Newyddiaduraeth, Cyfryngau Digido: Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru yr ESRC (YGGCC) – Newyddiaduraeth, Cyfryngau Digidol a Democratiaeth (RS996)
Dyddiad cau: 6 Rhagfyr 2026
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol
Darparwyr y cyllid: Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru yr ESRC (YGGCC)
Y meysydd pwnc: Newyddiaduraeth, Cyfryngau Digidol a Democratiaeth
Dyddiadau dechrau'r prosiect: Hydref 2027
*(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).
** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.
Goruchwylwyr: Nodwch Oruchwyliwr - Dyfarniad 'agored' yw'r ysgoloriaeth ymchwil hon. Rhaid i ymgeiswyr gysylltu â darpar oruchwyliwr cyn cyflwyno cais. Mae hyn er mwyn cadarnhau bod gallu goruchwylio priodol yn y Brifysgol ac i drafod y drafft o'u cais y mae'n rhaid i'r goruchwyliwr gwblhau rhan ohono. Mae gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar gael ar wefan Prifysgol Abertawe. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig i'w gweld ar wefan YGGCC yr ESRC.
Rhaglen astudio gydnaws:
Dull astudio: Dull astudio: Bydd yn bosib astudio'n amser llawn neu'n rhan-amser. Sylwer na chaniateir i ddeiliaid ysgoloriaeth ymchwil amser llawn YGGCC yr ESRC fod â swydd amser llawn, swydd ran-amser barhaol neu rôl dros dro am gyfnod estynedig, yn ystod cyfnod eu dyfarniad. Ni chaniateir i ddeiliaid ysgoloriaeth ymchwil ran-amser YGGCC yr ESRC fod â swydd amser llawn.
Man Astudio:
- Prifysgol Abertawe (Campws Y Singleton)
- Prifysgol Abertawe (Campus Y Bae)
Disgrifiad o'r Prosiect:
Mae’r rhaglen Cyfryngau, Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe wedi cael ei chydnabod yn gyson am ei rhagoriaeth ac mae wedi cyrraedd brig tablau cynghrair y DU ar gyfer elfennau amrywiol ei haddysgu. Mae’r cwrs yn ymfalchïo mewn ymdeimlad cryf o gymuned, ac mae staff a myfyrwyr yn cymryd rhan mewn astudiaethau sy’n torri tir newydd ym maes y cyfryngau cyfoes a’u heffaith. Mae ein cymysgedd o ymarferwyr uchel eu parch ac ysgolheigion a gydnabyddir yn fyd-eang yn meddu ar arbenigedd mewn amrywiaeth eang o is-themâu yn y llwybr Newyddiaduraeth, Democratiaeth a Chyfryngau Digidol.
Er enghraifft, er ein bod ni’n ymdrin ag agweddau traddodiadol ar newyddiaduraeth argraffedig a darlledu a’r ffordd y mae’r rhain yn trafod meysydd allweddol megis gwleidyddiaeth, gwrthdaro, materion ariannol, argyfwng yr hinsawdd a chwaraeon, mae ein harbenigedd yn ymestyn i gyfryngau newyddion digidol amgen, gwirio ffeithiau, gwybodaeth anhrefnus, iaith casineb, hiliaeth a misogynedd. Mae cydweithwyr wedi ymchwilio’n helaeth i’r cyfryngau cymdeithasol a’u holl ddimensiynau, y metafyd, realiti rhithwir a realiti estynedig, goblygiadau ehangach gwyliadwriaeth ac ymyriadau technolegol ym mhob elfen o fywyd cyfoes. Rydyn ni’n cael effaith gref ym meysydd mynediad digidol ar gyfer grwpiau lleiafrifol a’r ffyrdd y mae’r newyddion a newyddiaduraeth yn cael eu llywodraethu a’u rheoleiddio, ac yn fframwaith i hyn oll, y mae ein hysgolheigion astudiaethau ffilmiau a theledu’n cynnig gwybodaeth am sut mae’r holl elfennau fel hyn yn cael eu cynrychioli i gynulleidfaoedd ehangach. Mae ein hysgolheigion cysylltiadau cyhoeddus yn ymchwilio’n weithredol i weithredu corfforaethol a’r elfennau sy’n tarfu mwy yn y proffesiwn hwnnw, a sut mae sefydliadau’n rheoli argyfyngau ac yn cynnal hunaniaethau brand yn ddigidol. Byddem yn croesawu ceisiadau sy’n ymdrin â’r themâu hyn ac sy’n ychwanegu dimensiynau newydd a phwysig.
Mae ein cysylltiadau cryf â’r sector cyfryngau ei hun – drwy ein Panel Diwydiant ein hun – yn sicrhau natur gyfoes ein gweithgareddau ac yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd am interniaethau a phrofiad gwaith. I grynhoi, bydd astudio PhD yn y Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe’n cyfuno buddion cael mynediad at yr arbenigwyr mwyaf gwybodus yn “y cyfryngau” yn ystyr ehangaf y gair â bod yn rhan o gymuned agos o ysgolheigion sy’n blaenoriaethu cymuned a chydweithio. Mae gennym arbenigwyr dulliau ymchwil sy’n ymdrin â dulliau meintiol ac ansoddol, ac mae arweinydd y llwybr wedi cael cyllid gan yr ESRC o’r blaen, fel myfyriwr ac fel ymchwilydd ac mae’n ymrwymedig iawn i fwyafu buddion y cyfleoedd ardderchog hyn i ddatblygu gyrfaoedd academaidd, diwydiannol neu sector cyhoeddus o’r radd flaenaf .
Cymhwyster
I dderbyn cyllid ysgoloriaeth ymchwil gan yr YGGCC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n gyfwerth â gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd Meistr gan sefydliad ymchwil academaidd yn y DU. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr â chefndiroedd academaidd anhraddodiadol.
Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Ceir manylion llawn ein polisi Iaith Saesneg, gan gynnwys hyd dilysrwydd tystysgrif, yma Gofynion Iaith Saesneg - Prifysgol Abertawe.
Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffïoedd dysgu ac ariantal blynyddol di-dreth yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£21,805 ar gyfer 2026/27 ar hyn o bryd).
Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)
Mae gan fyfyrwyr hefyd fynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.
Mae ysgoloriaethau ymchwil YGGCC ar gael i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan fod yn fyfyrwyr rhyngwladol. Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu'r gwahaniaeth rhwng ffïoedd i fyfyrwyr o'r DU a'r gyfradd ryngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd UKRI.
Sut i Wneud Cais
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, gan ddilyn y ddolen hon.
Gallwch gyflwyno cais yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Gweler Polisi Prifysgol Abertawe ar ddyfarnu grantiau a darparu cymorth ariannol
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth hon, mae angen y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen', rhowch y Cod RS perthnasol ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth h.y. RS996
2) Yn yr adran 'Ymchwil' fe welwch 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth'* (Gorfodol)
- Yn 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth' rhowch y ddau:
- y Cod RS996, a
- teitl yr ysgoloriaeth.
- Gadewch y maes Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
- Gadewch y Prosiect Ymchwil (os yw'n berthnasol) yn wag
- Yn 'Oes gennych gynnig i'w uwchlwytho?*' (Gorfodol) Dewiswch Ydw
- Yna uwchlwythwch eich ffurflen gais YGGCC
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw opsiynau eraill wedi'u dewis.
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth wneud cais, sylwch na fydd ceisiadau a dderbynnir heb y wybodaeth uchod a restrir yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth.
Os ydych wedi gwneud cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn arddangos rhybudd 'Cais Wedi'i Gyflwyno' ac yn blocio cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn:
- Gwnewch gais am yr un cwrs gyda'r dyddiad cychwyn nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael).
- Anfonwch e-bost at pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'ch rhif myfyriwr a chod RS yr ysgoloriaeth berthnasol, gan ofyn i'r dyddiad cychwyn gael ei ddiwygio i gyd-fynd â'r hysbyseb.
- Yna bydd staff derbyn yn diweddaru'ch cais yn unol â hynny.
Pwysig: Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am yr un rhaglen a dyddiad dechrau, peidiwch ag ail-ymgeisio gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir gyda chyfeiriad e-bost sy'n wahanol i'r un a ddefnyddiwyd yn eich cais gwreiddiol yn cael eu derbyn na'u hystyried.
Mae angen un cais i bob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil unigol dan arweiniad Prifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru sawl dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe.
NODER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - er mwyn cefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd heb wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn ychwanegol at eich ffurflen gais rhaglen.
Sylwch fod llenwi'r Ffurflen Monitro EDI yn orfodol; Efallai na fydd eich cais yn symud ymlaen os na chyflwynir y wybodaeth hon.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi uwchlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain trwy e-bost):
- Ffurflen Gais YGGCC
- CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen)
- Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio ar gyfer gradd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yma yn ddigonol)
- Llythyr cyflwyno sy'n cynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cyd-fynd yn arbennig â'ch sgiliau a'ch profiad a sut rydych chi'n dewis datblygu'r prosiect.
- 2 eirda academaidd neu broffesiynol (rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr eu hunain a chynnwys cyfeiriadau gyda'u cais). Rhaid i'r geirda fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd). Sylwch nad ydym yn gallu derbyn cyfeiriadau a dderbynnir yn dyfynnu cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai dyfarnwyr ddyfynnu eu cyfeiriad e-bost cyflogaeth i wirio geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol – nodwch gall unrhyw gynnig a wneir fod yn amodol ar y lefel briodol o Saesneg. Mae rhestr lawn o brofion Saesneg derbyniol i'w gweld yma).
- Copi o fisa preswyl y DU (os yw'n berthnasol)
- Cadarnhau cyflwyno ffurflen EDI
Asesiad:
Rhaid i geisiadau gael eu derbyn erbyn 6 Rhagfyr 2026 fan hwyraf, gan gynnwys yr holl ddogfennau gofynnol. Oherwydd nifer y ceisiadau rydym yn eu cael, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.
Caiff ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad. Disgwylir i'r Cyfweliadau gael eu cynnal ym mis Chwefror 2027. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan banel.
Gellir cynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb ond dylent fod ar gael hefyd drwy Zoom/Teams i'r holl fyfyrwyr sy'n dymuno cymryd rhan yn y ffordd honno.
Gall y rhan fwyaf o ymgeiswyr ddisgwyl clywed am ganlyniad eu cyfweliad ymhen 10-12 wythnos
Bydd hi'n ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus am ddyfarniad 1+3 gyflwyno cais gradd Meistr ar wahân yn ogystal â'r cais safonol/PhD uchod.
Darperir manylion llawn am sut i gwblhau'r cam ychwanegol hwn i'r ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus. Ar y cam hwn, nid oes angen cais ychwanegol am radd Meistr - dilynwch broses ymgeisio safonol ar gyfer PhD a amlinellir uchod.
Lleoliad gwaith ymchwil mewn ymarfer:
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a ariennir gan YGGCC gwblhau lleoliad gwaith Ymchwil mewn Ymarfer wedi'i ariannu, a fydd yn para 3 mis (neu gyfwerth rhan-amser).Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gwblhau lleoliad gwaith yn y byd academaidd, polisi, busnes neu sefydliadau'r gymdeithas sifil.
Hyd astudio:
Mae hyd y rhaglen astudio yn amrywio o dair blynedd a hanner i bedair blynedd a hanner ar sail amser llawn (neu'r cyfnod rhan-amser cyfatebol) ac mae'n dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a gaiff eu hasesu drwy gwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu.
Mae YGGCC yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau’r gymuned fyd-eang, heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
*Rhannu Data Cais Partner Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaeth, y gall rhannu data cais ddigwydd gyda phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo cyd-ariannu prosiect ysgoloriaeth yn berthnasol.
Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â: Lauren Gill esrcdtp@swansea.ac.uk