Trosolwg
Ymunodd Dr Annamari Ylonen ag Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe fel Swyddog Ymchwil mewn Addysg Gychwynnol i Athrawon ym mis Ebrill 2020. Mae gan Annamari brofiad helaeth ym maes ymchwil a gwerthuso mewn dysgu ac addysgu a enillodd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol trwy weithio i nifer o brifysgolion yn y Deyrnas Unedig gan gynnwys Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Caergrawnt a Phrifysgol East Anglia.
Mae hi wedi cynnal ymchwil a gwerthuso ym meysydd Ehangu Cyfranogiad, Cynnydd Dysgu ym myd Addysg Uwch, datblygiad proffesiynol athrawon trwy Astudio Gwersi, gwella ysgolion yn Qatar, a chynhwysiant ac anghenion addysgol arbennig. Mae Annamari wedi ennill profiad mewn defnyddio methodolegau megis Gwerthuso Realyddion, llunio ymchwil lled-arbrofol, ymchwil astudiaethau achos a defnyddio dulliau cymysg.
Mae ei diddordebau ymchwil eang yn cynnwys dulliau rhyng-ddisgyblaethol er mwyn gwella prosesau dysgu ac addysgu, datblygu modelau rhagoriaeth cyfannol, datblygiad proffesiynol i athrawon a chyfiawnder a chynhwysiant cymdeithasol fel y’u cymhwysir yn rhan o bolisïau ac ymarferion ym maes addysg.