Trosolwg
Mae Chris Pak yn arbenigo mewn astudio Ffuglen Wyddonol a bu'n un o feirniaid gwobr Arthur C. Clarke rhwng 2018 a 2020. Enillodd BA mewn Saesneg Iaith a Llenyddiaeth, MA mewn Astudiaethau Ffuglen Wyddonol a doethuriaeth yn Adran Saesneg Prifysgol Lerpwl. Ei benodiad ôl-ddoethurol cyntaf oedd fel ymchwilydd ar brosiect Ieithyddiaeth Corpws a ariannwyd gan Leverhulme, “‘People’, ‘Products’, ‘Pests’ and ‘Pets: The Discursive Representation of Animals’” (Prifysgol Caerhirfryn), a'i ail oedd ar brosiect Dyniaethau Digidol wedi'i ariannu gan Volkswagen, “Modelling Between Digital and Humanities: Thinking in Practice” (King’s Digital Lab). Ef yw awdur Terraforming: Ecopolitical Transformations and Environmentalism in Science Fiction (Gwasg Prifysgol Lerpwl, 2016), cyfraniad at y Dyniaethau Amgylcheddol, Astudiaethau Iwtopaidd ac Ôl-wladoliaeth sy'n dadansoddi sut mae trawsnewidiadau i amgylcheddau mewn ffuglen wyddonol yn cwestiynu gwleidyddiaeth fyd-eang newid yn yr hinsawdd a'r Anthroposen.