddau digidol, ac ymholiadau dros y ffôn/trwy lythyr/ ar e-bost gan ddefnyddwyr o bell.
6. Cwmpas y Polisi Datblygu Casgliadau
Prif ddiddordebau casglu’r Archifau yw deunydd archifol sy’n gysylltiedig â threftadaeth ddiwydiannol, diwylliannol, cymdeithasol, gwleidyddol ac addysgol de Cymru. Y ffocws daearyddol yw de Cymru, fodd bynnag, bydd archifau sydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth berthnasol i feysydd eraill yn cael eu hystyried os ydynt yn rhan greiddiol o gasgliad.
Mae’r Archifau’n casglu deunydd sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag un neu fwy o’r meini prawf canlynol:
• Y Brifysgol a’r sefydliadau a’i rhagflaenodd, gan gynnwys cofnodion swyddogol y Brifysgol a’r corff o fyfyrwyr.
• Sefydliadau ac unigolion cysylltiedig â Maes Glo De Cymru, gan gynnwys undebau llafur, sefydliadau’r glöwyr, cymdeithasau gweithwyr, pleidiau gwleidyddol a chymdeithasau cydweithredol.
• Archifau busnes sy’n ategol i’r casgliadau sydd wedi’u sefydlu. Mae’r rhain yn cynnwys y diwydiannau metelegol a pheirianyddol, yn ogystal â thrafnidiaeth.
• Cofnodion undebau llafur diwydiannol, gan gynnwys Conffederasiwn y Masnachau Haearn a Dur.
• Archifau crefyddol sy’n ychwanegol at y casgliadau sydd wedi’u sefydlu am gylched Fethodistaidd Abertawe a Gŵyr ac eglwys Gatholig Rufeinig Priordy Dewi Sant, Abertawe.
• Papurau teulu a phersonol sy’n ategol i’r casgliadau sydd wedi’u sefydlu. Mae’r rhain yn cynnwys y teuluoedd Vivian, Dillwyn a Morris yn ogystal â Richard Burton.
• Archifau awduron o Gymru yn Saesneg a ffigyrau llenyddol.
• Archifau ymchwil academaidd sy’n berthnasol i’r casgliadau sydd wedi’u sefydlu.
• Archifau perthnasol i ymchwil yn y Brifysgol.
Mae’r Archifau’n gallu datblygu eu casgliadau drwy gyfraniadau tymor hir, rhoddion, cymynroddion, trosglwyddo mewnol ac, o dan amgylchiadau eithriadol, prynu.
Bydd yr Archifau’n parhau i dderbyn cyfraniadau sy’n cyfrannu at y casgliadau presennol ond, fel rheol, nid ydynt yn chwilio am archifau mewn meysydd y tu allan i’w cryfderau presennol o ran daliadau, oni bai eu bod yn ymwneud â diddordebau ymchwil y Brifysgol.
Derbynnir cofnodion mewn fformatau amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i, bapur a memrwn, ffotograffau a fformatau llun eraill, recordiadau delwedd sain a symud, cyfryngau digidol a chyfryngau a ddarllenir gan beiriannau, yn ogystal ag unrhyw fformatau eraill sy’n ffurfio archif neu sy’n rhan greiddiol o archif.
Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol iawn y sicrheir deunyddiau y tu allan i’r polisi sydd wedi’i nodi, a dim ond wedyn ar ôl i’r Archifau roi ystyriaeth briodol iddynt, gan feddwl am ddiddordebau stordai eraill.
Bydd yr Archifau’n gwerthuso casgliadau ac yn cael gwared ar ddeunydd nad yw’n bodloni eu meini prawf ar gyfer gwarchod yn barhaol.
Byddwn yn osgoi caffael deunydd sy’n dyblygu.
Ni fydd yr Archifau’n derbyn gwrthrychau neu arteffactau tri dimensiwn fel rheol; na chasgliadau sy’n ffilm, fideo neu ddeunydd tebyg yn gyfan gwbl, sy’n fwy priodol i stordai sy’n cynnig cyfleusterau storio ac ymgynghori arbenigol; cofnodion na ellir sefydlu eu perchnogaeth yn rhesymol (oni bai eu bod yn cael eu cyfrannu’n ddienw’n benodol) neu y mae anghydfod ynghylch eu perchnogaeth; cofnodion nad yw eu harwyddocâd yn ddigonol i gyfiawnhau eu diffygion neu eu dirywiad ffisegol difrifol, neu ddifrod arall; copïau o gofnodion archifol sy’n cael eu cadw mewn casgliadau eraill sydd ar gael i’r cyhoedd eu gweld.
Bydd yr Archifau’n ymarfer diwydrwydd dyladwy ac yn gwneud pob ymdrech i beidio â sicrhau unrhyw eitem oni bai y gellir cytuno’n foddhaol y gall sicrhau teitl dilys i’r eitem dan sylw, ac i gadw at ddeddfwriaethau a chanllawiau archifol a pherthnasol eraill.
7. Gweithdrefnau Dewis a Chyfrifoldeb
Bydd yr Archifau’n cadw at eu polisi datblygu casgliadau o ran sicrhau deunydd archifol.
Archifydd y Brifysgol fydd â’r cyfrifoldeb am ddewis eitemau a argymhellir ar gyfer eu caffael. Os yw’n briodol, gofynnir am gyngor ac argymhellion staff y Brifysgol a phartïon eraill sydd â diddordeb a byddant yn cael eu hystyried. Bydd yr Archifau’n cydweithredu â’r Archif Genedlaethol, yr Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd a sefydliadau archif eraill a byddant yn ystyried ystyriaethau cyfreithiol a moesegol. Wrth gynghori darpar gyfranwyr, bydd yr Archifau’n tynnu sylw at fodolaeth stordai eraill sydd â diddordebau tebyg neu’n gorgyffwrdd, er mwyn sicrhau bod y deunydd yn cael ei gynnig i’r sefydliad mwyaf priodol gan barchu dymuniadau’r cyfrannwr ei hun.
8. Dulliau Caffael
Mae’r Archifau’n casglu archifau drwy drosglwyddo mewnol drwy drefniadau sydd yn eu lle ar gyfer dewis a throsglwyddo cofnodion busnes presennol y Brifysgol neu drwy gyswllt uniongyrchol ag adrannau ym Mhrifysgol Abertawe, rhodd, cymynrodd, cyfraniad tymor hir neu bryniant. Gwneir y cyfraniadau hyn yn unol â’r telerau a’r amodau cyfrannu sefydlog adeg eu caffael ac fel y cytunir gan yr Archifau ac, os oes angen, awdurdod Prifysgol priodol arall. Pan fo hynny’n briodol, gofynnir am gyngor cyfreithiol.
O dan amgylchiadau eithriadol, efallai y bydd yr Archifau’n sicrhau copïau o gofnodion a gedwir mewn dwylo preifat, drwy bryniant neu drefniant arall, os bernir eu bod yn annhebygol o fod ar gael ar gyfer eu caffael yn y fformat gwreiddiol neu eu bod o fudd neu werth arwyddocaol i ddefnyddwyr.
Nod yr Archifau yw sicrhau cefnogaeth a chyllid gan y GSG a’r Brifysgol i sicrhau bod prosesu eitemau newydd yn digwydd yn brydlon.
9. Dadrestru, Gwaredu a Throsglwyddo
Caiff cofnodion eu sicrhau gyda’r bwriad y byddant yn cael eu cadw’n barhaol ond ceidw’r Archifau’r hawl i adolygu eu daliadau am yn ôl yn erbyn gweithdrefnau dewis perthnasol a chael gwared ar unrhyw archifau na chredir eu bod yn deilwng i gael eu gwarchod yn barhaol wrth eu derbyn neu’n nes ymlaen. Gellir dychwelyd deunydd o’r fath at y cyfrannwr, ei drosglwyddo i rywle arall neu ei ddinistrio’n gyfrinachol, gan ddibynnu ar y cytundeb a wneir adeg y cyfrannu.
Mae’r Archifau’n derbyn yr egwyddor y dylid cael rhagdybiaeth gadarn yn erbyn cael gwared ar unrhyw ddogfennau sydd yn eu perchnogaeth drwy eu gwerthu.
Nod yr Archifau yw cynnal integriti casgliadau. Os credir ei bod yn briodol rhannu casgliad a throsglwyddo rhan i stordy arall, gofynnir am ganiatâd y cyfrannwr.
Bydd yr Archifau’n ystyried trosglwyddo archifau i stordy mwy addas os teimlir y byddai’r dogfennau a defnyddwyr y dogfennau hynny’n elwa o’u hadleoli.
Mae’r Archifau’n dilyn cyfarwyddyd proffesiynol a safonau moesegol mewn perthynas â dadrestru, gwaredu a throsglwyddo.
10. Blaenoriaethau Datblygu Casgliadau
Mae’r blaenoriaethau casglu wedi cael eu datgan fel y canlynol:
• Cofnodion Prifysgol Abertawe ynghyd â chofnodion y corff o fyfyrwyr.
• Archifau sefydliadau ac unigolion cysylltiedig â maes glo de Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys undebau llafur, sefydliadau glöwyr, cymdeithasau lles, pleidiau gwleidyddol a chymdeithasau cydweithredol.
• Archifau perthnasol i’r diwydiant dur, yn benodol, y Gymuned undebau llafur a’i rhagflaenwyr.
• Archifau busnes sy’n ategu’r casgliadau sydd wedi’u sefydlu. Mae’r rhain yn cynnwys diwydiannau metelegol a pheirianyddol a hefyd trafnidiaeth.
• Papurau teulu a phersonol sy’n ategol i’r casgliadau sydd wedi’u sefydlu. Mae’r rhain yn cynnwys y teuluoedd Vivian, Dillwyn a Morris yn ogystal â Richard Burton.
• Cofnodion Cylched Fethodistaidd Abertawe a Gŵyr ac Eglwys Gatholig Rufeinig Priordy Dewi Sant.
Y ffocws daearyddol yw de Cymru. Fodd bynnag, bydd archifau sydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth berthnasol i feysydd eraill yn cael eu hystyried os ydynt yn rhan greiddiol o gasgliad.
11. Cyllid
Daw’r cyllid ar gyfer yr Archifau, fel gydag archifau Prifysgol eraill yn y DU, o gyfuniad o gefnogaeth graidd gan y sefydliad sy’n eu cadw a chyllid grant o ffynonellau allanol.
Mae’r Archifau wedi dangos lefelau cyson uchel o lwyddiant wrth ddenu cyllid ychwanegol ar gyfer gweithgarwch prosiectau. Bydd yr Archifau’n ceisio canfod ffynonellau posib o gyllid ychwanegol, fel sy’n briodol.
12. Cyd-destun Polisi a Chysylltiadau
Mae’r polisi datblygu casgliadau hwn yn rhan o strategaeth rheoli casgliadau gynhwysfawr ar gyfer Archifau Richard Burton. Mae’r polisïau perthnasol eraill yn cynnwys y canlynol:
• Gwybodaeth am y Casgliadau
• Mynediad at y Casgliadau
• Gofal a Chadwraeth y Casgliadau
• Rheoli’r Casgliadau
Adolygu
Cymeradwywyd y polisi hwn ym mis Ebrill 2017. Bydd yn cael ei adolygu ym mis Ebrill 2020 neu’n gynharach os bydd amgylchiadau’n gorfodi hynny.