MYND YN FYD-EANG GYDA PHRIFYSGOL ABERTAWE
Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, mae llawer o opsiynau ar gael i chi ennill profiad rhyngwladol. Ydych chi erioed wedi ystyried astudio dramor am semester neu flwyddyn fel rhan o'ch gradd? Neu efallai treulio rhan o'r haf ar raglen wirfoddoli neu interniaeth dramor? Dilynwch y dolenni isod i chwilio'r amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael i chi, gan ddibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio.
Myfyrwyr 2il flwyddyn sydd eisoes ar raglen gyda blwyddyn dramor? Byddwch chi'n derbyn gwahoddiad yn ystod mis Hydref i'n sgyrsiau am Opsiynau Blwyddyn Dramor sydd ar ddod - cadwch lygad ar eich mewnflwch e-bost gyda Phrifysgol Abertawe!
Myfyrwyr 2il flwyddyn sydd â diddordeb mewn blwyddyn dramor, ond nid ydych chi ar raglen radd blwyddyn dramor? Ymunwch â'n rhestr aros i fynegi eich diddordeb. Cofiwch na fydd hynny'n gwarantu lle i chi astudio dramor.