Maes Gwyddor Data Ehangach: Ysgoloriaeth Ymchwil PhD wedi’i Hariannu’n Llawn: Deall y berthynas rhwng ansawdd aer dan do mewn ysgolion ac asthma a deilliannau addysgol (RS938)
Dyddiad cau: 20 Ebrill 2026
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr y DU yn unig
Darparwyr y cyllid: Ymchwil Data Iechyd y DU
Y meysydd pwnc: Maes Gwyddor Data Ehangach, Mathemateg neu Gyfrifiadureg
Dyddiadau dechrau'r prosiect: Gorffennaf 2026
**(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).
Goruchwylwyr: Yr Athro Gwyneth Davies, Yr Athro Rich Fry a'r Athro Jenni Quint (Coleg Imperial, Llundain)
Rhaglen astudio gydnaws: PhD mewn Gwyddor Data Iechyd a’r Boblogaeth
Dull Astudio: Amser llawn neu Ran-amser. Bydd yn bosib astudio'n amser llawn neu'n rhan-amser.
Lleoliad Astudio: Prifysgol Abertawe
Disgrifiad o'r Prosiect:
Cyd-destun
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn amgylchedd rhyngddisgyblaethol iawn fel rhan o garfan fywiog o fyfyrwyr PhD a ariennir gan HDR UK. Bydd cyfleoedd rhagorol i rwydweithio â chyd-fyfyrwyr a chydweithwyr ar draws 4 cenedl y DU. Cenhadaeth HDR UK yw uno data iechyd y DU er mwyn galluogi darganfyddiadau sy'n gwella bywydau pobl. Ei weledigaeth 20 mlynedd yw cael data ar raddfa fawr a dadansoddeg uwch a fydd o fudd i bob rhyngweithiad â chleifion, pob treial clinigol a phob darganfyddiad biofeddygol ac i wella iechyd y cyhoedd.
Mae'r radd PhD hon yn cael ei hariannu fel rhan o Raglen Ysgogwyr Llid ac Imiwnedd HDR UK, sy'n ceisio trawsnewid galluoedd y DU i wella dealltwriaeth o fecanweithiau a chanlyniadau iechyd, gan ddefnyddio anhwylderau anadlol ac alergaidd fel meysydd enghreifftiol. Rydym am gofrestru'r ymgeiswyr mwyaf eithriadol a'u meithrin i ffurfio’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr mewn gwyddor data iechyd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfleoedd i gael mynediad at weithgareddau hyfforddi a drefnir gan HDR UK, gan gynnwys drwy HDRUK Futures https://hdruklearning.csod.com/login/reyn ogystal ag yn ei sefydliad ei hun ac fel rhan o dîm y Rhaglen Ysgogwyr.
Bydd y Rhaglen Ysgogwyr hon yn archwilio llid ac imiwnedd fel mecanweithiau sylfaenol cyffredinol, gan ddefnyddio clefydau anadlol ac alergaidd cyffredin iawn yn y lle cyntaf. Gall y cyflyrau hyn gael eu gwaethygu gan byliau llidiol acíwt oherwydd heintiau (h.y. rhinofeirws, coronafeirws, ffliw, niwmonia, RSV) yn ogystal â llygredd, tybaco, paill, tywydd, cyffuriau, bwydydd a phryfed pigo. Y cynllun hirdymor ar gyfer y Rhaglen Ysgogwyr yw estyn y galluoedd a'r capasiti gwyddor data a grëwyd, i glefydau llidiol eraill.
Cyfle
Nod yr ysgoloriaeth ymchwil PhD hon yw hyfforddi'r ymgeisydd llwyddiannus mewn dulliau ymchwil iechyd y cyhoedd, anghydraddoldebau iechyd, epidemioleg a gwyddor data poblogaethau. Bydd y myfyriwr yn ymchwilio i ganfod a yw ansawdd aer gwael dan do mewn ysgolion yn arwain at asthma a deilliannau addysgol gwaeth.
Bydd y myfyriwr hwn hefyd yn cael cymorth goruchwylio gan y Rhaglen Ysgogwyr Penderfynyddion Iechyd Cymdeithasol ac Amgylcheddol ac yn cael ei gefnogi gan yr hyb CHILI a ariannwyd yn ddiweddar. Nod yr hyb CHILI yw cefnogi a gwella addysg plant wrth i adeiladau ysgol gael eu gwneud yn amgylcheddol gynaliadwy er mwyn cyrraedd y targed sero net erbyn 2050. Mae mwy o insiwleiddio a dyluniadau adeiladau aerglos yn gwneud adeiladau'n fwy effeithlon o ran ynni, ond gall hefyd arwain at fwy o lygredd aer dan do yn cael ei ddal, neu gynyddu'r tymheredd dan do. Mae heintiau anadlol hefyd yn lledaenu'n haws mewn adeiladau aerglos.
Mae plant a phobl ifanc yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn yr ysgol dan do. Gall yr amgylchedd dan do yn yr ysgol gefnogi iechyd plant, a'u haddysg. Felly, mae'n bwysig archwilio sut y gall yr amgylchedd dan do mewn ysgolion effeithio ar iechyd plant a phobl ifanc wrth i adeiladau ysgol gael eu haddasu i gyrraedd y targed sero net.
Mae asthma yn glefyd anadlol cronig sydd â baich iechyd ac economaidd sylweddol. Yng Nghymru, mae asthma yn effeithio ar oddeutu 1 o bob 11 o bobl. Mae tystiolaeth yn dangos bod gan y grwpiau poblogaeth mwyaf difreintiedig yng Nghymru gyfraddau uwch o achosion asthma, morbidrwydd a marwolaeth. Mae amddifadedd economaidd-gymdeithasol yn lluniad aml-ddimensiwn sy'n cwmpasu gwahanol feysydd, ac mae anghydraddoldebau incwm ac addysgol yn brif ysgogwyr sylfaenol anghydraddoldebau asthma yng Nghymru. Bydd y myfyriwr yn ystyried rôl amddifadedd mewn unrhyw gysylltiadau a nodir rhwng ansawdd aer dan do mewn ysgolion ac asthma a/neu ddeilliannau addysgol. Bydd y myfyriwr yn datblygu cwestiynau ymchwil penodol yn gynnar yn yr ysgoloriaeth ymchwil.
Bydd gan y myfyriwr fynediad at ddata a gesglir yn rheolaidd ledled y wlad, gan gynnwys gofal sylfaenol ac eilaidd yn ogystal â chofnodion achos marwolaeth. Bydd y data hwn yn cael ei gasglu o fanc data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw), isadeiledd data diogel sy'n diogelu preifatrwydd ac yn integreiddio ystod eang o ddata a gesglir yn rheolaidd o bob cwr o Gymru. Bydd y myfyriwr yn cysylltu'r data hwn ymhellach â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) - mynegai amddifadedd economaidd-gymdeithasol amlochrog Cymru ar sail ardal - a data ansawdd aer wedi'i fodelu. Yn ogystal â hyn, bydd yr ysgoloriaeth ymchwil yn archwilio'r defnydd o ddata lefel unigolyn o Gyfrifiad 2021 a mesurau amddifadedd eraill, i ddeall sut mae anghydraddoldebau iechyd yn amrywio ar lefel unigolyn a lefel aelwydydd. Yn ogystal, bydd y myfyriwr yn defnyddio'r Maes Cysylltu'n Ddienw â Phreswylfa (RALF), Rhif Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN) wedi'i amgryptio sydd wedi cael ei ddefnyddio yn SAIL ers 2012, er mwyn gallu cysylltu data ar lefel aelwydydd a fydd yn galluogi archwilio trosglwyddiad anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol rhwng cenedlaethau mewn asthma. Mae RALFs yn galluogi ymchwilwyr i gysylltu mesurau'r amgylchedd adeiledig a naturiol (e.e. llygredd aer, mannau gwyrdd, nodweddion tai, mynediad at wasanaethau) ar gydraniad gofodol uchel a hefyd hwyluso dealltwriaeth o gyfansoddiad aelwydydd. Mae hyn yn adeiladu ar waith arloesol yng Nghymru a chysylltiadau â'r rhaglen ysgogwyr cymdeithasol ac amgylcheddol.
Bydd y myfyriwr yn datblygu ac yn dilysu modelau ystadegol a gwyddor data priodol i asesu'r berthynas rhwng ansawdd aer dan do ac asthma a deilliannau addysgol (presenoldeb yn yr ysgol, cyrhaeddiad addysgol). Bydd dulliau dadansoddi yn cynnwys modelau aml-lefel i gyfrif am ddibyniaethau gofodol.
Bydd y myfyriwr yn cael hyfforddiant o'r radd flaenaf i ddatblygu ei wybodaeth a'i sgiliau mewn epidemioleg a gwyddor data poblogaethau, megis trin data, modelu a delweddu, a llywodraethu gwybodaeth. Bydd y myfyriwr yn cael cyfle i ymgysylltu â rhanddeiliaid yn gynnar yn ei ymchwil i gael adborth ar nodau a dyluniad yr ymchwil ac yn trosi ei ganfyddiadau yn bolisi ac ymarfer.
Cymhwyster
Ysgoloriaeth ar agor i ymgeiswyr sy’n gymwys i dalu ffioedd y DU yn unig.
Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt
Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd:
Gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol
PhD: Fel rheol rhaid i ymgeiswyr am PhD feddu ar radd israddedig ar lefel 2.1 a gradd meistr. Fel arall, bydd ymgeiswyr sydd â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y DU (neu gyfwerth nad yw'n rhan o'r DU fel y'i diffinnir gan Brifysgol Abertawe) nad oes ganddynt radd meistr, yn cael eu hystyried yn unigol.
Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Ceir manylion llawn am ein polisi iaith Saesneg, gan gynnwys cyfnod dilysrwydd tystysgrifau, yma.
Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch ppgrscholarships@swansea.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu'r holl ffïoedd dysgu gan gynnwys ariantal blynyddol ar raddfa UKRI (sef £20,780 ar gyfer 2025/26 ar hyn o bryd).
Bydd treuliau ymchwil ychwanegol gwerth hyd at £1,000 y flwyddyn ar gael hefyd.
Sut i Wneud Cais
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, gan ddilyn y ddolen hon:
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth hon, mae angen y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen', rhowch y Cod RS perthnasol ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth h.y. RS938
2) Yn yr adran 'Ymchwil' fe welwch 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth'* (Gorfodol)
- Yn 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth' rhowch y ddau:
- y Cod RS938, a
- teitl yr ysgoloriaeth.
- Gadewch y maes Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
- Gadewch y Prosiect Ymchwil (os yw'n berthnasol) yn wag
- Yn 'Oes gennych gynnig i'w uwchlwytho?*' (Gorfodol) Dewiswch Ydw
- Yna uwchlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw'r hysbyseb trwy glicio print, ac yna argraffu i pdf)
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw opsiynau eraill wedi'u dewis.
* Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth wneud cais, sylwch na fydd ceisiadau a dderbynnir heb y wybodaeth uchod a restrir yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth.
Mae angen un cais i bob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil unigol dan arweiniad Prifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru sawl dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe.
NODER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - er mwyn cefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd heb wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn ychwanegol at eich ffurflen gais rhaglen.
Sylwch fod llenwi'r Ffurflen Monitro EDI yn orfodol; Efallai na fydd eich cais yn symud ymlaen os na chyflwynir y wybodaeth hon.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi uwchlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain trwy e-bost):
- CV
- Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio ar gyfer gradd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yma yn ddigonol)
- Llythyr eclawrol sy'n cynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cyd-fynd yn arbennig â'ch sgiliau a'ch profiad a sut rydych chi'n dewis datblygu'r prosiect.
- Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur pennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirda Prifysgol Abertawe. Sylwch nad ydym yn gallu derbyn cyfeiriadau a dderbynnir yn dyfynnu cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai dyfarnwyr ddyfynnu eu cyfeiriad e-bost cyflogaeth i wirio geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol).
- Copi o fisa preswyl y DU (os yw'n berthnasol)
- Cadarnhau cyflwyno ffurflen EDI
Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â:
ENW: Mohammad al-Sallakh
EBOST: m.a.alsallakh@abertawe.ac.uk
*Rhannu Data Cais Partner Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaeth, y gall rhannu data cais ddigwydd gyda phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo cyd-ariannu prosiect ysgoloriaeth yn berthnasol.
** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.