Book cover and trophy

26 Ionawr 2023

Arinze Ifeakandu yn ennill gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2023

The 6 shortlisted books with Dylan Thomas bust

25 Mawrth 2021

Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2021 yn datgelu rhestr fer amrywiol a chynhwysol o leisiau new

The 12 longlisted books with Dylan Thomas bust

21 Ionawr 2021

Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2021: Rhestr hir llawn llyfrau cyntaf a lleisiau benywaidd

Beirniaid gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe

8 Rhagfyr 2020

Beirniaid wedi'u cyhoeddi ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe

Rhys Davies

30 Tachwedd 2020

Prifysgol Abertawe yn ail-lansio Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies

SUDTP21 Longlist Bookshelf Image

Caiff y rhestr hir ryngwladol ar gyfer un o wobrau llenyddol mwyaf y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – ei chyhoeddi heddiw, ac mae'n cynnwys naw llyfr cyntaf, y nifer mwyaf erioed.

Mae naw nofel, dau gasgliad o gerddi ac un casgliad o straeon byrion ar y rhestr, ac ar adeg pan gyfyngir ar deithio a chyswllt ag anwyliaid, mae'r cyhoeddiadau eithriadol hyn – gan gynnwys wyth gan lenorion benywaidd – yn mynd â'r darllenydd o Seoul i Hong Kong, o Syria i Kilburn, ac o Montana i Ddulyn, gan archwilio pynciau megis mamwlad, hunaniaeth a pherthnasoedd mewn modd pwerus:

  • Alligator and Other Stories gan Dima Alzayat (Picador) – casgliad o straeon byrion
  • Antiemetic for Homesickness gan Romalyn Ante (Chatto & Windus) – casgliad o gerddi
  • If I Had Your Face gan Frances Cha (Viking, Penguin Random House UK) – nofel
  • Kingdomtide gan Rye Curtis (HarperCollins, 4th Estate) – nofel
  • Exciting Times gan Naoise Dolan (Weidenfeld & Nicolson) – nofel
  • The Death of Vivek Oji gan Akwaeke Emezi (Faber) – nofel
  • Rendang gan Will Harris (Granta) – casgliad o gerddi
  • The Wild Laughter gan Caoilinn Hughes (Oneworld) – nofel
  • Who They Was gan Gabriel Krauze (HarperCollins, 4th Estate) – nofel
  • Pew gan Catherine Lacey (Granta) – nofel
  • Luster gan Raven Leilani (Farrar, Straus and Giroux/Picador) – nofel
  • My Dark Vanessa gan Kate Elizabeth Russell (HarperCollins, 4th Estate) – nofel

Mae'r naw llais newydd ar y rhestr yn cynnwys pedair o'r menywod mwyaf dynamig sy'n ysgrifennu nofelau heddiw: Naoise Dolan a'i nofel gyntaf goeglyd Exciting Times, dadansoddiad bywiog Frances Cha o brynwriaeth yn If I Had Your FaceKate Elizabeth Russell a'i harchwiliad pybyr o gydsyniad rhywiol yn My Dark Vanessa, a nofel finiog gyfredol Raven LeilaniLuster. Y nofelau cyntaf eraill ar y rhestr yw Who They Was, cyfrol ddigyfaddawd gan Gabriel Krauze sy'n seiliedig ar ei brofiad personol o fyd treisgar troseddwyr yn Llundain, a Kingdomtide, stori afaelgar am oroesi gan Rye Curtis.

Mae dau fardd newydd yn cystadlu am y wobr sy'n werth £20,000 – Romalyn Ante, nyrs yn y GIG a gafodd ei geni yn Ynysoedd Pilipinas (Philippines), am ei gwaith ysgubol Antiemetic for Homesickness, a Will Harris, sy'n defnyddio ei wreiddiau Eingl-Indonesaidd i greu archwiliad miniog o hunaniaeth ddiwylliannol yn Rendang – ac un casgliad o straeon byrion: y cyhoeddiad cyntaf gan Dima Alzayat, a gafodd ei geni yn Syria, sy'n cyfleu'r ymdeimlad o fod yn ‘rhywun amgen’ drwy naw chwedl bwerus yn Alligator and Other Stories.

Y tri theitl arall sydd ar y rhestr yw The Death of Vivek Oji, yr ail nofel gan yr awdures anneuaidd o dras Igbo a Thamil Akwaeke EmeziPew gan Catherine Lacey, sy'n cyfleu awyrgylch anesmwyth, a The Wild Laughter, gwaith pwerus gan Caoilinn Hughes a osodir yn sgil cwymp y Teigr Celtaidd.

Mae Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn un o'r gwobrau llenyddol mwyaf clodwiw yn y DU, yn ogystal â bod yn un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd ar gyfer llenorion ifanc. Mae'r wobr, sy'n werth £20,000, yn dathlu byd rhyngwladol ffuglen o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a drama, ac fe'i dyfernir i'r awdur 39 oed neu'n iau sy'n ysgrifennu'r gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn yr iaith Saesneg.

Bydd Namita Gokhale, y llenor arobryn, y cyhoeddwr a sylfaenydd Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur, yn cadeirio'r panel o feirniaid – ochr yn ochr â sylfaenydd a chyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth Bradford, Syima Aslam, y bardd Stephen Sexton, y llenor Joshua Ferris a'r nofelydd a'r academydd Francesca Rhydderch – a fydd yn mynd ati i gwtogi'r rhestr hir i restr fer o chwe ymgeisydd.

Wrth dderbyn gwobr 2020 am ei gasgliad cyntaf o straeon byrion, LOT, meddai Bryan Washington, y llenor 27 oed o America: “Mae'n wych pryd bynnag y mae cynulleidfa'n gwerthfawrogi eich stori, ym mha bynnag ffordd, heb sôn am gael cydnabyddiaeth am eich gwaith ar lwyfan mor anferth. Ac mae'n fraint adrodd straeon am y cymunedau sy'n annwyl i mi, a'r cymunedau rwy'n byw yn eu mysg – cymunedau sydd ar y cyrion, cymunedau pobl dduon a chymunedau pobl dduon hoyw, yn benodol... Rwy'n ddiolchgar iawn.”

Bydd digwyddiad ar-lein arbennig yng Ngŵyl Lenyddiaeth Jaipur ym mis Chwefror 2021 yn dilyn cyhoeddiad y rhestr hir.

Cyhoeddir y rhestr fer ar 25 Mawrth a datgelir yr enillydd ar 13 Mai, ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas.

SUDTP21 Judges
Cyhoeddwyd y beirniaid ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2021 heddiw (8 Rhagfyr). 

Mae rhestr anhygoel o fawrion y byd llenyddol ymhlith y beirniaid gwadd, gan gynnwys cadeirydd newydd y panel ar gyfer 2021, y llenor arobryn, y cyhoeddwr a cyd-sylfaenydd Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur, Namita Gokhale; sylfaenydd a chyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth Bradford, Syima Aslam; y bardd o Iwerddon a enillodd Wobr Rooney am Lenyddiaeth Wyddelig yn 2020, Stephen Sexton; yr awdur llwyddiannus a enillodd Wobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2014, Joshua Ferris; a'r nofelydd a'r academydd o Gymru Francesca Rhydderch. 

Mae Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn un o'r gwobrau llenyddol mwyaf clodwiw yn y DU, yn ogystal â bod yn un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd ar gyfer llenorion ifanc. Cynhelir y gystadleuaeth uchel ei bri am yr 16eg tro yn 2021, a bydd y panel o feirniaid yn ymgymryd â'r dasg o ddewis y gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn yr iaith Saesneg ar draws sawl genre, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu, a ysgrifennwyd gan awdur 39 oed neu iau. 

Meddai Namita Gokhale, cadeirydd y panel o feirniaid: “Mae'n anrhydedd anhygoel i gyfrannu unwaith eto at gystadleuaeth fywiog ac ysbrydoledig Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, fel cadeirydd y rheithgor y tro hwn. Mae'r wobr yn unigryw oherwydd y mathau amrywiol o lenyddiaeth sy'n cael eu cynnwys, ehangder ac amrywiaeth y cynigion, a'r ffaith ei bod yn dathlu llenorion rhyngwladol. Mae darllen y rhestr hir yn brofiad dadlennol bob amser, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r rheithgor rhagorol i glustnodi enillydd y wobr ar gyfer 2021.” 

Ychwanegodd Elaine Canning, Pennaeth Ymgysylltu a Datblygu Diwylliannol Prifysgol Abertawe: “Rydym yn falch o groesawu panel rhyngwladol llawn llenorion a chyfarwyddwyr gwyliau o fri ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2021 ac rydym yn edrych ymlaen at dynnu sylw at waith llenorion ifanc o bedwar ban byd pan gyhoeddir y rhestr hir a'r rhestr fer maes o law.”

Mae'r enillwyr blaenorol wedi cynnwys: Bryan Washington am Lot (2020), Guy Gunaratne am In Our Mad and Furious City (2019), Kayo Chingonyi am Kumukanda (2018), Fiona McFarlane am The High Places (2017), Max Porter am Grief is the  Thing With Feathers (2016), Joshua Ferris am To Rise Again at a Decent Hour (2014), Claire Vaye Watkins am Battleborn (2013), Maggie Shipstead am Seating Arrangements (2012), Lucy Caldwell am The Meeting Point (2011), Elyse Fenton am Clamor (2010), Nam Le am The Boat (2008) a Rachel Tresize am Fresh Apples (2006). 

Cyhoeddir y rhestr hir ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe ar 21 Ionawr a bydd digwyddiad ar-lein arbennig yn dilyn yng Ngŵyl Lenyddiaeth Jaipur ym mis Chwefror 2021. Cyhoeddir y rhestr fer ar 25 Mawrth a chynhelir y seremoni wobrwyo ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, sef 13 Mai.

Rhys Davies

Mae Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe yn ail-lansio’r Gystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies nodedig i awduron o Gymru, neu'n sy’n byw yng Nghymru.

Ganed Rhys Davies ym Mlaenclydach yn y Rhondda ym 1901, ac roedd ymhlith yr awduron rhyddiaith Gymreig fwyaf ymroddedig, toreithiog a medrus yn Saesneg. Ysgrifennodd dros 100 o straeon, 20 nofel, dau lyfr topograffigol am Gymru, dwy ddrama, a hunangofiant.

Sefydlwyd y gystadleuaeth yn wreiddiol yn 1991, a chafwyd wyth gornest Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies hyd yma. Bydd cystadleuaeth 2021 yn cael ei rhedeg gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies ac mewn cydweithrediad â Parthian Books.

Mae'r gystadleuaeth yn cydnabod y straeon byrion gorau heb eu cyhoeddi yn Saesneg mewn unrhyw arddull ac ar unrhyw bwnc hyd at uchafswm o 5,000 o eiriau. Rhaid i'r awduron fod yn 18 oed neu'n hŷn sy'n dod o Gymru, neu sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.

Bydd enillydd y wobr gyntaf yn derbyn £1,000 a bydd y stori fuddugol yn cael ei chynnwys mewn antholeg stori fer a gyhoeddir gan Parthian Books yn 2021. Bydd y deg nesaf at y brig yn derbyn £100 a bydd eu gwaith hefyd yn ymddangos yn yr antholeg stori fer.

Dywedodd Peter Finch, Ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Rhys Davies: "Fel awdur straeon byrion mwyaf blaenllaw Cymru, mae'n briodol bod enw Rhys Davies yn gysylltiedig â'r gystadleuaeth ddiweddaraf am waith ar y ffurf hon sydd wedi'i hesgeuluso'n fawr. Mae'r gystadleuaeth, a ddechreuodd ym 1991, wedi annog ystod eang o awduron newydd i brofi'r ffordd orau o reoli rhywbeth sy'n aml yn fwy sylweddol na cherdd ond nad yw'n agos at bellter hir y nofel. Wrth i ddiwylliant symud tuag at ffurfiau mwy cryno, rydym yn falch iawn o gefnogi ail-lansio'r gystadleuaeth genedlaethol hon."

Meddai Richard Davies o Parthian Books: "Gwobr Stori Fer Rhys Davies yw'r brif wobr am ysgrifennu straeon byrion yng Nghymru. O Leonora Brito i Tristan Hughes i Kate Hamer, mae'r enillwyr bob amser wedi bod yn awduron o'r safon uchaf a bydd yn anrhydedd cyhoeddi gwaith y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn antholeg arbennig i nodi’r gystadleuaeth hon."

Barnwr gwadd y gystadleuaeth ar gyfer 2021 yw Julia Bell, awdur a Darllenydd mewn Ysgrifennu Creadigol yn Birkbeck, Prifysgol Llundain lle mae hi'n Gyfarwyddwr Cwrs yr MA Ysgrifennu Creadigol. Mae gwaith Julia yn cynnwys barddoniaeth, traethodau a straeon byrion a gyhoeddwyd yn y Paris Review, Times Literary Supplement, The White Review, Mal Journal, Comma Press, ac a recordiwyd ar gyfer y BBC.

Meddai Elaine Canning, Pennaeth Ymgysylltu a Datblygu Diwylliannol Prifysgol Abertawe: "Rydym yn falch iawn o gael ein dewis fel un o bum partner i Ymddiriedolaeth Rhys Davies i hyrwyddo a dathlu ysgrifennu Saesneg yng Nghymru, ac ail-lansio Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies ar ran yr Ymddiriedolaeth yw un o'r mentrau allweddol y byddwn yn ei datblygu o fewn y bartneriaeth hon." 

Mae’r gystadleuaeth yn agor ar 30 Tachwedd a'r dyddiad cau yw 22 Mawrth 2021. Cyhoeddir enwau’r rheiny sy’n cyrraedd y rownd derfynol ym mis Mehefin 2021, a chaiff enw’r enillydd ei gyhoeddi ym mis Medi.

Darllenwch amodau a thelerau’r gystadleuaeth.

Richard Burton expo image

Mae arddangosfa newydd sbon am fywyd Richard Burton yn datgelu’r dyn y tu ôl i’r penawdau – yn ŵr, yn dad, yn ddarllenydd, yn sgwennwr a Chymro balch.

Mae Bywyd Richard Burton, a fydd yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Sadwrn 21 Tachwedd, yn adrodd hanes rhyfeddol sut y daeth Richard Jenkins, y crwt o Bont-rhyd-y-fen a Thai-bach, Port Talbot, i fod yn Richard Burton, y seren ryngwladol ar lwyfan ac ar y sgrîn.

Bydd yr arddangosfa, sy’n bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Abertawe, yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys dyddiaduron, dogfennau a gwrthrychau personol Richard Burton, a gaiff eu harddangos i’r cyhoedd am y tro cyntaf erioed. Mae’r eitemau ar fenthyg i’r Amgueddfa gan Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe.

Ymysg uchafbwyntiau eraill sydd wedi’u benthyg i ni ar gyfer yr arddangosfa mae rhai o wisgoedd llwyfan Richard Burton o’r perfformiadau Shakespeare fu’n sbardun i’w yrfa, a gwisgoedd o Cleopatra, y ffilm Hollywood a newidiodd ei fywyd.

I gyd-fynd â’r arddangosfa ffisegol ceir arddangosfa ddigidol ar wefan yr Amgueddfa o ganol mis Rhagfyr ymlaen. Wedi’i chynhyrchu gan Focus Group, asiantaeth ddylunio a chreadigol yng Nghaerdydd a Chaeredin, caiff yr arddangosfa ddigidol ei diweddaru yn rheolaidd gyda straeon allweddol ac eitemau. Dyma arwydd o newid yn y modd y bydd yr Amgueddfa yn mynd i’r afael ag arddangosfeydd y dyfodol, gyda’r gobaith o adeiladu ar ei chynnwys digidol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson: “Does dim amheuaeth fod Richard Burton yn eicon cenedlaethol hyd heddiw. Ni fyddai modd i ni adrodd y stori hon heb gymorth Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe ac rydym yn ddiolchgar iawn i Sally Burton am rannu ei chasgliad personol.

“Dyma’r arddangosfa gyntaf i archwilio ei fywyd yn llawn a rhannu sut y dyrchafwyd bachgen ifanc o gefndir gwerinol yn ne Cymru i ennill ei le fel un o’r Cymry enwocaf erioed, dyma stori ysbrydoledig yng nghyd-destun Cymru; sut mae ein gwlad arbennig yn llwyddo y tu hwnt i bob disgwyliad.

“Mae amgueddfeydd ac orielau yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau lles ein cenedl ac rwy’n falch fod Amgueddfa Cymru wedi gallu gwireddu’r arddangosfa hon ynghanol yr amgylchiadau anodd a wynebwn yn sgil y pandemig.”

Dywed yr Athro Martin Stringer, dirprwy is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Casgliad Richard Burton yn Abertawe yw’r ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr o wybodaeth wreiddiol ynglŷn â bywyd a gwaith Richard Burton, ac mae Canolfan Richard Burton yn arwain y ffordd o ran ymchwil amlddisgyblaethol ym maes astudiaeth ddiwylliannol Gymreig. Mae Prifysgol Abertawe wrth ein boddau o fod wedi gallu benthyg eitemau a chyfrannu ein harbenigedd at yr arddangosfa hon, lle caiff ymwelwyr, a’r sawl sy’n mynd at yr arddangosfa ar-lein, weld y bu Richard Burton yn ŵr diwylliannol, deallusol ac yn llyfrbryf o’i gorun i’w sawdl.”

Cyfrannodd Sally Burton, gweddw Richard Burton, nifer o’r gwrthrychau i Brifysgol Abertawe yn 2005, gan greu Archif Richard Burton. Dywed Sally: “Aeth Richard ar daith anferthol o Gymru at lwyfan y byd. Roedd rhywbeth eitha rhyfeddol amdano, roedd hynny’n amlwg o oedran ifanc. Rwy’n credu bod pawb gwrddodd ag e wedi teimlo hynny. Roedd pobl yn cael eu hatynnu ato. Roedd hi’n rhinwedd hudolus, ac roedd e hefyd yn gwybod ei fod yn meddu ar y rhinwedd honno, ond doedd e ddim yn hollol siŵr beth oedd hi. Un peth oedd e’n ei wybod odd bod yn rhaid iddo ei dilyn, gan oresgyn rhwystrau wrth fynd. Weithiau byddai’n gofyn, 'what is it about me?'. Dwi’n credu y bydd yr arddangosfa hon – a mae’n rhaid imi ddiolch i bawb gyfrannodd – yn ein galluogi ni i archwilio rhai o’r atebion diddorol hynny.”

Mi fydd casgliad digidol o lawysgrifau a ffotograffau sy'n gysylltiedig â'r bardd a'r awdur Dylan Thomas, ar gael ar-lein cyn hir, diolch i gydweithrediad rhyngwladol.

Bydd llawysgrifau, gohebiaeth, llyfrau nodiadau, lluniadau, cofnodion ariannol, ffotograffau, proflenni, a sgriptiau darlledu'r awdur o Abertawe ar gael ledled y byd trwy gydweithrediad rhwng Canolfan Harry Ransom ym Mhrifysgol Texas, Phrifysgol Abertawe, ac Ymddiriedolaeth Dylan Thomas. Mi fydd rhai o ddarnau enwocaf Dylan Thomas, y gerdd Do Not Go Gentle Into That Good Night, a'r ddrama Under Milk Wood, ymhlith y gwaith fydd yn cael eu digideiddio.

“Mae’r fenter hon yn addo dyfnhau ein dealltwriaeth o broses greadigol Dylan Thomas ac arwain at fewnwelediadau newydd i’w farddoniaeth ac ysgrifau eraill,” meddai Stephen Enniss, Cyfarwyddwr Betty Brumbalow yng Nghanolfan Harry Ransom. “Rydym yn ddiolchgar am y cydweithrediad hwn â Phrifysgol Abertawe ac yn ddiolchgar hefyd i Ymddiriedolaeth Dylan Thomas sydd wedi ei gwneud yn bosibl i ni rannu’r casgliad gyda’i ddarllenwyr ledled y byd.”

Mae casgliadau sy’n gysylltiedig â Dylan Thomas ym meddiant sawl sefydliad ledled y byd, ac mae gan Ganolfan Ransom y casgliad mwyaf yn y byd, sy’n cynnwys llawysgrifau, llythyrau, a ffotograffau sy’n olrhain gwreiddiau ei weithiau mawr ac esblygiad awdur ifanc. Mae’r prosiect hwn yn cynnwys digideiddio popeth yn llawysgrifen Dylan Thomas, o lythyrau a llawysgrifau i frasluniau a gweithiau celf. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys llyfrau nodiadau, darllediadau radio a dramâu radio.

Ganwyd Dylan Thomas ar 27 Hydref 1914 yn ardal Uplands, Abertawe, a bu farw ar 9 Tachwedd 1953 yn Efrog Newydd. Yn ystod ei oes ysgrifennodd lawer o gerddi adnabyddus, gan gynnwys Fern Hill, The Hunchback in the Park ac, wrth gwrs, Do Not Go Gentle Into That Good Night. Mae hefyd yn adnabyddus am ysgrifennu'r ddrama radio Dan y Wenallt, a'r casgliad o straeon, Portrait of the Artist as a Young Dog.

Meddai Hannah Ellis, rheolwr Ymddiriedolaeth Dylan Thomas: “Mae Ymddiriedolaeth Dylan Thomas yn falch iawn o fod yn bartner gyda Chanolfan Harry Ransom ym Mhrifysgol Texas a Phrifysgol Abertawe er mwyn gwireddu’r prosiect uchelgeisiol a hynod arwyddocaol hwn. Bydd yr archif ddigidol yn helpu pobl i ddeall mwy am y grefft fanwl a roddodd fy nhad-cu yn ei waith.”

Mae gan Archifau Richard Burton Prifysgol Abertawe un o lyfrau nodiadau ‘coll’ yr awdur, llawysgrifau o’i gerddi Unluckily for a Death and Into Her Lying Down Head, a phroflenni prin o sawl un o’i weithiau. Dyfernir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, un o'r gwobrau rhyngwladol mwyaf mawreddog, yn flynyddol i awduron ifanc am waith llenyddol cyhoeddedig gorau yn Saesneg sydd wedi'i ysgrifennu gan awdur 39 oed neu iau.

Meddai Peter Stead, sylfaenydd a llywydd Gwobr Dylan Thomas: “Llwyddodd dawn unigryw Dylan Thomas i sefydlu ei hun fel un o awduron mwyaf dylanwadol canol yr ugeinfed ganrif yn Llundain a Gogledd America. Mae’r Wobr a sefydlwyd yn ei enw yn sicr wedi dal dychymyg awduron yn rhyngwladol.”

Dywedodd yr Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Fel ceidwaid rhai o’r darnau sy’n ymwneud â Dylan Thomas, mae’n anrhydedd i ni fod yn rhan o’r prosiect hwn a fydd yn gwneud ei waith yn fwy hygyrch ledled y byd, ac mae hefyd yn  adlewyrchu ein hymrwymiad i gynyddu rôl gwaith Thomas ym myd addysg.”

Erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, bydd ystorfa ar-lein o ddeunyddiau Dylan Thomas a gedwir yng Nghanolfan Ransom ar gael i ymchwilwyr a’r cyhoedd trwy borth casgliadau digidol ar ei gwefan.

Creativity Fellows Photos
Mae'n bleser mawr gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe gyhoeddi mai Kaite O’Reilly a Peter Matthews yw'r ddau artist a ddewiswyd yn Gymrodorion Creadigrwydd cyntaf y Brifysgol.

Bydd Kaite O'Reilly, dramodydd sy'n gweithio ym meysydd celfyddydau anabledd a diwylliant prif ffrwd, a Peter Matthews, artist gweledol y mae ei waith yn pontio perfformiad a gwaith cysyniadol, yn dechrau ar eu Cymrodoriaethau blwyddyn o hyd y mis nesaf.

Wedi'u sefydlu gan yr awdur a'r Athro Creadigrwydd, Owen Sheers, mae'r Cymrodoriaethau Creadigrwydd yn fenter gyffrous newydd sy'n cynnig cyfle i ddau artist proffesiynol archwilio ac ymwneud ag ymchwil academaidd blaengar ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd gan bob artist 12 mis i ddewis prosiect ymchwil ac ymdrwytho ynddo, cyn creu gwaith celf newydd i'w ddadorchuddio ym mis Rhagfyr 2020.

Bydd enillydd Gwobr Ted Hughes, y dramodydd radio, yr ysgrifennwr a'r dramatwrg, Kaite O’Reilly, yn gweithio gyda'r Athro David Turner ar y prosiect Anabledd a'r Chwyldro Diwydiannol yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

Bydd Artist Tirlun y Flwyddyn Sky Arts, Peter Matthews, artist gweledol sy'n arbenigo mewn paentio lluniau ar lan neu o dan gefnforoedd y byd, yn cydweithio â Dr Ruth Callaway ar ei phrosiect ymchwil yn y biowyddorau ym Mae Abertawe: Changing Coasts.

"Mae derbyn un o'r cymrodoriaethau Creadigrwydd cyntaf yn fraint ac yn bleser mawr", meddai Kaite O’Reilly. "Dwi wedi bod yn creu dramâu am brofiad byw pob dydd pobl anabl am flynyddoedd maith a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at barhau â’r gwaith hwn o safbwynt hanesyddol, gan daflu goleuni ar y bywydau hyn sydd wedi eu gadael yn y tywyllwch a'u hesgeuluso am gymaint o amser."

"Dwi wrth fy modd fy mod i wedi cael fy newis yn un o'r ddau Gymrawd Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe," meddai Peter Matthews. "Byddaf yn cydweithio â Dr Ruth Callaway wrth i ni archwilio sut mae'r celfyddydau gweledol a bioleg y môr yn gorgyffwrdd, gan ddod o hyd i symbiosis creadigol pan gânt eu cyfuno fel dau bwnc astudio ac ymchwilio. Alla i ddim aros i fynd allan i'r traeth a dechrau creu lluniau!"

Derbyniodd y Sefydliad Diwylliannol lif o geisiadau o'r eiliad y cyhoeddwyd y cymrodoriaethau, felly roedd llunio'r rhestr fer yn her fawr. Fodd bynnag, ar ôl pwyso a mesur yn ofalus, dewiswyd Kaite a Peter gan banel o feirniaid a oedd yn cynnwys yr Athro Owen Sheers, Dr Sharon Bishop (Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe), yr Athro John Spurr (Pennaeth y Celfyddydau a'r Dyniaethau), yr Athro Liz McAvoy (Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol) a Karen MacKinnon (Curadur Oriel Gelf Glynn Vivian).

Meddai Owen Sheers, "Rwyf mor falch ein bod wedi lansio’r Cymrodoriaethau hyn drwy benodi dau artist mor ddawnus a chyffrous. Gobeithio y byddan nhw a'u partneriaid academaidd yn cael blwyddyn hynod ddiddorol o gydweithio ac archwilio, sydd hefyd yn addo bod yn injan pwerus ar gyfer datblygu sgwrs fywiog rhwng y gwyddorau a'r celfyddydau yn y Brifysgol a'r gymuned ehangach.”

Meddai'r Athro David Turner, "Rwyf wrth fy modd y byddaf yn gweithio gyda Kaite O’Reilly i gyflwyno straeon pobl anabl i genhedlaeth newydd. Bydd ymrwymiad Kaite i rymuso pobl anabl drwy'r celfyddydau creadigol yn darparu ffyrdd newydd a chyffrous o gysylltu brwydrau pobl anabl yn y gorffennol â phrofiadau pobl heddiw."

"Dwi'n hynod chwilfrydig am weithio gyda Peter Matthews”, meddai Ruth Callaway.  “Mae'r cysylltiadau mor gryf rhwng ei gelf a'm hymchwil i a'r môr wedi rhoi sylfaen i ni ddechrau'r sgwrs hon er bod gennym ffyrdd hollol wahanol o weithio."

I nodi dechrau cymrodoriaethau Kaite a Peter, cynhelir digwyddiad cyhoeddus nos Wener 15 Tachwedd pan fydd y ddau artist yn siarad am eu gwaith a'u hymagwedd at y cymrodoriaethau. Bydd Kaite a Peter yn cynnwys myfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe a'r gymuned leol yn eu prosiectau drwy weithdai am ddim ar adegau amrywiol yn y Gymrodoriaeth. Cyhoeddir manylion maes o law. 

Nos Wener 15 Tachwedd, 6.00pm - 7.30pm, Creu Taliesin, Prifysgol Abertawe.

Archebwch tocynnau am ddimam y digwyddiad cyhoeddus

 

Ailddarganfod Abertawe
Bydd diwrnod hwyl i'r teulu am ddim sy'n ymwneud â llong ryfel Harri'r VIII, y Mary Rose, yn arwain hwb Gŵyl Being Human Prifysgol Abertawe eleni, a chroesewir ymwelwyr i ddringo ar fwrdd y llong am anturiaethau rhyfeddol ar y moroedd mawr.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys sgyrsiau, perfformiadau a chlerddynion a bydd cyfle i greu drama Tuduraidd, cloddio am drysor a dysgu ffeithiau hynod ddiddorol a chyfrinachau sinistr am fywyd ar fwrdd y llong enwog a llawer mwy. Bydd cyfle hefyd i ymweld ag arddangosfa o drysorau’r Mary Rose, sy'n dod â byd hynod ddiddorol llong ryfel y Tuduriaid a'i chriw a gollwyd mewn brwydr ym 1545 yn fyw.

Dechreuir y cyfan yn Oriel Gelf Glynn Vivian ddydd Sadwrn 16 Tachwedd, o 11am tan 3pm, gyda sgyrsiau am 11.30am a 12.30pm.

Arweinir Gŵyl Being Human gan yr Ysgol Astudiaethau Uwch ym Mhrifysgol Llundain, mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Academi Brydeinig. Trefnir digwyddiadau Abertawe gan y Sefydliad Diwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe mewn cydweithrediad ag ystod o bartneriaid o ardal Bae Abertawe.

Bydd yr Ŵyl, a gynhelir rhwng 14 a 23 Tachwedd, yn canolbwyntio ar y thema Ailddarganfod Abertawe: o'r tir i'r môr, ac mae'n cynnwys rhaglen lawn o weithgareddau creadigol, perfformiadau, gweithdai a thrafodaethau. Mae pynciau’r digwyddiad yn amrywio o Pinocchio wedi’i ail-enwi mewn cymdeithas orllewinol fodern, disgleirdeb Sherlock Holmes, byd sinistr llofruddiaeth ar hyd yr oesoedd, i deulu diwydiannwr dylanwadol Abertawe, teulu Vivian.

Mae rhaglen Gŵyl Being Human hefyd yn cynnwys Darlith Flynyddol fawreddog Richard Burton. Bydd y cyfansoddwr o Gymru, Rhian Samuel, yn rhannu ei phrofiadau fel cyfansoddwr cerddoriaeth glasurol yn UDA a’r DU yn ei darlith, o’r enw ‘Now I Become Myself: a Woman’s Voice in Music and Poetry’.

Cynhelir y ddarlith, a drefnir mewn partneriaeth â Chanolfan Richard Burton Prifysgol Abertawe, yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe am 7.30pm nos Fercher 20 Tachwedd.

Yn y ddarlith, bydd Rhian yn myfyrio ar y gorffennol pan oedd cyfansoddwyr benywaidd yn brin iawn, i drafod faint yn fwy cyffredin ydyn nhw heddiw a sut mae'r newid hwn wedi cyfoethogi ein diwylliant. Yn ymuno â hi bydd y soprano Siân Dicker a bydd Kristal Tunnicliffe yn cyfeilio ar gyfer perfformiad o Gerddi Hynafol, gosodiadau o dri thestun Cymraeg canoloesol yn ôl pob golwg gan fenywod, a'r gân 'Before Dawn' wedi'i gosod i gerdd, 'Galaru i Wneud', gan yr Americanwr May Sarton.

Meddai Dr Elaine Canning, Pennaeth Ymgysylltu a Datblygu Diwylliannol y Sefydliad Diwylliannol: “Rydym yn falch iawn o fod yn cynnal hwn fel rhan o Ŵyl Being Human 2019 ac rydym am ddiolch i drefnwyr yr ŵyl am roi'r cyfle cyffrous hwn i ni ddod â'n hymchwil i gallon y gymuned unwaith yn rhagor."

Dysgwch fwy am ddigwyddiadau’r Ŵyl.

Max Porter & Lanny

Bydd Max Porter - enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2016 am ei nofel gyntaf o fri ryngwladol, Grief is the Thing with Feathers - yn ymuno â Dr Francesca Rhydderch ym Mhrifysgol Abertawe i drafod a darllen o'i ail nofel - y mae disgwyl mawr amdano'n fyd-eang ac sydd wedi cyrraedd rhestr hir gwobr Booker - Lanny.

Cynhelir y digwyddiad yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, ar ddydd Mercher 9 Hydref am 7:30pm, a bydd yn cynnwys sesiwn holi ac ateb a sesiwn llofnodi llyfrau.

Enillodd nofel Max Porter, Grief Is the Thing with Feathers, Wobr Ryngwladol Dylan Thomas; Gwobr Awdur Ifanc y Flwyddyn Sunday Times/Peters, Fraser + Dunlop; gwobr Europese Literatuurprijs; a Gwobr Darllenwyr BAMB (Books Are My Bag). Cyrhaeddodd hefyd restr fer Gwobr Llyfr Cyntaf y Guardian a Gwobr Goldsmiths.

Mae ei nofel ddiweddaraf, Lanny, wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr Booker 2019. Wedi'i disgrifio'n ddiddorol fel croes rhwng Under Milk Wood a Broadchurch, mae Lanny yn stori am blentyn, teulu, pentref a chymuned, a'r hanesion a rennir drwy'r cenedlaethau. Gan ein hatgoffa o'r Llais Cyntaf hollweledol ym mhentref ffuglennol Llareggub Dylan Thomas, mae'r darllenydd yn dysgu safbwynt unigryw Dead Papa Toothwort, ysbryd hynafol a all newid ffurf sy'n gweld ac yn bwydo ar fywyd y pentref.

Mae Lanny wedi derbyn canmoliaeth helaeth, ac meddai'r awdur o fri, Maggie O’Farrell: "Mae'n anodd mynegi cymaint y mwynheais Lanny. Ni welir llyfrau cystal â hwn yn aml iawn. Mae'n nofel unigryw, yn fywiogol, yn anesmwythol ac yn llon ei darllen. Bydd yn mynd i mewn i'ch brest ac yn dal gafael yn eich calon. Mae'n nofel i'w gwthio i ddwylo pawb rydych chi'n eu hadnabod a dweud, 'darllena hon'."

Cynhelir y digwyddiad mewn partneriaeth â Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe a siop lyfrau Cover to Cover.

Pris y tocynnau ar gyfer y digwyddiad yw £8, a £5 i fyfyrwyr.
Gallwch ffonio Swyddfa Docynnau Taliesin ar 01792 602060.

Prynwch docynnau o swyddfa docynnau’r Taliesin

Ddydd Gwener 17 Mai, ymunodd asiantiaid llenyddol, cyn-fyfyrwyr cyhoeddedig ac actorion proffesiynol â myfyrwyr ôl-raddedig Ysgrifennu Creadigol am ddiwrnod o ddathlu ac ysbrydoli.

Diolch i'r asiantiaid Lucy Morris (Curtis Brown Book Group), Hannah Griffiths (All3Media) a Tristan Kendrick (Rogers, Coleridge and White) am ddechrau'r diwrnod gyda mewnwelediadau defnyddiol, argymhellion a thrafodaethau dan gadeiryddiaeth yr Athro Owen Sheers.

literary agents day 2019

Yna gwnaeth pedwar cyn-fyfyriwr Ysgrifennu Creadigol hynod lwyddiannus ymuno â ni – y mae pob un ohonynt wedi cyhoeddi eu gwaith yn ddiweddar. Diolch yn fawr i Rhys Owain WilliamsRebecca John, Jane Fraser a Wendy Holborow am ddarllen a siarad â'n grŵp cyfredol o fyfyrwyr ôl-raddedig Ysgrifennu Creadigol.

Dywedodd Dr Francesca Rhydderch, Cyfarwyddwr MA mewn Ysgrifennu Creadigol: 'Mae'r diwydiant cyhoeddi'n hynod heriol a chystadleuol, a thrwy gynnig y cyfle i'n myfyrwyr gwrdd ag asiantiaid wyneb yn wyneb, rydym yn hyderus y byddant yn teimlo'n barod i ddilyn yr ochr fusnes o ysgrifennu mewn modd proffesiynol a medrus unwaith y byddant yn graddio.

Rhoddodd ein diwrnod 'Awduron ac Asiantiaid' hefyd y cyfle i fyfyrwyr presennol glywed am y maes o safbwynt cyn-fyfyrwyr, sydd bellach yn awduron cyhoeddedig arobryn.

Writers' Day

'Yn gyffredinol, dyma ddiwrnod o ddathlu yn ogystal ag addysg. Hoffai'r tîm addysgu Ysgrifennu Creadigol ddiolch i'r Sefydliad Diwylliannol am sicrhau ei fod yn ddigwyddiad, i'r Athro Owen Sheers am gynnal y digwyddiad mor wych, i'r asiantiaid a'r awduron am roi o'u hamserlenni prysur i ddod i ymweld â ni, ond yn anad dim, ein myfyrwyr presennol sydd wedi ymgysylltu'n llawn eleni â'r holl bethau sydd gan ein MA mewn Ysgrifennu Creadigol eu cynnig.'

Mae MA mewn Ysgrifennu Creadigol Abertawe'n enwog am y cyfleoedd eang y mae'n eu cynnig i'w myfyrwyr, o bob math o ffuglen, i'r ffeithiol creadigol a'r genres amrywiol o ysgrifennu ar gyfer perfformio - llwyfan, sgrin a radio. Bob blwyddyn, mae myfyrwyr MA Abertawe'n cael y cyfle i weld eu gwaith yn cael ei berfformio gan actorion proffesiynol yn ein digwyddiad Rough Diamonds. Eleni, cyfunwyd Rough Diamonds â'r Diwrnod Awduron ac Asiantiaid ac roedd y digwyddiad gyda'r hwyr yn Theatr Taliesin yn llwyddiant ysgubol.

Rough Diamonds 2019

Dywedodd Cyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol Abertawe, yr Athro D.J Britton: 'Roedd gweld dyfyniadau trawiadol o ddramâu gan 13 o awduron newydd yn wledd o bopeth sy'n dda mewn ysgrifennu ar gyfer perfformio. Roedd y sylwadau craff ganddynt am fywyd cyfoes yn symbylol ac yn ddifyr – diwedd gwych i ddiwrnod gwych.'

Diolch yn arbennig i Dr Francesca Rhydderch a'r Athro D.J Britton o garfan 2018-19 o fyfyrwyr MA mewn Ysgrifennu Creadigol 2018-19.

I ddathlu pymtheng mlwyddiant Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, mae ceidwaid y Wobr, Prifysgol Abertawe, wedi cyhoeddi am y tro cyntaf y bydd pum beirniad gwadd yn ymuno â'r Cadeirydd yr Athro Dai Smith CBE a'r Athro Kurt Heinzelman i ddewis enillydd 2020 gwobr fwya'r byd i awduron ifanc.

Mae'r beirniaid gwadd yn garfan o bobl â dawn lenyddol anhygoel, gan gynnwys yr awdur arobryn a sylfaenydd Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur Namita Gokhale, yr awdur ac enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2011 Lucy Caldwell, yr awdur, y bardd a'r beirniad Prydeinig-Ghanaidd Bridget Minamore, yr awdur a chyflwynydd adnabyddus BBC Radio 3: The Verb Ian McMillan a'r newyddiadurwr celfyddydau a diwylliant llwyddiannus Max Liu.

Dywedodd yr Athro John Spurr, Prifysgol Abertawe: “Mae hon yn flwyddyn arbennig iawn i’r Wobr, wrth i Brifysgol Abertawe ddathlu ei chanmlwyddiant ac i’r Wobr ddathlu ei phymthegfed blwyddyn, ac rydyn ni'n falch iawn o gael ffigurau llenyddol mor nodedig yn ymuno â'r panel beirniadu. Edrychwn ymlaen unwaith eto at gael gweld rhestr hir gyffrous a rhestr fer fydd yn cynrychioli'r gorau o waith ysgrifennu pobl ifanc ledled y byd.”

Y panel o feirniaid fydd â'r dasg o ddewis y gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn Saesneg ar draws genres, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a drama, wedi'i ysgrifennu gan awdur 39 oed neu iau.

Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys: Guy Gunaratne am In Our Mad and Furious City (2019), Kayo Chingonyi am Kumukanda (2018), Fiona McFarlane am The High Places (2017), Max Porter am Grief is the Thing With Feathers (2016), Joshua Ferris am To Rise Again at a Decent Hour (2014), Claire Vaye Watkins am Battleborn (2013), Maggie Shipstead am Seating Arrangements (2012), Lucy Caldwell am The Meeting Point (2011), Elyse Fenton am Clamor (2010), Nam Le am The Boat (2008) a Rachel Tresize am Fresh Apples (2006).

Cyhoeddir rhestr hir y Wobr yn fyw ar 24 Ionawr yng Ngŵyl Lenyddiaeth fawreddog Jaipur yn India, a'r rhestr fer ar 7 Ebrill, cyn cynnal Seremoni'r Enillydd yn Abertawe ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, 14 Mai.

Mwy ar y beirniaid