Cymhwyster 4 blynedd ar lefel PhD yw EngD lle y caiff y prosiect ymchwil ei bennu a'i noddi gan bartner diwydiannol. Mae'r EngD yn rhoi hyfforddiant ym maes sgiliau busnes, rheoli ac arwain er mwyn gwella cyflogadwyedd a chreu arweinwyr o fewn diwydiant.
Un o fanteision astudio am EngD yw bod myfyrwyr yn cael £20,000 y flwyddyn ac mae llawer ohonynt yn cael cynnig swyddi ar ôl cwblhau'r cwrs. Mae gan ein graddedigion EngD gyfradd cyflogaeth o 97% ac mae llawer o'n cyn-fyfyrwyr bellach yn arwain cwmnïau mawr.
Mae ein prosiectau EngD yn canolbwyntio ar y meysydd lle mae gennym arbenigedd peirianneg sefydledig, sef Modelu Cyfrifiadurol, Caenau Gweithredol a Defnyddiau a Gweithgynhyrchu.
Mae ein Hacademi Defnyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A), a gaiff ei rhedeg gan ein Doethuriaethau Peirianneg, yn cael ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan yr Academi: https://materials-academy.co.uk/cy/home-cymraeg