Trosolwg
Ymunodd Chris â Phrifysgol Abertawe ym mis Ebrill 2024 fel cynorthwy-ydd ymchwil i gefnogi datblygu ac ehangu'r Sefydliad Ymchwil i Heriau Geo-Wleidyddol a'r Rhwydwaith Ymchwil i Weithredu ar yr Hinsawdd, ill dau yn rhan o Gyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Ymysg ei ddyletswyddau mae nodi meysydd newydd ac arloesol ar gyfer ymchwil gan feithrin cydweithrediad rhyngddisgyblaethol a helpu i gefnogi ceisiadau am gyllid.
Cyn ymuno ag Abertawe, bu Chris yn gweithio fel cynorthwy-ydd/cydymaith ymchwil ar ymchwil agored ym Mhrifysgol Leeds. Yn ddiweddar, mae wedi cwblhau ei PhD yng Ngwleidyddiaeth y Dwyrain Canol yn Sefydliad Astudiaethau Arabaidd ac Islamaidd, Prifysgol Caerwysg. Derbyniodd Chris ysgoloriaeth 1+3 lawn yr ESRC drwy Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol De-orllewin Lloegr i gynnal ei astudiaethau doethurol yng Nghaerwysg. Teitl ei draethawd ymchwil oedd After the Dust Has Settled: Exploring ‘Residue’ from the 2011 Arab Uprising in Morocco and How it has Shaped Youth Political Participation Over the Years Since.
Ynghyd â'i rôl Cynorthwy-ydd Ymchwil yn Abertawe, mae wrthi'n paratoi ei draethawd ymchwil i'w gyhoeddi gyda chyhoeddiadau eraill o'i ddiddordebau ymchwil. Mae'r rhain yn cynnwys erthygl mewn cyfnodolyn am gyfranogiad ieuenctid a chymdeithas sifil ym Morocco a phennod mewn llyfr ar lwyddiant pêl-droed Llewod Atlas Morocco yng Nghwpan y Byd FIFA 2022 a'i effeithiau ar Affricaniaeth. Mae ef hefyd wrthi'n ymchwilio i syniadau a chyfleoedd ymchwil newydd i'w dilyn yn y dyfodol agos.
Mae ei arbenigedd a'i ddiddordebau ymchwil yn bennaf mewn gwleidyddiaeth gymharol yn rhanbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (MENA), lle bu ei PhD yn ymchwilio i effeithiau tymor hwy ac etifeddiaeth Gwrthryfeloedd Arabaidd 2011 (Arab Spring) ar gyfranogiad gwleidyddol ieuenctid ac ar lawr gwlad ym Morocco. Mae hefyd yn arbenigo mewn meysydd sy'n cynnwys galluedd ieuenctid a gwleidyddol, gwydnwch awdurdodaidd, dynameg yr wrthblaid o dan awdurdodyddiaeth, actifiaeth wleidyddol a symudiadau cymdeithasol (gan gynnwys Damcaniaeth Symudiadau Cymdeithasol Newyddion), cymdeithas sifil, pleidiau gwleidyddol, ieuenctid a gweithredu ar yr hinsawdd, cymorth democrataidd dramor a chwaraeon (pêl-droed yn bennaf) a chyfranogiad gwleidyddol a hunaniaeth.