Trosolwg
Rwy’n Ddarlithydd Pwnc ar gyfer Dylunio a Thechnoleg yn yr Adran Addysg Gychwynnol i Athrawon. Rwyf wedi bod yn gweithio fel athro Dylunio a Thechnoleg mewn ysgol Uwchradd ers nifer o flynyddoedd. Yn ystod fy amser, rwyf wedi datblygu cynlluniau gwaith, wedi cynnal nifer o sesiynau HMS i’r staff cyfan, wedi cadeirio nifer o Gymunedau Dysgu Athrawon ac rwyf hefyd wedi gweithio fel Pennaeth Bugeiliol Blwyddyn. Fy mhrif ddiddordebau ymchwil yw defnyddio TGCh i wella addysgeg yn yr ysgol a gartref, lles staff a disgyblion a’r defnydd o Hyfforddi a Mentora mewn ysgol. Rwyf hefyd wedi ymchwilio i effaith defnyddio’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir i gefnogi addysgu yn yr ystafell ddosbarth yn ystod fy ngradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol. Mae gennyf ddiddordeb brwd mewn ymchwil weithredol a chredaf mewn ymagwedd sy’n seiliedig ar ymchwil at ddatblygu strategaethau. Un o’m hathroniaethau allweddol yw nid yw dysgu byth yn darfod a dylem bob amser geisio gwella ein hunain a bod yn gyfoes yn ein gwaith, yn arbennig mewn byd sy’n datblygu ac yn newid drwy’r amser.