Trosolwg
Graddiodd Yr Athro Antonio J. Gil fel Ingeniero de Caminos, Canales y Puertos o Brifysgol Granada (Sbaen) ym mis Mehefin 1999 (yn y safle 1af yn genedlaethol) ar ôl treulio un flwyddyn academaidd (1998-1999) ym Mhrifysgol California Davis, wedi’i ariannu'n llawn gan raglen ysgoloriaeth California uchel ei bri. Ar ôl cwrs dwy flynedd Tystysgrif Astudiaethau Uwch (MSc) ym maes Mecaneg Gyfrifiannol, symudodd i Brifysgol Abertawe lle cwblhaodd ei PhD ym maes dadansoddiad cyfrifiannol o bilenni strwythurol aflinol ym mis Ionawr 2005 (enillydd papur PhD gorau Cymdeithas Mecaneg Gyfrifiannol y DU 2004).
Enillodd y Wobr 1af Genedlaethol gan Weinyddiaeth Addysg Sbaen yn 2000 ac ers hynny mae wedi derbyn nifer o wobrau ymchwil pellach fel Prif Ymchwilydd ac fel goruchwyliwr PhD, gan gynnwys Gwobr Philip Leverhulme y DU yn 2011 a Gwobr Olgierd Cecil Zienkiewicz ECCOMAS 2016 am ei gyfraniadau fel ymchwilydd ifanc ym maes mecaneg gyfrifannol.