Trosolwg
Dechreuodd Angella ei gyrfa fel athrawes Saesneg mewn ysgolion uwchradd yn ne Cymru. Ers symud o’r ystafell ddosbarth i faes addysgu athrawon yn 2003 mae ganddi gyfrifoldeb penodol dros arwain nifer o fodiwlau a chyrsiau. Mae’r rhain wedi cynnwys bod yn gyfarwyddwr rhaglen ar gyfer rhaglen TAR Uwchradd, Arweinydd Ieithoedd a Llythrennedd ar draws ystod o raglenni a rheolwr maes ar gyfer modiwlau llythrennedd cyrsiau gradd MA (Add.). Mae hi hefyd wedi goruchwylio nifer o draethodau estynedig cyrsiau gradd MA ar ystod o bynciau.
Mae ei diddordebau proffesiynol yn cynnwys archwilio llythrennedd mewn lleoliadau addysg uwchradd gan ganolbwyntio ar lythrennedd disgyblaethol. Hefyd mae gan Angella ddiddordeb mewn ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn ogystal â maes datblygiad athrawon.