Trosolwg
Rwy'n dysgu Ysgrifennu Creadigol, Ffuglen a Ffilm ym Mhrifysgol Abertawe. Rwyf wedi ysgrifennu dwy nofel freuddwydiol, chwareus o swrrealaidd sef The Sleepwalkers' Ball (2009) a The Known and Unknown Sea (2014), yn ogystal â chasgliad o straeon byrion, Anywhere Out of The World (2016). Fi hefyd yw awdur Silent Film Comedy and Amercian Culture (2014), An Introduction to Contemporary American Fiction (2002) a chyd-olygydd The American 1920s (2004). Mae fy straeon byrion, traethodau ac erthyglau wedi ymddangos yn y New Welsh Review, Planet, The Journal of American Studies, The European Journal of American Culture, ac mewn cyhoeddiadau eraill. Mae fy nofel newydd, The End of The Yellow House, ffantasi hanesyddol wedi'i gosod yn ystod Rhyfel Cartref Rwsia, i'w chyhoeddi yn ddiweddarach eleni.