Mae Caleb Azumah Nelson wedi ennill y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – am ei nofel Small Worlds (Viking, Penguin Random House UK).
Yn ôl y panel beirniadu eleni, mae Small Worlds yn waith ysgogol sy'n adrodd stori bersonol tad a mab a osodir rhwng de Llundain a Ghana dros dri haf. Mae'r fuddugoliaeth yn cadarnhau bod yr awdur Prydeinig-Ghanaidd, sy'n 30 oed, yn un o sêr cynyddol ffuglen lenyddol, yn dilyn ei nofel gyntaf glodfawr, Open Water, a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2022.
Cyflwynwyd y wobr fyd-eang gwerth £20,000 – sy'n dathlu llenorion eithriadol o dalentog 39 oed neu'n iau – i Caleb Azumah Nelson mewn seremoni a gynhaliwyd yn Abertawe nos Iau 16 Mai.
Mae Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, a lansiwyd yn 2006 ac a gynhelir bob blwyddyn, yn un o'r gwobrau uchaf eu bri i awduron ifanc, a'i nod yw annog doniau creadigol craidd yn fyd-eang. Mae'r wobr wedi'i henwi ar ôl Dylan Thomas, llenor a aned yn Abertawe, ac mae'n dathlu ei 39 mlynedd o greadigrwydd a chynhyrchiant. Ac yntau'n un o awduron mwyaf dylanwadol ac adnabyddus yn rhyngwladol canol yr ugeinfed ganrif, mae'r wobr yn dwyn ei enw er mwyn cefnogi llenorion presennol, meithrin doniau'r dyfodol a dathlu rhagoriaeth lenyddol ryngwladol o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu.
Meddai Namita Gokhale, Cadeirydd y Beirniaid yn 2024, ar ran y panel: “O blith rhestr fer hynod drawiadol a ddangosodd ehangder o genres a lleisiau newydd cyffrous, roedden ni'n unfrydol wrth ganmol y nofel emosiynol hon a ddaw o'r galon. Mae Caleb Azumah Nelson yn ysgrifennu mewn modd cerddorol, mewn llyfr a luniwyd i'w ddarllen yn dawel a gwrando arno'n uchel i'r un graddau. Mae delweddau a syniadau'n codi fwy nag unwaith mewn modd hyfryd o effeithiol, gan sicrhau bod gan natur symffonig Small Worlds naws ysgogol. Mae'r darllenydd yn cael ei ysgubo i ffwrdd gan gymeriadau dwfn wrth iddyn nhw deithio rhwng Ghana a de Llundain, gan geisio dod o hyd i ryw fath o gartref. Yn heriol yn emosiynol ond yn eithriadol o iachusol, mae Small Worlds yn teimlo fel balm: mae mor onest am gyfoeth ac anawsterau aruthrol byw i ffwrdd o'ch diwylliant.”
Y llyfrau eraill ar restr fer y wobr yn 2024 oedd A Spell of Good Things gan Ayòbámi Adébáyò (Canongate Books), The Glutton gan A. K. Blakemore (Granta), Bright Fear gan Mary Jean Chan (Faber & Faber), Local Fires gan Joshua Jones (Parthian Books) a Biography of X gan Catherine Lacey (Granta).
Beirniaid gwobr 2024 oedd Namita Gokhale (Cadeirydd), llenor a chyd-gyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur, ochr yn ochr â Jon Gower, awdur a darlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe; Seán Hewitt, enillydd Gwobr Rooney am Lenyddiaeth Wyddelig yn 2022 ac Athro Cynorthwyol yng Ngholeg y Drindod Dulyn; Julia Wheeler, cyn-ohebydd y BBC am y Gwlff ac awdur Telling Tales: An Oral History of Dubai; a Tice Cin, artist rhyngddisgyblaethol ac awdur Keeping the House.
Mae Caleb Azumah Nelson yn ymuno â rhestr glodfawr o lenorion sydd wedi ennill y wobr uchel ei bri hon, gan gynnwys Raven Leilani, Bryan Washington, Guy Gunaratne, Kayo Chingonyi, Fiona McFarlane, Max Porter ac enillydd y llynedd, Arinze Ifeakandu.