Caiff y rhestr hir ryngwladol ar gyfer un o wobrau llenyddol mwyaf y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – ei chyhoeddi heddiw, ac mae'n cynnwys naw llyfr cyntaf, y nifer mwyaf erioed.
Mae naw nofel, dau gasgliad o gerddi ac un casgliad o straeon byrion ar y rhestr, ac ar adeg pan gyfyngir ar deithio a chyswllt ag anwyliaid, mae'r cyhoeddiadau eithriadol hyn – gan gynnwys wyth gan lenorion benywaidd – yn mynd â'r darllenydd o Seoul i Hong Kong, o Syria i Kilburn, ac o Montana i Ddulyn, gan archwilio pynciau megis mamwlad, hunaniaeth a pherthnasoedd mewn modd pwerus:
- Alligator and Other Stories gan Dima Alzayat (Picador) – casgliad o straeon byrion
- Antiemetic for Homesickness gan Romalyn Ante (Chatto & Windus) – casgliad o gerddi
- If I Had Your Face gan Frances Cha (Viking, Penguin Random House UK) – nofel
- Kingdomtide gan Rye Curtis (HarperCollins, 4th Estate) – nofel
- Exciting Times gan Naoise Dolan (Weidenfeld & Nicolson) – nofel
- The Death of Vivek Oji gan Akwaeke Emezi (Faber) – nofel
- Rendang gan Will Harris (Granta) – casgliad o gerddi
- The Wild Laughter gan Caoilinn Hughes (Oneworld) – nofel
- Who They Was gan Gabriel Krauze (HarperCollins, 4th Estate) – nofel
- Pew gan Catherine Lacey (Granta) – nofel
- Luster gan Raven Leilani (Farrar, Straus and Giroux/Picador) – nofel
- My Dark Vanessa gan Kate Elizabeth Russell (HarperCollins, 4th Estate) – nofel
Mae'r naw llais newydd ar y rhestr yn cynnwys pedair o'r menywod mwyaf dynamig sy'n ysgrifennu nofelau heddiw: Naoise Dolan a'i nofel gyntaf goeglyd Exciting Times, dadansoddiad bywiog Frances Cha o brynwriaeth yn If I Had Your Face, Kate Elizabeth Russell a'i harchwiliad pybyr o gydsyniad rhywiol yn My Dark Vanessa, a nofel finiog gyfredol Raven Leilani, Luster. Y nofelau cyntaf eraill ar y rhestr yw Who They Was, cyfrol ddigyfaddawd gan Gabriel Krauze sy'n seiliedig ar ei brofiad personol o fyd treisgar troseddwyr yn Llundain, a Kingdomtide, stori afaelgar am oroesi gan Rye Curtis.
Mae dau fardd newydd yn cystadlu am y wobr sy'n werth £20,000 – Romalyn Ante, nyrs yn y GIG a gafodd ei geni yn Ynysoedd Pilipinas (Philippines), am ei gwaith ysgubol Antiemetic for Homesickness, a Will Harris, sy'n defnyddio ei wreiddiau Eingl-Indonesaidd i greu archwiliad miniog o hunaniaeth ddiwylliannol yn Rendang – ac un casgliad o straeon byrion: y cyhoeddiad cyntaf gan Dima Alzayat, a gafodd ei geni yn Syria, sy'n cyfleu'r ymdeimlad o fod yn ‘rhywun amgen’ drwy naw chwedl bwerus yn Alligator and Other Stories.
Y tri theitl arall sydd ar y rhestr yw The Death of Vivek Oji, yr ail nofel gan yr awdures anneuaidd o dras Igbo a Thamil Akwaeke Emezi, Pew gan Catherine Lacey, sy'n cyfleu awyrgylch anesmwyth, a The Wild Laughter, gwaith pwerus gan Caoilinn Hughes a osodir yn sgil cwymp y Teigr Celtaidd.
Mae Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn un o'r gwobrau llenyddol mwyaf clodwiw yn y DU, yn ogystal â bod yn un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd ar gyfer llenorion ifanc. Mae'r wobr, sy'n werth £20,000, yn dathlu byd rhyngwladol ffuglen o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a drama, ac fe'i dyfernir i'r awdur 39 oed neu'n iau sy'n ysgrifennu'r gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn yr iaith Saesneg.
Bydd Namita Gokhale, y llenor arobryn, y cyhoeddwr a sylfaenydd Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur, yn cadeirio'r panel o feirniaid – ochr yn ochr â sylfaenydd a chyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth Bradford, Syima Aslam, y bardd Stephen Sexton, y llenor Joshua Ferris a'r nofelydd a'r academydd Francesca Rhydderch – a fydd yn mynd ati i gwtogi'r rhestr hir i restr fer o chwe ymgeisydd.
Wrth dderbyn gwobr 2020 am ei gasgliad cyntaf o straeon byrion, LOT, meddai Bryan Washington, y llenor 27 oed o America: “Mae'n wych pryd bynnag y mae cynulleidfa'n gwerthfawrogi eich stori, ym mha bynnag ffordd, heb sôn am gael cydnabyddiaeth am eich gwaith ar lwyfan mor anferth. Ac mae'n fraint adrodd straeon am y cymunedau sy'n annwyl i mi, a'r cymunedau rwy'n byw yn eu mysg – cymunedau sydd ar y cyrion, cymunedau pobl dduon a chymunedau pobl dduon hoyw, yn benodol... Rwy'n ddiolchgar iawn.”
Bydd digwyddiad ar-lein arbennig yng Ngŵyl Lenyddiaeth Jaipur ym mis Chwefror 2021 yn dilyn cyhoeddiad y rhestr hir.
Cyhoeddir y rhestr fer ar 25 Mawrth a datgelir yr enillydd ar 13 Mai, ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas.