Iechyd a Lles a Gwyddor Data : Effaith heintiau gweiniol ar ganlyniadau ffrwythlondeb, beichiogrwydd, y cyfnod ôl-enedigol a newyddenedigol (RS953)
Dyddiad cau: 8 Mai 2026
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr sy’n gymwys i dalu ffioedd y DU yn unig
Darparwyr y cyllid: Mae'n bleser gan y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe gynnig ysgoloriaeth Ysgol Graddedigion Cymru ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol (WGSSS) (ESRC DTP) a ariennir yn llawn yn y Llwybr Iechyd a Llesiant a Gwyddor Data gan ddechrau ym mis Hydref 2026.
Y meysydd pwnc: Iechyd a Lles a Gwyddor Data
Dyddiadau dechrau'r prosiect: Hydref 2026
**(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).
** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.
Goruchwylwyr:
- Dr Arron Lacey
- Yr Athro Emma Kidd (Prifysgol Caerdydd)
- Dr Robin Andrews (Prifysgol Caerdydd)
Rhaglen astudio gydnaws: Iechyd a Llesiant a Gwyddorau Data, PhD
Dull astudio: Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd amser llawn (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddi yn rhan-amser).
Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwilio blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad o’r Anghenion Datblygu.Rydyn ni’n croesawu ceisiadau am astudio’n amser llawn ac yn rhan-amser.
Man Astudio: Prifysgol Abertawe (Campws Y Singleton)
Disgrifiad o'r Prosiect:
Mae heintiau gweiniol, gan gynnwys faginosis bacterol (BV) a chandidiasis fwlfa-weiniol (y llindag) yn gyffredin iawn ymhlith pobl o oed atgenhedlu. Er bod heintiau gweiniol yn aml yn cael eu trin fel mân gyflyrau hunangyfyngol, mae pryder cynyddol y gall heintiau gweiniol arwain at ganlyniadau pwysig o ran ffrwythlondeb, beichiogrwydd, adferiad ôl-enedigol, a chanlyniadau newyddenedigol. Mae’r dystiolaeth bresennol yn anghyson, yn aml yn wan, ac yn gyfyngedig oherwydd cyfnodau dilyniant byr, samplau detholus, a rheolaeth annigonol o ran dryswch. O ganlyniad, nid oes dealltwriaeth dda o effaith go iawn heintiau gweiniol ar iechyd atgenhedlu ar lefel y boblogaeth.
Bydd y prosiect PhD hwn yn mynd i'r afael â'r cwestiwn a yw heintiau gweiniol yn effeithio ar ganlyniadau ffrwythlondeb, beichiogrwydd, y cyfnod ôl-enedigol a'r cyfnod newyddenedigol. Bydd yn defnyddio data gofal iechyd ar raddfa fawr a gesglir yn rheolaidd o'r Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), ystorfa ddata Health and Her a UK Biobank. Bydd y prosiect yn mabwysiadu safbwynt cwrs bywyd ac iechyd y boblogaeth, gan ganolbwyntio ar bobl sydd â chofnod sylweddol o ddata hydredol ar ganlyniadau iechyd atgenhedlol.
Mae Banc Data SAIL yn adnodd ymchwil sy'n cynnwys cofnodion cysylltiedig o ofal sylfaenol ac eilaidd, mamolaeth a demograffig ar gyfer >86% o boblogaeth Cymru, gan alluogi dilyniant hirdymor o ran canlyniadau iechyd. Mae UK Biobank yn astudiaeth genedlaethol fawr o garfan o >500,000 o gyfranogwyr, gyda hanesion atgenhedlol y mae pobl wedi'u cofnodi eu hunain, data am ffordd o fyw, mesurau biolegol, a chofnodion iechyd cysylltiedig. Mae ystorfa ddata Health & Her yn cynnwys data >300,000 o fenywod ynghylch symptomau gweiniol, symptomau'r mislif, symptomau'r menopos a phrofiadau atgenhedlol sydd wedi'u casglu drwy blatfform iechyd digidol: ap Health & Her. Mae Health & Her yn gwmni iechyd menywod sy'n cynnig atchwanegiadau wedi'u creu gan arbenigwyr, ap sydd ar gael am ddim, a chyngor sydd ar gael ar yr ap a'r wefan i gefnogi menywod drwy heriau sy'n ymwneud â'r mislif, beichiogrwydd, y perimenopos a'r menopos. Mae ap Health & Her yn galluogi menywod i fonitro eu hiechyd a'u symptomau hormonaidd (am ddim) pan fyddan nhw wedi cytuno y gall eu data dienw gael ei ddefnyddio at ddibenion ymchwil academaidd. Gyda'i gilydd, mae'r setiau data hyn yn darparu cryfderau cyflenwol, gan gyfuno cofnodion clinigol arferol â’r cyfoeth o ddata am symptomau a thriniaeth y mae pobl wedi'u cofnodi eu hunain.
Ym Mlwyddyn 1, bydd y myfyriwr yn mynd i'r afael â'r nod cyntaf, sef archwilio cysylltiadau rhwng heintiau gweiniol a chanlyniadau atgenhedlol drwy gynnal adolygiad systematig o'r llenyddiaeth. Bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys faginosis bacterol, candidiasis fwlfa-weiniol, a heintiau gweiniol eraill (gan gynnwys heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a llid anheintus), a bydd yn syntheseiddio tystiolaeth sy'n ymwneud â diagnosis anffrwythlondeb, camesgoriad, genedigaeth cyn amser, canlyniadau ôl-enedigol, ac iechyd newyddenedigol. Bydd yr adolygiad yn nodi bylchau mewn gwybodaeth bresennol, yn asesu cyfyngiadau methodolegol ac yn llywio'r gwaith o weithredu aramlygiadau a chanlyniadau yn y dadansoddiadau empirig.
Ym mlynyddoedd 2 a 3, bydd y myfyriwr yn mynd i'r afael â'r ail nod, sef archwilio patrymau heintiau gweiniol a thriniaethau dros amser, a sut y maen nhw'n gysylltiedig â ffrwythlondeb, beichiogrwydd, y cyfnod ôl-enedigol a chanlyniadau newyddenedigol, gan alluogi cymharu a dilysu ar draws ffynonellau data. Bydd y myfyriwr yn cynnal dadansoddiadau meintiol gan ddefnyddio data SAIL, ystorfa ddata Health & Her ac UK Biobank. Bydd diffiniadau o aramlygiad yn cynnwys diagnosau wedi'u cofnodi o heintiau gweiniol, yn ogystal â chyfnodau o driniaeth, gan gynnwys gwrthfiotigau, meddyginiaethau gwrthffyngol,a therapïau sy'n seiliedig ar asid lactig. Bydd y myfyriwr yn archwilio cysylltiadau â diagnosau o anffrwythlondeb,iechyd yn ystod beichiogrwydd, camesgoriad, genedigaeth cyn amser, canlyniadau ôl-enedigol (megis clwyfau'n gwella ar ôl rhwygau gweiniol, toriadau Cesaraidd, a genedigaethau â chymorth), a chanlyniadau newyddenedigol.
Bydd y prosiect hefyd yn archwilio anghydraddoldebau mewn aramlygiad (e.e. cyfraddau diagnosis ar gyfer heintiau gweiniol), hanes meddyginiaeth, a chanlyniadau fesul amddifadedd cymdeithasol-economaidd, ethnigrwydd, oed, a mynediad at ofal, lle mae'r data'n caniatáu hynny. Bydd ymagweddau dadansoddol yn cael eu dewis a'u datblygu gan y myfyriwr mewn ymgynghoriad â’r goruchwylwyr, a byddant yn cynnwys dyluniadau carfan a thechnegau modelu hydredol sy'n briodol ar gyfer data iechyd a gesglir yn rheolaidd.
Bydd cydran ganolog o'r prosiect yn cynnwys gwerthusiad beirniadol o gryfderau a chyfyngiadau defnyddio data gofal iechyd a gesglir yn rheolaidd i astudio iechyd gweiniol, gan gynnwys materion yn ymwneud â diffyg diagnosis, codio symptomau a chyflyrau, amrywioldeb, llwybrau triniaeth, ac ymddygiad cyrchu gofal iechyd.
Yn gyffredinol, bydd y prosiect hwn yn cynhyrchu tystiolaeth epidemiolegol gadarn ar ganlyniadau iechyd atgenhedlu yn sgîl heintiau gweiniol ar raddfa'r boblogaeth. Er mai dealltwriaeth epidemiolegol yw'r prif ffocws, mae gan y canfyddiadau'r potensial i lywio arloesi, canllawiau clinigol yn y dyfodol, polisi iechyd cyhoeddus, a blaenoriaethau casglu data. Mae'r prosiect wedi'i ddylunio'n fwriadol i alluogi'r myfyriwr i fireinio cwestiynau ymchwil, datblygu arbenigedd methodolegol annibynnol, a llunio PhD sy'n drwyadl ac yn wreiddiol.
Cymhwyster
Meini Prawf Mynediad:
I dderbyn cyllid un o ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS, mae’n rhaid bod gennych chi gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd yn y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso i fyfyrwyr sydd â chefndir academaidd anhraddodiadol hefyd wneud cais.
Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd:
Gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol.
Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@swansea.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.
Cyllid
Ymgeiswyr sy’n gymwys i dalu ffioedd y DU yn unig.
Gofynion rhyngwladol ynghylch bod yn gymwys:
Mae ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS ar gael i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol. Caiff hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni chodir y gwahaniaeth rhwng ffi y DU a'r ffi ryngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion UKRI o ran bod yn gymwys.
Mae ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.
Os oes gennych chi anabledd, efallai y bydd gennych chi hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.
Sut i Wneud Cais
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, gan ddilyn y ddolen hon.
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth hon, mae angen y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen', rhowch y Cod RS perthnasol ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth h.y. RS953
2) Yn yr adran 'Ymchwil' fe welwch 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth'* (Gorfodol)
- Yn 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth' rhowch y ddau:
- y Cod RS953, a
- teitl yr ysgoloriaeth.
- Gadewch y maes Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
- Gadewch y Prosiect Ymchwil (os yw'n berthnasol) yn wag
- Yn 'Oes gennych gynnig i'w uwchlwytho?*' (Gorfodol) Dewiswch Ydw
- Yna uwchlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw'r hysbyseb trwy glicio print, ac yna argraffu i pdf)
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw opsiynau eraill wedi'u dewis.
* Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth wneud cais, sylwch na fydd ceisiadau a dderbynnir heb y wybodaeth uchod a restrir yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth.
Pwysig: Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am yr un rhaglen a dyddiad dechrau, peidiwch ag ail-ymgeisio gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir gyda chyfeiriad e-bost sy'n wahanol i'r un a ddefnyddiwyd yn eich cais gwreiddiol yn cael eu derbyn na'u hystyried.
Mae angen un cais i bob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil unigol dan arweiniad Prifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru sawl dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe.
NODER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - er mwyn cefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd heb wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn ychwanegol at eich ffurflen gais rhaglen.
Sylwch fod llenwi'r Ffurflen Monitro EDI yn orfodol; Efallai na fydd eich cais yn symud ymlaen os na chyflwynir y wybodaeth hon.
Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:
- CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen).
- Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd.
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)
- Llythyr eclawrol sy'n cynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cyd-fynd yn arbennig â'ch sgiliau a'ch profiad a sut rydych chi'n dewis datblygu'r prosiect.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol).
- Copi o fisa preswyl y DU (os yw'n berthnasol)
- Cadarnhau cyflwyno ffurflen EDI
Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â:
NAME: Arron Lacey
EMAIL: a.s.lacey@swansea.ac.uk
*Rhannu Data Cais Partner Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaeth, y gall rhannu data cais ddigwydd gyda phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo cyd-ariannu prosiect ysgoloriaeth yn berthnasol.