Lleolir yr Iseldiroedd (a elwir hefyd yn aml, ond yn anghywir, yn Holand) yn Ewrop. Mae'n ffinio â'r Almaen i'r dwyrain a Gwlad Belg i'r de. Cyfeirir at bobl, iaith a diwylliant yr Iseldiroedd fel Iseldirwyr, Iseldireg ac Iseldiraidd. Mae'n wlad â phoblogaeth ddwys o dros 17 miliwn o bobl. Dylech ddisgwyl gweld digon o bobl ar gefn beic - efallai yr hoffech ystyried defnyddio'r ffordd hon o deithio eich hun!
Caiff Prifysgol Abertawe ei phartneru â'r canlynol:
- De Haagse Hogeschool
- Hogeschool Zuyd
- Radboud Universiteit Nijmegen
- Rijksuniversiteit Groningen
- Rijksuniversiteit Utrecht