Trosolwg
Mae Dr Christopher J Coates yn Athro Cyswllt mewn Imiwnoleg Gymharol ym Mhrifysgol Abertawe gan arbenigo mewn iechyd a chlefydau pysgod cregyn, pryfed a modelau tocsicoleg, a rolau rhwymo ocsigen /proteinau cludo mewn imiwnedd cynhenid.
Mae Christopher yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, ac roedd wrth ei fodd yn arwain y Tîm Academaidd (2015 – 2017) yn yr Adran Biowyddorau er mwyn sicrhau achrediad diamod ar gyfer yr holl raglenni gradd (BSc) a restrir. Mae Christopher yn aelod etholedig o Senedd Prifysgol Abertawe, yn Arweinydd Iechyd a Diogelwch yr Adran Biowyddorau, ac yn Swyddog Diogelwch Biolegol ac Addasu Genetig ar gyfer Gwyddoniaeth.
Y tu allan i’r Brifysgol, mae Christopher yn aelod etholedig o Gymdeithas Frenhinol Bioleg a’r International Society of Developmental and Comparative Immunology, ac yn aelod o Fwrdd Golygyddol Pathogens, cyfnodolyn yr MDPI.