Nodau’r Rhaglen
Nod y rhaglen yw darparu’r dulliau i weithwyr proffesiynol allu caffael a deall gwybodaeth helaeth yn eu maes mewn ffordd systematig, cyflwyno safbwynt beirniadol tuag at ymarfer proffesiynol, dadansoddi materion penodol gan ddefnyddio dealltwriaeth ddofn o ymchwil gwyddorau cymdeithasol perthnasol, cynhyrchu gwaith o ansawdd uchel ar gyfer adolygiadau gan gymheiriaid ac ar gyfer cyhoeddi, a gwneud cyfraniad sylweddol i'r maes trwy draethawd ymchwil.
Strwythur y Rhaglen
Mae'r rhaglen yn cynnwys elfennau allweddol:
- Mynediad a chadarnhad o ymgeisyddiaeth
- Methodoleg a addysgir
- Prif gorff ymchwil
- Traethawd ymchwil a viva voce
Mae dau gam i’r rhaglen : cyfnod a addysgir, sy'n cynnwys pum modiwl a addysgir, a chyfnod ymchwil, pan fydd myfyrwyr yn cynhyrchu traethawd doethuriaeth.
Mae'r modiwlau a addysgir yn seiliedig ar sgiliau ac maen nhw wedi'u strwythuro'n ofalus i wella'ch galluoedd i ymgymryd ag ymchwil annibynnol.
Cynhelir y modiwlau a addysgir ar y campws ym Mhrifysgol Abertawe, a byddwch fel arfer yn astudio dau fodiwl bob blwyddyn. Mae modiwlau'r flwyddyn gyntaf yn cynnwys: Athroniaeth a Moeseg Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol a Deall a Chyflwyno Llenyddiaeth Ymchwil. Mae modiwlau'r ail flwyddyn yn cynnwys: Methodolegau a Dulliau Ymchwil Ddoethurol Gymhwysol a Chyflwyno a Dadansoddi Data. Modiwl 5 blwyddyn tri yw Paratoi ar gyfer Traethawd Ymchwil.
Ar ôl cwblhau pum modiwl yn llwyddiannus, byddwch wedyn yn symud ymlaen i'r cam ymchwil ar gyfer blynyddoedd 4 i 6, lle byddwch yn ymgymryd ag ymchwil wreiddiol, i'w chyflwyno a'i hamddiffyn yn ystod arholiad viva voce, fel gyda rhaglenni doethurol eraill.
Strwythur y Rhaglen
|
Cyfnod a Addysgir
|
|
Blwyddyn Un
|
Semester 1
|
Semester 2
|
Modiwl 1
Athroniaeth a Moeseg Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (30 credyd)
|
Modiwl 2 Deall a Chyflwyno Llenyddiaeth Ymchwil (30 credyd)
|
|
Blwyddyn 2
|
Semester 1
|
Semester 2
|
Modiwl 3 Methodolegau a Dulliau Ymchwil Ddoethurol Gymhwysol (30 credyd)
|
Modiwl 4
Cyflwyno a Dadansoddi Data (30 credyd)
|
Blwyddyn 3
|
Blwyddyn academaidd lawn
|
Modiwl 5
Paratoi ar gyfer Thesis (60 Credyd)
|
|
Cyfnod Ymchwil
|
Blynyddoedd 4-6
|
Traethawd Doethurol
|
Asesiad
Caiff myfyrwyr eu hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd, drwy'r modiwlau a addysgir a thrwy baratoi traethawd ymchwil doethurol.
Asesir gwybodaeth a dealltwriaeth trwy amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n cynnwys aseiniadau, cyflwyniadau, adroddiadau ffurfiol a phrosiectau.
Mae'r rhaglen yn cynnig dull hybrid i fyfyrwyr astudio:
- Dulliau Addysgu Wyneb yn Wyneb – gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, gwaith grŵp, dysgu seiliedig ar ymarfer a thrafodaethau/enghreifftiau astudiaeth achos.
- Dulliau Astudio Annibynnol – gan gynnwys defnyddio dyddiaduron myfyriol, deunydd wedi'i recordio ymlaen llaw, a dulliau cydweithio ar-lein a rhestrau darllen i gynnal dysgu annibynnol.
- Mae myfyrwyr hefyd yn cael cyfleoedd i ofyn am adroddiadau adborth ysgrifenedig manwl gan diwtoriaid, sy'n galluogi twf dysgu parhaus a datblygiad ymchwil.
- Pan fo dysgwyr yn dychwelyd i addysg ar ôl profiad, cydnabyddir efallai y bydd angen cymorth asesu. Mae asesiadau yn y DCrim wedi'u cynllunio gyda hyn mewn golwg ac yn ystyried lefel uchel o fewnbwn gan fyfyrwyr; ar gyfer pob asesiad bydd y myfyrwyr yn dewis ffocws yr astudiaeth, sydd o ddiddordeb unigol, ac yn adeiladu ar eu cefndir presennol o wybodaeth broffesiynol ac yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu diddordebau ymchwil eu hunain.
Dysgu a Datblygu
Nod y rhaglen yw creu profiad gwell ac integredig i fyfyrwyr trwy ddatblygu ymdeimlad o gymuned o amgylch eu gradd.
Bydd addysgu yn y sesiynau ffurfiol a addysgir yn digwydd mewn ffordd ryngweithiol, gan gynnwys trafodaethau grŵp bach a mawr, gyda chefnogaeth technoleg ddigidol briodol i sicrhau cyfranogiad o werth. Bydd y dysgu hefyd yn cael ei gefnogi gan gyfathrebu a chefnogaeth barhaus gan Gydlynwyr Modiwlau drwy Canvas a'r cyfarfodydd ar-lein misol.
Drwy gydol y modiwlau a addysgir, anogir myfyrwyr i gysylltu cynnwys â'u cyd-destunau eu hunain, gan arwain at ymchwil sy'n gysylltiedig ag ymarfer. Ar ben hynny, bydd addysgu a dysgu ym mhob modiwl yn cael eu datblygu yn seiliedig ar eu hanghenion unigol, bydd academyddion yn cynnwys eu profiad proffesiynol a'u diddordebau ymchwil eu hunain i gefnogi ffocws eu cynnwys. Bydd yr amrywiaeth hwn yn y deunyddiau yn ogystal â'r addysgu a'r dysgu cysylltiedig yn digwydd ar nifer o ffurfiau gwahanol.
Yn ystod yr amser rhwng yr wythnosau addysgu, bydd llawer o'r dysgu yn hunangyfeiriedig ond bydd myfyrwyr hefyd mewn cysylltiad misol â Chyfarwyddwr y Rhaglen ac yn cael mynediad ar-lein at drafodaethau gyda Chydlynwyr Modiwlau. Bydd pob modiwl yn cael ei gefnogi gan safleoedd Canvas unigol (Ar-lein, Amgylchedd Dysgu Rhithwir), gan ganiatáu i fyfyrwyr a staff ychwanegu cynnwys.
Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn cynnig rhaglen gynhwysfawr o ddatblygu ar gyfer ymchwilwyr ôl-raddedig, gyda'r nod o ddatblygu'r sgiliau, y wybodaeth a'r priodoleddau i ragori mewn ymchwil a gyrfaoedd yn y dyfodol.
Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i fynychu digwyddiadau perthnasol fel rhan o gyfres seminarau Ymchwil yr Ysgol a byddant yn cael eu hannog i fanteisio ar yr holl gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr ymchwil.
Deilliannau Dysgu’r Rhaglen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
- Dangos eu bod wedi caffael a deall corff sylweddol o wybodaeth o'r cyd-destun sefydliadol a/neu broffesiynol drwy werthusiad beirniadol o lenyddiaeth berthnasol sydd ar flaen y gad yn eu maes.
- Creu, dehongli, dadansoddi a datblygu gwybodaeth newydd sy'n ymestyn y ddisgyblaeth ac yn ychwanegu gwerth at y cyd-destun sefydliadol a / neu broffesiynol trwy ymchwil wreiddiol neu ysgolheictod uwch arall.
- Lledaenu gwybodaeth newydd a gafwyd drwy ymchwil wreiddiol neu ysgolheictod uwch arall mewn ffordd glir ac effeithiol ac mewn modd deniadol gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau priodol.
- Cymhwyso sgiliau ymchwil yn feirniadol a chymhwyso theori pwnc i'r arfer o ymchwil.
- Myfyrio'n feirniadol mewn perthynas â'r gwaith a gwblhawyd i ddarparu dealltwriaeth newydd neu ddiwygiedig o ran y sefydliad a/neu ymarfer proffesiynol.
Deallusol
- Dangos dealltwriaeth feirniadol o lenyddiaeth berthnasol yn eu cyd-destun sefydliadol a/neu broffesiynol.
- Dangos dealltwriaeth feirniadol o gymhwyso ymchwil i ymarfer.
- Cysyniadu, cynllunio, a gweithredu prosiect cymhwysol ar gyfer cynhyrchu gwybodaeth newydd o fewn y cyd-destun sefydliadol a / neu broffesiynol, ac addasu cynllun y prosiect yng ngoleuni problemau annisgwyl.
- Dadansoddi'n feirniadol ddimensiynau methodolegol, damcaniaethol a moesegol ymchwil a dangos ymwybyddiaeth feirniadol o gyfyngiadau posibl.
- Cymhwyso egwyddorion moesegol cadarn i ymchwil, gan roi sylw dyledus i uniondeb pobl ac yn unol â chodau ymddygiad proffesiynol.
Ymarferol
- Dewis methodolegau ymchwil ansoddol a/neu feintiol priodol i'w galluogi i gynnal ymchwil sy'n arwain at gynhyrchu gwybodaeth wreiddiol mewn perthynas â'u hymarfer proffesiynol.
- Cynnal chwiliadau manwl ac effeithiol o lenyddiaeth, ymchwil a ffynonellau eraill perthnasol a gwerthuso'r canlyniadau yn feirniadol.
- Cyfathrebu canfyddiadau ymchwil cymhleth yn glir ac yn effeithiol gyda charfan amlddisgyblaethol o fyfyrwyr er mwyn ennill dealltwriaeth a’u rhannu ag eraill.
- Cyfrannu at ddatblygu ymarfer proffesiynol trwy ledaenu eu dealltwriaeth mewn amrywiaeth o fformatau.
- Rheoli tasgau ymchwil cymhleth yn annibynnol, a delio â sefyllfaoedd problemus wrth iddynt godi.
- Ymarfer safonau proffesiynol mewn ymchwil ac uniondeb ymchwil, gan gynnwys agweddau moesegol, cyfreithiol ac iechyd a diogelwch.
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Ymarfer cyfrifoldeb personol o fewn prosiect sy’n un annibynnol i raddau helaeth.
- Ymateb yn briodol mewn sefyllfaoedd cymhleth na ellir eu rhagweld, gan ystyried cyfrifoldebau moesegol, proffesiynol a chyfreithiol eu cyd-destunau proffesiynol ac ymchwil.
- Dangos dull myfyriol, meddylgar a hyblyg o ran eu hymchwil, eu datblygiad proffesiynol, a chymhwyso’r rhain i'w maes ymarfer eu hunain.
- Darparu atebion awdurdodol pan gyflwynir problemau ymarferol neu foesegol cymhleth o fewn cyd-destun proffesiynol.
- Rheoli newid yn effeithiol, blaenoriaethu amser, adnoddau a llwyth gwaith ac ymateb i ofynion proffesiynol newidiol i gwblhau prosiectau o fewn amserlen benodol.