Mae astudio ym Mhrifysgol Wyoming yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr Abertawe ymgolli mewn cymuned groesawgar ym mynyddoedd Gorllewin America. Mae'r rhanbarth yn adnabyddus am ei hawyrgylch cyfeillgar ac yma byddwch chi'n dod o hyd i athrawon cefnogol sy'n ymroddedig i'ch helpu chi i lwyddo ac mae yma hefyd fywyd myfyrwyr bywiog sy'n annog twf personol gan gynnwys rhaglen athletau ffyniannus lle gallwch chi gefnogi'r cowbois a'r cowmonesau mewn gemau pêl-droed Americanaidd, pêl-foli, pêl-fasged a phêl-droed a mwy.
Lleolir Laramie, Wyoming, yng nghanol y Mynyddoedd Creigiog 2,200 o fetrau uwch ben y môr. Mae ei huchder yn golygu bod ei thrigolion yn mwynhau aer glân, ffres a 233 o ddiwrnodau heulog bob blwyddyn ar gyfartaledd! Hefyd, oherwydd bod y ddinas rhwng dwy gadwyn o fynyddoedd, mae tirweddau trawiadol ar eich stepen drws a gallwch chi fwynhau llawer o weithgareddau awyr agored, gan gynnwys heicio a sgïo ac archwilio parciau cenedlaethol ysblennydd.
Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.